Roedd ganddo awydd ysol i fynd â’r efengyl i Corea.
Wedi sicrhau lle yn gyfieithydd ar long Americanaidd, cychwynnodd am Pyongyang, y brifddinas.
Wrth i’r llong hwylio ar hyd afon Taedong, dosbarthodd Feiblau a thractau Tsieineeg i’r bobl ar y glannau.
Ond cododd anghydfod rhwng criw’r llong a’r Coreaid. Ger Pyongyang herwgipiwyd pennaeth yr heddlu gan y criw – y bwriad, mae’n debyg, oedd ei ddal yn wystl er mwyn sicrhau modd i ddianc yn sydyn petai angen.
Y canlyniad, fodd bynnag, oedd gwrthdaro ffyrnig. Dechreuodd y llong saethu at y Coreaid, ac ymosododd y rheini arni. Cafodd ef a’r criw eu dal a’u lladd. Yn ôl un adroddiad, cynigiodd Feiblau i’r Coreaid ond fe’u lladdwyd yn y fan a’r lle. Medd adroddiad arall iddo gael ei ddwyn at lywodraethwr yr ardal i gael ei ddienyddio’n ffurfiol, ac iddo roi ei Feibl olaf i’w ddienyddiwr.
1866 oedd hi. Ei enw? Robert Jermain Thomas. Roedd bron â chyrraedd ei benblwydd yn 27 oed.
A dyna’i diwedd hi, i bob golwg ar y pryd.
Ond nid dyna’r gwir o gwbl . . .
A dechrau yn y dechrau . . .
Awn yn ôl i’r dechrau. Fe’i ganwyd yn 1839 yn Rhaeadr Gwy, sir Faesyfed, lle roedd ei dad, Robert Thomas, yn weinidog gyda’r Annibynwyr. Yn 1848 daeth ei dad yn weinidog Capel Hanover, Llanofer, ger y Fenni. Derbyniwyd Robert Jermain Thomas yn aelod o’r eglwys pan nad oedd ond yn bymtheg oed. Yma hefyd y pregethodd ei bregeth gyntaf, ar y testun ‘Iesu Grist, ddoe a heddiw yr un, ac yn dragywydd’.
Wedi bod yng Ngholeg Llanymddyfri, bu’n athro am ychydig, ac yna astudiodd ddiwinyddiaeth yn y Coleg Newydd, Llundain.
Tsieina
Ym mis Gorffennaf cychwynnodd ef a’i wraig Caroline ar eu taith hir i Tsieina i weithio dros Gymdeithas Genhadol Llundain. Ym mis Rhagfyr dyma gyrraedd Shanghai a dechrau dysgu Tsieineeg.
Ond o fewn ychydig fisoedd daeth ergyd aruthrol. Tra roedd ef i ffwrdd yn Hankow yn gweld a fyddai modd symud yno i fyw, collodd ei wraig y plentyn roedd yn ei gario a bu hi farw. Ei geiriau olaf oedd, ‘Mae Iesu’n annwyl iawn gennyf’. Fel hyn y mynegodd Thomas ei deimladau i’r Gymdeithas Genhadol: ‘Mae fy nghalon bron â thorri. Gobeithiaf fy rhoi fy hun yn fwy nag erioed i’r gwaith rwyf newydd ddechrau arno, ond ar hyn o bryd teimlaf fod fy ngalar dwfn yn pwyso’n drwm arnaf.’
Yn lle rhoi’r gorau iddi a dod yn ôl i Gymru, wedi dygymod â’i golled ceisiodd Thomas gyfleoedd newydd i bregethu’r efengyl yn Tsieina. Daeth i gredu nad oedd polisi lleol y Gymdeithas Genhadol yn hybu efengylu uniongyrchol ymhlith y Tsieineaid. O ganlyniad ymddiswyddodd, gan symud i Chefoo ac yna i Beijing. Yno daeth ar draws pobl o Corea. Wedi sylweddoli fod tebygrwydd rhwng ieithoedd Tsieina a Corea, dechreuodd ystyried a fyddai’n bosibl iddo fynd â’r efengyl i Corea.
