Cofnodir yn Efengyl Mathew fod yr Arglwydd Iesu wedi dweud: ‘Yr wyf yn dy foliannu di, O Dad, Arglwydd nef a daear, am iti guddio’r pethau hyn rhag y doethion a’r deallusion, a’u datguddio i rai bychain.’ (Mathew 11:25). Bobi Jones, i bob golwg oedd un o’r eithriadau i’r rheol hon, gan ei fod yn athrylith deallusol a chreadigol, ond yr oedd hefyd yn un o blant annwyl Duw.
Athrylith o lenor, bardd, beirniad llenyddol, cenedlaetholwr, cefnogwr y dysgwyr, Athro Emeritws, Cymrawd yr Academi Brydeinig, yr awdur mwyaf toreithiog a welodd yr iaith Gymraeg erioed ‒ ond Bobi oedd Bobi: anwylyd Beti; tad hoffus Lowri a Rhodri, tad-cu balch, yn yr ystyr orau, i bump o wyrion, cydweithiwr triw yn y Brifysgol, darlithydd ac Athro poblogaidd gan ei fyfyrwyr, athro Ysgol Sul cydwybodol a brawd hoffus, caredig i holl aelodau’r Eglwys Efengylaidd Gymraeg yn Aberystwyth.
Ganwyd Robert Maynard Jones ar 20 Mai 1929 yn fab i deulu di-Gymraeg yng Nghaerdydd. Dysgodd Gymraeg tra oedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Cathays, gan fynd yn ei flaen i ennill gradd ddosbarth cyntaf Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd. Wedi cyfnod yn Nulyn yn ymchwilio bu’n athro Cymraeg yn ysgolion uwchradd Llandiloes a Llangefni cyn symud i Goleg y Drindod, Caerfyrddin. Yn 1958, symudodd yn ddarlithydd Addysg i Goleg Aberystwyth, cyn trosglwyddo i Adran y Gymraeg ymhen rhai blynyddoedd, gan weithredu yn Athro a Phennaeth Adran yno rhwng 1980 a 1989.
Yn ystod ei gyfnod yn Llanidloes, yn nechrau’r pumdegau, profodd dröedigaeth un nos Sul wrth fwrdd y Cymun, yng nghapel Cymraeg China Street (M.C.). Troediodd Bobi y llwybr cul weddill ei oes yng nghwmni ei wraig annwyl, Beti, a chael ei arwain i fyd newydd, eang, lle gallodd ufuddhau i’w Arglwydd trwy gymryd gorchymyn diwylliannol Duw: ‘Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi’ (Genesis 1:28), o ddifrif.
Bu Bobi a Beti yn cynnal Seiat Gymraeg efengylaidd yn eu cartref yn Nhandderwen dros gyfnod o flynyddoedd, wedi iddynt symud i Aberystwyth. Yr oedd hyn cyn 1967 pan sefydlwyd yr Eglwys Efengylaidd, a dôi nifer o gredinwyr at ei gilydd o wahanol gynulleidfaoedd yn yr ardal. Pan sefydlwyd yr Eglwys, fe ddaeth cyfnod y Seiat i ben wrth i’r cyfarfodydd eglwysig wythnosol gymryd drosodd. Am rai blynyddoedd yn ddiweddarach fe gynhelid dosbarth Ysgol Sul yr oedolion yn Nhandderwen gyda Bobi yn athro ar y dosbarth.
Pan oedd Bobi a’i gyfaill agos, yr Athro R. Geraint Gruffydd, yn gydweithwyr yn Adran y Gymraeg, CPC Aberystwyth, yn ystod y saithdegau, fe gafwyd mesur o fendith ysbrydol ymhlith y myfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Bu’r ddau yn fawr eu cefnogaeth i’r Undeb Cristnogol Cymraeg o fewn y Coleg, a gwelwyd nifer o fyfyrwyr yn dod i gredu, drwy ras Duw, yn sgil y gweithgarwch hwnnw. Byddai Bobi’n cynnal cyfarfod gweddi yn ei ystafell yn y Coleg cyn i waith y dydd ddechrau o ddifrif am naw, a byddai gwylio’r myfyrwyr hynny a fynychai’r cyfarfodydd, wrth iddynt gyrraedd, yn destun chwilfrydedd i rai nad oedd yn dewis mynychu’r cyfryw gyfarfodydd. Ar y Sul, yn ogystal â chefnogi dwy oedfa’r Eglwys, byddai Bobi’n cynnal dosbarth Ysgol Sul i fyfyrwyr yn Neuadd Ceredigion i ddechrau, ac yn ddiweddarach yn un o ystafelloedd cyffredin neuadd Pantycelyn; yna, am wyth y nos byddai ef a Geraint yn mynychu cyfarfodydd Undeb Cristnogol Cymraeg y myfyrwyr yn Neuadd Davies-Bryan, ac wedi hynny ym Mhantycelyn pan symudodd y neuaddau Cymraeg at ei gilydd. Ar un cyfnod yr oedd y cyfarfodydd hyn yn denu hyd at ddeg ar hugain o fyfyrwyr Cymraeg ynghyd â dysgwyr.
