Ar ôl treulio dwy flynedd yn teithio’r moroedd ar long OM Logos Hope, mae Dyfan Graves wedi dychwelyd adref i Gaerdydd. Yn rhifynnau nesaf y Cylchgrawn cawn ychydig o’i hanes ym mhorthladdoedd y byd, ond i ddechrau dyma gyfle i ddod i’w adnabod yn well.
Wnewch chi sôn ychydig am eich cefndir?
Ces i fy magu yng Nghaerdydd, ar aelwyd Gymraeg a Christnogol. I ddweud y gwir, rwy’n perthyn i’r chweched genhedlaeth yn fy nheulu i fyw yng Nghaerdydd! Yr adeiladwr llongau William Seager oedd y cyntaf, a ddaeth i Gaerdydd yn yr 1850au. Roeddwn i’n ddisgybl yn Ysgol Mynydd Bychan ac wedyn Ysgol Glantaf. Wedyn mynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma ble agorodd Duw fy llygaid i ddyfnder angen ysbrydol Cymru, ac y des i nabod rhai y bydda i’n cydweithio â nhw yn yr efengyl am weddill fy mywyd mae’n siŵr!
Sut daethoch chi’n Gristion?
Dwi wedi tyfu i fyny’n credu yn Nuw cyhyd ag yr ydw i’n cofio. Dwi’n cofio dysgu darllen trwy straeon am Iesu, a mynychu gŵyl Fethodistaidd Easter People yn dair oed, lle gweles i fod Duw’n caru plant, a chlywed am bechod am y tro cyntaf. Des i nabod Duw yn raddol, yn dysgu mwy amdano fe wrth i mi dyfu. Pan oeddwn i tuag wyth oed gweddïais am y tro cyntaf i Dduw faddau fy mhechodau. Dysges i wedyn fod bod yn Gristion yn golygu mwy na gofyn maddeuant pan roeddwn i’n 13 oed, yn 2007. Roeddwn i’n syrthio i demtasiynau glasoed, a phan rybuddiodd fy nheulu a gweithiwr Ieuenctid am y bywyd dwbl roeddwn i’n ei fyw cododd hynny ofn arna i. Ces i adfywiad personol yn fy ffydd y pryd hwnnw, a rhoddais i fy holl fywyd i Dduw. Byth ers hynny mae Rhufeiniaid 12 wedi bod yn bennod bwysig i mi. O hyn ymlaen roedd fy nhwf Cristnogol yn un cyflym, a dwi’n dal i dyfu!
Sut daethoch chi i wybod gyntaf am Logos Hope?
Ymwelodd un o longau cynharach Operation Mobilization, sef Logos 2, â Chaerdydd yn 2001, a minnau’n chwech oed. Atgof melys sydd gen i, ond ces i fy ngalwad ar ymweliad nesaf llongau OM â Chaerdydd – Logos Hope yn 2009, ar yr un pryd ag ymweliad yr Eisteddfod â Bae Caerdydd! Am gynnwrf wrth i atgof melys plentyndod ddod yn ôl, ond ar ffurf llong fwy o lawer, un newydd, gyda mwy o griw rhyngwladol – 400 o 62 o wledydd! Ymwelon ni â hi tua thair gwaith, yn cynnwys unwaith i oedfa Gymraeg ar fwrdd y llong dan arweiniad Emyr James. Dyna ddechrau fy stori gyda Logos Hope
Beth wnaeth i chi dreulio dwy flynedd ar y llong?
Pan es i ar Logos Hope yn 2009 fel ymwelydd â’r ffair llyfrau, ces i fy nharo gan ysbryd y lle. Roedd yr holl griw wedi aberthu llawer i fod ar y llong heb dderbyn dim byd materol am eu haberth. Eto i gyd, roedd llawenydd rhyfeddol yno, ac undod cryf rhwng Cristnogion o wahanol draddodiadau a gwahanol wledydd. Es i ddweud hwyl fawr wrth i’r llong adael a dyna pryd ces i fy ngalwad – teimles i’n gryf taw hwn oedd fy nghartref, nid Caerdydd. Peth rhyfedd i rywun 15 oed! Tyfodd yr awydd, felly dechreues i ddilyn y llong trwy ddarllen ei holl gylchlythyron. Ac aros. Galwodd Duw fi i fynd i Aberystwyth, felly roedd yn rhaid i mi aros yn hirach. Yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol cadarnhaodd Duw fy ngalwad trwy nifer o wahanol ffyrdd, yn cynnwys sgwrs â George Verwer yn ystod Forum UCCF 2012, a phregeth gan Mike Adams yn Llanw 2012/13. Chwe mlynedd yn diweddarach ces fy nerbyn i weithio ar y llong. Mae Duw’n sicr yn hoff o’ch cadw chi tan yr amser iawn!
Fedrwch chi enwi tair sialens a gawsoch chi wrth deithio gyda Logos Hope?
Gallai crynhoi’r rhestr hir o bethau a ddysgodd Duw i mi mewn tri phwynt syml.
