Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Rhywun ar Stryd y Frenhines

27 Tachwedd 2018 | gan Nathan Munday

Ar ryw brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog, cymerais hynt i ben un o strydoedd Cymru, a chyda mi fy mhapur newydd, a’m llygaid, er mwyn syllu ar bopeth a phob un. Clymais fy meic wrth ymyl Castle Arcade, a dechrau cerdded tuag at gerflun Aneurin Bevan. Yn ei gysgod, safai’r Tystion Jehofa – dillad smart, gwenu, a hysbysebion lliwgar a charedig o’u hamgylch. Cyrhaeddais y stryd – axis mundi Cymru. Penderfynais eistedd ar sedd ar ganol y palmant gyda fy mhapur. Roedd y Bible Bashers wrthi yn y pellter a’r Imam yn chwifio’i Goran fel melin gwynt.
Gwelais y Cymry’n llifo rhwng Starbucks a Pizza Hut – pyrth y ddinas! Wynebau enfysog yn dotio’r cynfas fel darn o gelf Seurat. Wrth edrych o bell, mae ’na rywbeth deniadol am y stryd hon yng nghanol y wlad fach fawr – marchnata, bywyd, a’r ifanc – cyffro’r grwpiau ysgol o Bordeaux a Madrid; aroglau pleserus y popty a Costa Coffee; synau sacsoffon, gitâr, a’r drymiau wrth i’r Bob Dylans ganu, a cheisio canu, ar stryd frenhinol Caerdydd. Dyma bleser: plant yn carlamu yn y pellter ar geffylau lliwgar y carwsél; plentyndod yn para tipyn cyn gorffen. Bywyd.
Ymhlith y lliw, gorweddai’r digartref yn bendramwnwgl. Llygaid trwm yn trawsffurfio’r Seurat mewn i ryw Goya dychrynllyd. Y llwglyd, y meddwon, y trips, y digalon, yr hen, y cleifion, a’r sgolor digartref yn darllen Tolstoy tu allan i Greggs. ‘Big Issue! Big Issue!’ yw’r clychau newydd. Symudai’r parchus i’r ochr arall fel hen drigolion Jerwsalem. Pam? Mae’r digartref yn fudr.
Mewn cornel gorweddai merch ifanc o dudalennau Dickens. Cerddai pawb o’i hamgylch fel yr offeiriad a’r Lefiad – a chyn i mi wybod – cerddais innau heibio iddi hefyd.
Ar y waliau, gwelais graffiti yn hysbysebu bywyd: rhyw a rhegfeydd. Mae rhai ohonyn nhw’n ddoniol, ond mae rhai ohonyn nhw’n mynd yn rhy bell. Ond, mae’n bwysig gallu chwerthin. Ie, ond ma’ rhywbeth yn peri pryder imi. Beth bynnag,…mae angen bwyd.
Wrth i mi fwyta fy mrechdan, mae’r Bible Bashers yn dal i glebran. Roedd yna ddyn Affricanaidd yn creu cerflun tywod ar y llawr wrth iddyn nhw bregethu. Hyfryd!
Ar y mur gyferbyn â’r caffi, roedd darlun lliwgar o gawr wedi’i guro gan Dafydd. Rwy’n cofio’r fytholeg o’r Ysgol Sul. Mae Dafydd yn yfed Lucozade ar ben celain ei wrthwynebydd. Mae’n llun deniadol. Dwi’n hoffi’r straeon ond yn casáu’r holl bregethu am bechod. Mae digon o bechod ar y BBC; Jimmy Saville, Harvey Weinstein a’r dyn yna o Syria… dyna chi ddynion drwg! Gorffennais fy mrechdan, a cherdded i’r stryd unwaith eto.
‘Gwaed!’ gwaeddodd y Bashers. Am beth yn y byd maen nhw’n siarad nawr? ‘Bywyd… y gŵr wrth ffynnon Jacob!’ O dyma ni nawr, Iesu Grist. Dyma’r hwyl yn dechrau!
Fel arfer, mae gen i brofiadau eithaf hyll gyda phregethwyr. Yr hen bregethwr swnllyd yn gweiddi am gariad trwy gydol fy mhlentyndod. Siaradai am yr efengyl honedig fel y gŵr yn Nuremberg! Yn fwy diweddar, ma’ ‘na foi sy’n carlamu lan a lawr gyda phosteri ar ei grys-t yn dweud Uffern a Barn wedi’i fframio gan fflamiau. Mae’n gweiddi ar y bobl ac yn codi ofn ar y plant. Yn ôl pob sôn, mae’n credu bod pobl hoyw yn haeddu marw.