Cyn gadael Capel Salem, Aberystwyth, i ymuno â’r Eglwys Efengylaidd, cawsai Bobi a Beti fendith dan weinidogaeth y diweddar Barchedig H. R. Davies. Dylanwad mawr arall ar Bobi oedd ei gefnder cyfan, y Parchedig Geoffrey Thomas, a oedd wedi ei benodi’n weinidog Eglwys y Bedyddwyr Alfred Place, Aberystwyth, er 1965. Bu Geoff yn ddylanwadol iawn trwy gyflwyno Bobi i rai o ddiwinyddion ac athronwyr diwygiedig yr Iseldiroedd, rhai fel Cornelius Van Til, Hans Rookmaaker a Herman Dooyeweerd, ynghyd â mawrion y Ffydd yn Lloegr ac America trwy weinidogaeth llyfrau’r Banner of Truth. Dyma lle y clywodd Bobi am ‘sffêr sofraniaeth’, sef y ddysgeidiaeth fod pob cylch ar fywyd y crediniwr i’w ddarostwng er gogoniant i Dduw. Yn ystod ei salwch diweddar, byddai Bobi’n gwrando ar bregethau Geoff dros y We, a hynny yn nhrymder nos pan fyddai anhunedd yn ei boeni.
Roedd maint ei gynnyrch ysgolheigaidd a chreadigol yn anhygoel. Ef, fwy na thebyg, yw’r awdur mwyaf toreithiog i ysgrifennu yn Gymraeg erioed. Ymhlith ei gynnyrch ceir cyfrolau o feirniadaeth lenyddol, nofelau, straeon byrion a chorff sylweddol o farddoniaeth.Cyfieithwyd nifer o’i gerddi i’r Saesneg gan yr Athro Joseph P. Clancy. Cynhwysir cyfieithiadau Saesneg penigamp o emynau Cymraeg gan Bobi yn y gyfrol Christian Hymns. Mae llyfryddiaeth o’i weithiau hyd at 2010 yn ymestyn i ddim llai na 50 tudalen A4. Wedi 2010 trodd at y dechnoleg ddiweddaraf gan sefydlu ei wefan ei hun ar gyfer ei gynnyrch diweddaraf, sef: rmjones-bobijones.net
Yn ogystal â’r gwaith cyhoeddi a dysgu, bu’n gyd-gyfrifol am sefydlu’r Academi Gymreig a Chymdeithas y Dysgwyr, ac yr oedd yn arbenigwr ar ddwyieithrwydd ac ar ddatblygiad iaith plant. Cafodd ei benodi’n Gymrawd yr Academi Brydeinig sy’n anrhydedd prin. Fe gofir hefyd, er gwaetha’r ffaith ei fod yn genedlaetholwr pybyr, iddo ddysgu llenyddiaeth Cymru i’r Tywysog Charles rai misoedd cyn yr Arwisgiad yng Nghaernarfon yn 1969.
Dioddefodd lawer yn ystod y blynyddoedd olaf gyda phoen parhaus ar waelod ei asgwrn cefn, cyflwr a’i rhwystrai rhag eistedd a theithio. Cafodd wellhad o gancr y coluddyn bymtheg mlynedd yn ôl, ond dychwelodd y salwch hwnnw y llynedd a’i gipio ymaith.
Yn ystod ei flynyddoedd olaf, fe lwyddodd Bobi Jones i greu dwy gyfrol ddigidol swmpus ar William Williams, Pantycelyn, emynydd yr oedd yn edmygydd mawr o’i waith. Roedd y ddau emyn a ddewisodd Bobi ar gyfer ei angladd yn gwbl nodweddiadol ohono. Emyn Morgan Llwyd am Grist a’i Eglwys, sy’n seiliedig ar Ganiad Solomon, ac emyn Williams, sy’n ymddangos yn syml ar yr olwg gyntaf: ‘Dyma gyfarfod hyfryd iawn…’. Emyn rhamantus a fyddai’n apelio at fardd yw’r cyntaf, yn gyforiog o ddelweddau; ac yna emyn Pantycelyn, yn agored ddiymhongar, gyda’r credadun yn cyfaddef ei dlodi gerbron Duw a chydnabod bod ‘Yntau’n’ cyflenwi popeth ar ei gyfer. Cwbl nodweddiadol hefyd oedd y sylw a dderbyniais ganddo ryw fis cyn iddo farw: ‘Fel y gwyddoch, dw i wedi bwcio Williams… [ar gyfer] fy angladd i.’ Do, fe gafodd Bobi ei ddymuniad. Mae e bellach gyda Williams yn y Gogoniant, ond yn bwysicach, hwyrach, yw’r ffaith fod Bobi gyda’i Arglwydd am dragwyddoldeb, ymhell o sŵn y boen sy yn y byd.