• gweddïo bob tro (pan rydyn ni’n gweddïo mae pethau’n digwydd, pan dydyn ni ddim, does dim yn digwydd – mor syml â hynny)
• gweinidogaethu’n barhaus (bod yn oleuni i Grist yn y tywyllwch)
• ymddiried yn barhaus (yn Nuw ac eraill).
Sut mae’r profiad wedi eich newid chi?
Dwi wedi dysgu yma’n fwy nag yn unman arall nad ydw i’n ddim heb Dduw. Yn ogystal â hynny, mae Duw yn fawr, ac mae popeth da yn dod oddi wrtho e. Mae wedi dangos i mi gymaint o lawenydd sydd wrth fyw er ei fwyn ef, hyd yn oed pan fo popeth ar chwâl.
Ar ôl teithio ar Logos Hope am ddwy flynedd, beth yw’r prif wahaniaethau ar ôl bod yn ôl ar ‘dir sych’?
Bu dod adref yn brofiad anodd ac ysgytwol. Mae’r llong yn gymuned glòs iawn gyda rhywbeth yn digwydd o hyd. Nawr dwi’n gallu teimlo’n unig iawn. Mae’n anodd cael perthynas mor ddwfn â’r un rydych chi’n ei chael ar y llong. Am fod llai yn digwydd yma, mae’n hawdd teimlo’n aflonydd weithiau, eisiau gwneud pethau, cwrdd â phobl, cenhadu. Ar y llong fe roddir cyfrifoldeb i chi. Roeddwn i’n ddecmon (deck hand) profiadol erbyn i mi adael, yn ogystal â phennaeth y noson addoli wythnosol. Wrth ddod adre roedd angen dechrau o’r dechrau, a cheisio dal lan gyda ffrindiau o’r brifysgol sydd wedi symud ymlaen a gadael Caerdydd. Cymru i mi mewn ffordd yw Cymru 2015, felly dwi ar ei hôl hi. Heriau yw’r rhain, ond trwy hynny mae Duw’n eich helpu i weithredu’r hyn dysgoch chi ar y llong, a thrwy gymorth eich eglwys a ffrindiau Cristnogol yn raddol rydych chi’n addasu’n ôl i fywyd gartref – ond yn bendant dydych chi ddim yr un person â phan adawsoch chi!
Fe wnaethoch chi ymweld â nifer o wledydd yn ystod eich taith. Sut mae Cymru’n cymharu â rhai o’r gwledydd hynny?
Dros y byd roedd pobl yn amrywio o ran pa mor agored roedden nhw i siarad am Iesu. Ond roedd pobl ar y cyfan yn agored. Byddai pobl yn Ghana, er enghraifft, yn galw arnom ni dros y stryd ‘My friend! My friend!’ ac wedyn yn gofyn nifer o gwestiynau i ni am y llong a chymryd diddordeb yn y gobaith a oedd gennym ni yn Iesu. Yn Jamaica, er mor anwybodus oedden nhw am yr efengyl, roedd nifer ohonyn nhw’n barod i drafod gyda ni. Roedd dylanwadau y grefydd Rastafari yn gryf, ond o leiaf roedden nhw’n barod i drafod. Ond pan aethon ni i’r Ynysoedd Dedwydd, (Canary Islands) cawsom ni’r un oerfelgarwch ag yng Nghymru. Ac nid yn unig oerfelgarwch tuag at yr efengyl, ond oerfelgarwch calonnau. Doedd pobl ddim mor garedig, yn amharod i’n cyfarch ni gymaint ar y stryd, nac eisiau siarad. Hyd yn oed yn Ne Affrica lle ceir mwy o wynion, roedd pobl yn barod i siarad. Mae cyfoeth Cymru, yn yr un modd â gweddill gorllewin Ewrop, wedi arwain at fateroliaeth ac unigolyddiaeth – lle ceir hapusrwydd trwy bethau a gyrfa a chyfoeth. Mae gan Ghana a Jamaica a De Affrica eu problemau eu hunain, ond un peth y gallen nhw ei ddysgu i ni yw pwysigrwydd cymuned uwchlaw yr unigolyn, a charedigrwydd uwchlaw hunanoldeb. Dwi’n credu mai gwerthoedd cwbl Feiblaidd yw’r rhain, ond rydyn ni’n ddall i’n methiannau i’w gweithredu nhw oherwydd ein diwylliant gorllewinol. Yn fy marn i, Cymru yw un o’r gwledydd anoddaf yn y byd i fod yn Gristion ynddo, gyda’r dylanwadau tawel, bydol sydd arnom. Ond eto dyma ni, nid i grebachu, ond i ddysgu o’n camgymeriadau, i fwrw ymaith pob magl sy’n ein rhwystro, i dywynnu’n oleuach mewn Cymru sy’n mynd yn dywyllach. Rydyn ni’n colli gobaith yn rhy hawdd. Duw yw’r brenin, ac mae wedi cadw gweddill ffyddlon. Mae Duw gyda ni, a thrwom ni, daw Cymru yn ôl at Grist.