Corea
Am ganrifoedd lawer roedd Corea wedi bod yn wlad gaeedig, heb fawr o gysylltiad â gwledydd eraill, ar wahân i Tsieina. Roedd cenhadon Pabyddol wedi mentro yno o’r 1790au ymlaen, ond erlidiwyd eu dilynwyr yn ffyrnig.
Er gwaetha’r peryglon, yn 1865 aeth ar daith i edrych y wlad. Tra roedd yno llwyddodd i wella ei afael ar yr iaith, dosbarthu llenyddiaeth Gristnogol, ac ystyried y posibiliadau ar gyfer gwaith efengylu.
Wedi ei galonogi gan yr hyn a welodd, penderfynodd fentro mynd â’r efengyl i Corea. Roedd wedi gofyn am ei le eto dan nawdd y Gymdeithas Genhadol, ond ni theimlodd honno y gallai ei gefnogi yn ei fwriad. Rhaid dweud fod rhywbeth braidd yn orbenderfynol amdano’n gyffredinol, ond does dim amau ei ymroddiad i achos Crist.
Yr ymroddiad hunanaberthol hwn a’i harweiniodd i hwylio ar y llong Americanaidd. A’i farwolaeth ar lan afon Taedong oedd y canlyniad.
Y diwedd?
Ond drwy ragluniaeth ryfeddol Duw nid dyna’r diwedd o gwbl.
Unwaith eto ceir gwahanol adroddiadau o’r hyn a ddigwyddodd, ond cytunant i nifer o’r Coreaid ddechrau darllen y Beiblau a’r tractau ac iddynt gael tröedigaeth o ganlyniad. Mae’n debyg i dudalennau o’r Beibl gael eu defnyddio yn bapur wal mewn un tŷ, ac i’r trigolion ddod i ffydd yng Nghrist o’u darllen. Pan lwyddodd cenhadon o’r gorllewin i gael mynediad i Corea daethant ar draws grwpiau o gredinwyr ar hyd glannau’r afon. Yn drawiadol iawn, daeth y dyn a laddodd Thomas yn Gristion, a bu rhai o’i ddisgynyddion yn bregethwyr yr efengyl.
Yn 1932 agorwyd Eglwys Goffa Robert Thomas yn Pyongyang, ar lan yr afon lle bu farw. Cofiai un o’r diaconiaid cyntaf iddo, fel bachgen ifanc, weld Thomas yn cael ei ladd a chadw rhai o’r Beiblau a daflwyd i’r lan. Ar gonglfaen yr adeilad gosodwyd rhan o ddywediad enwog Tertwlian, ‘Gwaed y merthyron yw had yr eglwys’. Er i’r adeilad gael ei dynnu i lawr gan lywodraeth Gomiwnyddol Gogledd Corea, roedd yn fynegiant gweledol o barch mawr credinwyr Corea at Thomas.
Nid oes unrhyw arwydd fod y parch hwn yn lleihau. Mae Cristnogaeth wedi blodeuo yn Corea dros y can mlynedd diwethaf, ac mae llawer o gredinwyr Coreaidd yn ymweld â Chapel Hanover bob blwyddyn i gydnabod eu dyled i’r gŵr a fu farw er mwyn dod â’r efengyl i’w gwlad. Bellach mae’r capel yng ngofal gweinidog Coreaidd sydd wrth ei fodd yn croesawu ymwelwyr.
‘Nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef’
Ni ddiffoddwyd goleuni’r efengyl pan laddwyd Robert Jermain Thomas. Ni chafodd fawr ddim cyfle i dystiolaethu’n uniongyrchol i Iesu Grist yn Corea cyn iddo gael ei daro i lawr. Ac eto, drwy fwriadau sofran Duw, roedd yn gyfrwng i ddod â’r efengyl i’r wlad honno. Ac yn ystod y can mlynedd diwethaf mae Corea wedi gweld canran uwch o gredinwyr na’r un wlad arall ar wyneb y ddaear, heb sôn am y cenhadon lawer a anfonwyd oddi yno i wledydd eraill.
Fel Abel, ‘Y mae ef, er ei fod wedi marw, yn llefaru o hyd’.