Cariad yw un o nerthoedd mwyaf y greadigaeth. Mae’n ddigon cryf i’n hysgogi i gyflawni campau mawrion. O gael ein caru rydym yn barotach i garu eraill yn eu tro.
Cofnodwyd rhai o’r geiriau mwyaf am natur cariad Duw gan Ioan – apostol cariad. Profodd ei hun y cariad hwn yn bersonol. Pwysleisia’r cariad hwn yn ei ysgrifau.
Er mor ganolog yw cariad yng ngweithiau Ioan, eto tuedda Meibion y Daran at hunanoldeb a dicter. Ond mae cariad Duw yng Nghrist yn gallu dofi’r teithi hyn. Yr Ysbryd Glân sy’n rhoi’r cariad hwn yn enaid y credadun.
Wrth ystyried gwaith gwaredigol Duw, fe welwn ei fod ef yn ei Fab yn dangos cariad mawr iawn tuag at ei Eglwys. Mae’r disgyblion yn eu tro i ddangos y cariad hwn tuag at ei gilydd. O weld y cariad hwn ar waith yna mae’r byd yn sylwi bod Duw yn caru’i bobl yn fawr iawn.
Cryfderau
→ Un o ddisgyblion Ioan Fedyddiwr
→ Cyfrifwyd ymhlith y cylch mewnol o ddisgyblion Iesu Grist
→ Awdur Efengyl Ioan, 1, 2 a 3 Ioan a Datguddiad
Gwendidau
→ Tuedd tuag at hunanoldeb a dicter
→ Gofynnodd am safle dyrchafedig yn Nheyrnas Iesu
Gwersi
→ Mae’r sawl a garwyd llawer yn gallu caru llawer
→ Coethir nodweddion personoliaeth gan gariad
Ffeithiau
→ Lleoliad: Galilea
→ Gwaith: Pysgotwr ac apostol
→ Mae’r enw Ioan yn golygu Mae’r Arglwydd yn raslon
→ Perthnasau: Tad – Sebedeus; mam – Salome; brawd – Iago
→ Cyfoeswyr: Iesu, Herod a Pheilat
Adnodau
Mathew 20:20-8; Marc 3:17; Luc 9:51-6; Ioan 19:26-7.