Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Y Bywyd Cyflawn

27 Tachwedd 2018 | gan Gwynn Williams

‘Ni ddaw’r lleidr ond i ladrata, ac i ladd ac i ddinistrio. Yr wyf fi wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a’i gael yn ei holl gyflawnder.’
(Ioan 10:10)

Yn y ddegfed bennod o Efengyl Ioan mae Iesu Grist yn defnyddio darluniau i ddisgrifio natur ei weinidogaeth. Mae dau ohonynt yn dechrau gyda’r geiriau ‘myfi yw’ – ‘myfi yw y drws’ a ‘myfi yw y bugail da’.
Yn y darn cawn gyfeiriad hefyd at ddieithriaid a lladron. Erbyn i ni gyrraedd adnod 10 y lladron a’r bugail da sy’n amlwg mewn golwg.

Y lladron

Pwy oedd y lladron yn nydd Crist oedd yn dod i ladrata, i ladd a dinistrio? Mae’r esbonwyr gan mwyaf yn gweld y rhain fel yr arweinwyr crefyddol oedd wedi methu y bobl trwy ychwanegu beichiau cyfreithiol, ond heb gynnig cysur a chymorth.
Wrth i ni edrych yn ôl dros y ganrif ddiwethaf yn hanes ein gwlad gwelwn ninnau hefyd fod y lladron wedi bod ar waith. Ond pwy oeddent i ni yma yng Nghymru a Phrydain?
Yn nechrau yr ugeinfed ganrif gwelsom y lladron ysbrydol yn dwyn y Beibl rhag bod yn air ysbrydoledig, awdurdodol Duw.
Yn sgil hynny fe welsom lu o ladron moesol a chymdeithasol yn dod i ymosod ar ein cymdeithas, gydag erthylu, rhaglenni anllad, colli’r Sul, tanseilio’r teulu, y syniad o wirionedd absoliwt ac amharodrwydd i oddef safbwyntiau Cristnogol. A chanlyniad y lladrata hwn yw’r chwalfa foesol a welwn o’n cwmpas

Ymdrech y saint

Beth fuon ni fel Cristnogion yn ei wneud yng nghyfnod y dirywiad? Yn sicr fe fu i ni dreulio llawer o amser ac ynni yn ymladd y lladron. Yn gyntaf, lladron diwinyddol y ganrif ddiwethaf wrth i ni amddiffyn y Beibl a dal i gyhoeddi fod gwir iachawdwriaeth yn golygu dod i brofiad personol o Iesu Grist yn waredwr ar sail ei aberth dirprwyol ac iawnol drosom ar y groes.
Yn ail, bu i ni ymladd â’r llu lladron moesol a chymdeithasol. Rhai ohonom yn ymddangos yn y chwedegau yn gwrthwynebu erthylu ac yn amddiffyn ‘Y Bywyd Brau’; eraill ar y cyfryngau yn trafod y cwestiwn hoyw; yna gwrthwynebu agor y siopau ar y Sul; ac yn dal felly heddiw wrth i ni godi ein llais yn erbyn tueddiadau lladron ein dydd.
A oedd rhesymau Beiblaidd dros wneud hyn o ystyried tuedd rhai o’n plith i ymneilltuo o gymdeithas a gweddïo am ddiwygiad?
Roedd dau reswm Beiblaidd dros y brwydro.
Yn gyntaf, yr alwad i ni fod yn halen y ddaear. Pwrpas yr halen, wrth gwrs, oedd rhwystro’r cig rhag pydru. A phwy ŵyr na fu i ddylanwad yr halen arafu rywfaint ar y dirywiad a’r pydru.
Yn ail, ein rôl yn ddinasyddion. Mewn democratiaeth mae hawl gennym bleidleisio, codi ein llais a mynd i weld yr aelod seneddol.
Mae’r ddau reswm yn parhau’n ddilys heddiw. Parhawn i frwydro â’r lladron.

Y bugail da.