Ond wedi dweud hynny, ma’ ‘na rai sy’n garedig ac sy’n rhoi tract i mi (dwi’n dal i roi’r peth yn y bin!) Yr Hare Krishnas yw’r gorau. Maen nhw’n cynnig cyri i chi ac yn dweud geiriau hudol mewn iaith hynafol. Dyna i chi garedigrwydd o’i gymharu â phechod, Duw, a barn. Dwi’n teimlo’n neis am dipyn ar ôl siarad hefo nhw.
Tawelodd y pregethwr ac yna dyfynnodd Iesu Grist: ‘Bydd syched eto ar bawb sy’n yfed y dŵr yma, ond fydd byth dim syched ar y rhai sy’n yfed y dŵr dw i’n ei roi. Yn wir, bydd y dŵr dw i’n ei roi yn troi’n ffynnon o ddŵr y tu mewn iddyn nhw, fel ffrwd yn llifo i fywyd tragwyddol.’ Bois bach, mae’n siarad am y Greal Sanctaidd. Edrychodd y dyn arnaf, ac am ryw reswm, teimlais yn anesmwyth ac yn euog. Wrth iddo siarad am ddŵr, dychmygais pa mor fudr oedd fy nghalon. Parhaodd drwy ddweud: ‘Mi glywais gynt fod Iesu, A’i fod ef felly nawr, Yn derbyn publicanod, A phechaduriaid mawr’. Yn sydyn, mae’n beth rhyfedd i’w gyfaddef, ond teimlais mai fi oedd y pechadur yn ei bregeth.
Cerddais i ffwrdd. Trawsffurfiodd y stryd. Roedd y sŵn, y lliwiau a’r bobl i gyd yn fy nrysu. Roedd y geiriau ar y waliau, y graffiti, fel drych o’m cydwybod. Roedd casineb, gweiddi, tlodi a’r holl stryd yn adlewyrchu fy enaid prysur. Dim stryd oedd y lle yma nawr ond bwlch f’argyhoeddiad. Roedd angen glanhad… roedd angen dihangfa.
Doedd dim ffynnon i’w gweld. Erbyn hyn, cofiais mai’r stori am y wraig o Samaria oedd testun y gweinidog. O! Hoffwn fod wedi bod yn Sychar, ac wedyn buaswn wedi derbyn y glanhad yna yr addawodd yr Iesu.
Dechreuodd y pregethwr siarad eto ac esbonio bod Iesu wedi dod i’r byd ar ein cyfer ni. Byw’r bywyd perffaith a marw ar ein cyfer ni, cyn atgyfodi ar y trydydd diwrnod. Cynhesodd fy nghalon. Parhaodd:
Yn ôl Iesu:
‘Bydd pawb sy’n credu ynof fi yn cael bywyd tragwyddol. Ydy, mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.’
Gofynnais yn fy nghalon: ‘ydy e’n bosib i mi gael perthynas â’r gŵr ger ffynnon Jacob?’ Roedd y geiriau fel ateb gan Dduw:
‘Oherwydd anfonodd Duw ei Fab i achub y byd, dim i gondemnio’r byd. Dydy’r rhai sy’n credu ynddo ddim yn cael eu condemnio. Ond mae’r rhai sydd ddim yn credu wedi’u condemnio eisoes, am eu bod nhw wedi gwrthod credu ym Mab unigryw Duw. Dyma’r dyfarniad: Mae golau wedi dod i’r byd, ond mae pobl wedi caru’r tywyllwch yn fwy na’r golau.’
Edrychais ar Stryd y Frenhines a gwelais dywyllwch. Edrychais ar fy nghalon, a gweld yr un tywyllwch yno.
‘Ond mae’r rhai sy’n ufudd i’r gwir yn dod allan i’r golau, ac mae’n amlwg mai Duw sy’n rhoi’r nerth iddyn nhw wneud beth sy’n iawn.’
A chyda hynny, gwelais fod y gwaith wedi’i orffen a bod Iesu wedi fy ngharu i. Siaradodd am y groes ac ailadrodd yr adnod:
‘Ydy, mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.’
Trawsffurfiodd Stryd y Frenhines mewn i Stryd y Brenin – ac roeddwn i yn fab iddo nawr.

Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf