Pwy ddychmygai, ychydig flynyddoedd yn ôl, y byddai grwpiau byd fflat yn cael cymaint o sylw, pleidiau gwleidyddol eithafol yn cael cymaint o bleidleisiau, a phobl yn rhoi cymaint o bwysau ar yr hyn y mae’r selebs yn ei ddweud. Mae’n amlwg fod ymddiriedaeth mewn awdurdod yn brin yn ein dyddiau ni.
Efallai nad yw’r duedd gymdeithasol hon yn hollol annisgwyl o ystyried yr holl addewidion gwag sydd wedi eu gwneud gan rai mewn awdurdod dros y blynyddoedd diwethaf. A phan fo pobl yn cael eu hannog i wrthod gwirionedd absoliwt a chwilio am wirionedd y tu mewn iddynt eu hunain, does dim syndod fod pobl yn gwrthod y meddylfryd arferol a chredu rhywbeth, neu unrhyw beth gwahanol.
Ym mhwy y medrwn ni ymddiried?
Cysur mewn byd o ansicrwydd yw troi at Dduw. Diolch byth nad oes yn rhaid i ni chwilio o’n mewn i geisio darganfod yr hyn sy’n wir – pwy ŵyr beth a ddarganfyddwn? Diolch hefyd nad oes rhaid gwrando ar leisiau digon didwyll, ond gwahanol cymdeithas syrthiedig sy’n newid yn wythnosol ac yn arwain pobl i gymaint o gyfeiriadau gwahanol.
Wrth ddod at Dduw cawn y gwirionedd a chawn dir cadarn i sefyll arno. Yn y Beibl gwelwn beth yw realiti’r byd hwn, beth yw difrifoldeb ein sefyllfa euog, a beth yw’r gras y mae Duw’n ei gynnig yn Iesu. Wrth ddod at Dduw cawn brofi’r Ysbryd yn argyhoeddi a dangos yr hyn sy’n wir ac yn real.
Gwnaeth hyn fy nharo yn arbennig yn ddiweddar wrth ddarllen adnod yn Natguddiad 21:
Wele yr wyf yn gwneud pob peth yn newydd.
Yma cawn olwg, drwy lygaid Ioan, ar yr hyn sydd am ddigwydd ar ddiwedd y byd hwn. Dyma realiti go iawn – nid syniadau dynol, ond Duw yn codi’r llen ar yr hyn y mae am ei wneud.
Dyma Dduw yn dweud ei fod wedi edrych ar y Ddaear ac nad yw’n hapus, nid yw’n hapus gyda’n gwrthryfel na’r canlyniadau erchyll sydd wedi digwydd i’w greadigaeth, ac felly mae am drawsnewid y cyfan – mae am wneud y cyfan yn newydd. Trwy ei ras a’i gariad mae’n dod a’r byd syrthiedig hwn i glwm, gan gosbi pechod, barnu’r euog a phuro’r cyfan. Mae am ail-greu’r greadigaeth a bydd yn gosod ei hun yn ganolbwynt amlwg a phersonol i’r cyfan.
Dyma wirionedd sy’n atseinio realiti ein teimladau wrth i ni edrych ar ddrygioni, problemau a dioddefaint gan wybod nad yw hyn yn iawn a gweiddi allan am newid. Dyma wirionedd sy’n delio â realiti ein hanghenion ysbrydol dyfnaf wrth i ni wynebu ein cyflwr marw a’n hanallu i fyw bywyd o harmoni gyda Duw a’i greadigaeth. Dyma wirionedd go iawn sy’n darparu ffordd i lanhau ein cydwybod euog drwy farwolaeth Iesu, a dyma wirionedd sy’n darparu gobaith real i bob Cristion.
Ydyn ni’n ymddiried yng ngeiriau Duw?
Dim ond un ffordd sydd i ateb y cwestiwn hwn. Nid yw ymddiriedaeth yn rhywbeth yn y meddwl, neu’n rhywbeth a ddywedwn â’n gwefusau. Bydd ymddiriedaeth yn ei dangos ei hun yn ein gweithredoedd. Bydd yn dangos ei hun yn yr amser a dreuliwn gyda Duw o’i gymharu â’r amser a dreuliwn yn gwylio’r teledu. Bydd yn ymddangos ar ein mantolen banc wrth weld beth a wariwn ein harian arno. Bydd yn ymddangos wrth i ni ymateb i broblemau bywyd – troi at Dduw neu geisio eu hateb ein hunain yn gyntaf. Bydd yn ymddangos yn ein dyheadau am ein plant, ein ffrindiau a’n cymdogion.
Diolch i Dduw am y gras rhyfeddol mae wedi ei arddangos yn agor ein llygaid i realiti go iawn a gadewch i ni ymddiried yn llwyr ynddo – wyt ti’n ymddiried yn Nuw?