Nawr fe fu i ni fod hefyd yn ffyddlon wrth bregethu’r efengyl ac fe welwyd, trwy drugaredd Duw, dröedigaethau. Fe fu i ni fod yn ffyddlon wrth bregethu’r ‘bugail da’ a fu farw trosom er sicrhau maddeuant pechodau a bywyd tragwyddol. Ond efallai bod un elfen wedi mynd ar goll. Oherwydd, o ganlyniad i’r holl frwydro yn erbyn y lladron, hwyrach i ni lwyddo i greu delwedd ohonom ein hunain yn bobl negyddol yn unig ar y naill law, a thrwy ein ffyddlondeb yn pregethu Iesu Grist ac yntau wedi ei groeshoelio yn unig obaith bywyd tragwyddol, mai pobl oeddem wedyn â diddordeb yn unig mewn bywyd tragwyddol ar ôl marw, ar y llaw arall. Ond a fu i ni esgeuluso rhywfaint ar yr hyn a eilw Crist yma yn ‘fywyd’ gydag ychwanegiad y gair helaethach neu gyflawn?
Oherwydd onid dyma bwyslais Iesu Grist yn Ioan 10.10. Ef yw’r bugail da. Beth mae’r bugail da yn ei wneud?
Yn gyntaf, mae’n amddiffyn ei braidd rhag peryglon a rhag y lladron sy’n lladrata , lladd a dinistrio.
Yn ail, mae’n sicrhau fod ei ddefaid yn iach a hynny trwy eu bwydo a’u gwarchod.
Hynny yw, maent yn edrych yn ddefaid iach sydd ar ben eu digon, llond eu croen, sy’n fodolon a chysurus eu byd. A fu i ni fethu yma oherwydd gorymateb i’r ‘health,wealth and prosperity gospel’. Oni ddylai’r Cristion fod y person mwyaf llawen ar wyneb y ddaear a hynny i’w weld yn ei fywyd? Oni ddylai ef neu hi fod y person mwyaf bywiog yn ei waith ar fore Llun ar ôl penwythnos gwych yn yr eglwys?
Yn drydydd, fe â ymlaen i sôn am barodrwydd y bugail yma hefyd i roi ei einioes dros y defaid – mae’n barod i farw fel y caent hwy fyw.
Dylem ninnau, Gristnogion, fod yn ddeniadol i bobl o’n cwmpas. Meddyliwn am saint yr eglwys fore. ‘yr oeddent yn cyd-fwyta mewn llawenydd a symledd calon, dan foli Duw a chael ewyllys da yr holl bobl’(Actau 2:46-7). Yna yn nes ymlaen ‘nid oedd neb arall yn meiddio ymlynu wrthynt, ond yr oedd y bobl yn eu mawrygu’ (Actau 5:13), hynny yw, roedd y gymuned Gristnogol yn amlwg yn gadael argraff ffafriol ar y bobl yn Jerusalem. A ydym ni felly? Meddyliwn am anogaeth Crist yn y Bregeth ar y Mynydd: ‘fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi ac y gogoneddont eich tad yr hwn sydd yn y nefoedd’(Math. 5:16 William Morgan). Neu Pedr: ‘Bydded eich ymarweddiad ymhlith y cenhedloedd mor amlwg o dda nes iddynt hwy, lle maent yn awr yn eich sarhau fel drwgweithredwyr, ogoneddu Duw yn nydd ei ymweliad ar gyfrif yr hyn a welant o’ch gweithredoedd da chwi’(1 Pedr 2:12). Yna ‘Byddwch yn barod bob amser i roi ateb i bob un fydd yn ceisio gennych gyfrif am y gobaith sydd ynoch. Ond gwnewch hynny gydag addfwynder a pharchedig ofn.’(1 Pedr 3:15).
A fu i ni golli golwg ryw ychydig ar hyn? Parhawn i ddelio â’r lladron; parhawn i gyhoeddi efengyl sy’n rhoi gobaith i’r colledig yn wyneb tragwyddoldeb; ond a oes angen i ni hefyd ymddangos yn fwy fel pobl sy’n mwynhau bywyd cyflawn lle mae cysuron canlyniadau efengyl Iesu Grist yn rhoi nerth a gras i ni fyw yng nghanol holl helbulon a rhagluniaethau anodd bywyd gyda llawenydd gorfoleddus?

Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf