Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Meddwl R M Jones

27 Tachwedd 2018 | gan Eleri Glanfield

Gwn fod ‘Bobi Jones’, ‘Dr Bobi’ neu’n syml, ‘Bobi’ yn enw cyfarwydd ac annwyl i nifer o ddarllenwyr y Cylchgrawn Efengylaidd. Ond tybed faint ohonoch sy’n adnabod R. M. Jones, sef yr enw a ddefnyddiodd y diweddar Athro Emeritws Robert Maynard Jones wrth gyhoeddi cyfrolau academaidd?

Dylid pwysleisio o’r cychwyn nad talu teyrnged i gyfraniad anferthol ac amlweddog y llenor hynod hwn yw nod yr erthygl hon. Ei bwriad, yn hytrach, yw codi cwr y llen ar wedd lai cyfarwydd ar ei waith o bosibl, sef theori lenyddol, ac annog y darllenydd i fentro fforio yng ngwaith y beirniad llenyddol unigryw a gwreiddiol hwn a ddisgrifiwyd unwaith fel ‘y meddyliwr mwyaf diddorol yng Nghymru’.
R. M. Jones oedd un o feirniaid llenyddol amlycaf – a mwyaf dadleuol – yr ugeinfed ganrif yng Nghymru. Ef yn sicr oedd y mwyaf blaengar a gwreiddiol o’n beirniaid llenyddol ac yn un o’r cyntaf i fentro i fyd (anffasiynol ar y pryd) theori lenyddol. Yn wir roedd o flaen ei amser yn cymhwyso theorïau ieithyddol i faes llenyddiaeth ddechrau’r 1970au cyn i’r math hwnnw o drafodaeth ddod i amlygrwydd ymhlith beirniaid Eingl-Americanaidd. R. M. Jones hefyd oedd ein beirniaid llenyddol mwyaf uchelgeisiol a chynhwysfawr ei weledigaeth: Bu’n ymroi’n ymwybodol gydol ei yrfa i lunio prosiect beirniadol estynedig â’r nod o fapio maes beirniadaeth lenyddol. ‘Beirniadaeth Gyfansawdd’ yw’r enw a roddodd ar y map hwn ac mewn cyfrol o’r un enw a gyhoeddodd yn 2003 mae’n egluro sut y mae pob un o’i aml gyfrolau yn rhan o’r ymgais hirdymor hon i ddatblygu beirniadaeth lenyddol o safbwynt theoretig penodol.
Peidied neb â gadael i’r gair ‘theori’ godi ofn arnynt, na gwneud iddynt feddwl mai trafodaethau technegol a sych-academaidd yw gwaith R. M. Jones. Gwir bod ei waith yn gallu ymddangos yn athronyddol, athrylithgar ac astrus ar dro – yn ‘anodd’ hyd yn oed. Ond mae angerdd R. M. Jones at ei destun – a bywyd yn gyffredinol – ynghyd â’i ddawn dweud stori a’i ddos iach o hiwmor tafod-ym-moch yn troi hyd yn oed y trafodaethau mwyaf theoretig yn ddarllen difyr.
Ac yn fwy na hynny, carwn bwysleisio yn yr erthygl hon bod mantais gan nifer helaeth o ddarllenwyr y Cylchgrawn Efengylaidd wrth geisio deall gwaith R. M. Jones os ydynt yn rhannu’r un ffydd fywiol a radical ag oedd ganddo ef. Yn wir, roedd R. M. Jones ei hun yn dadlau bod gan y Cristion fantais gyffredinol wrth astudio llenyddiaeth Gymraeg gan fod cymaint o’n llenyddiaeth wedi’i gwreiddio yn y traddodiad Cristnogol. Mae theorïau llenyddol R. M. Jones wedi’u gwreiddio’n llwyr yn y traddodiad Calfinaidd ac felly mae gan y Cristion fantais amlwg wrth geisio eu deall a’u dirnad.
Dyma’r tair prif fantais sydd gan y Cristion wrth ddarllen gwaith R. M. Jones:

1. Mantais i ddeall strwythur theori R. M. Jones

Mae cred R. M. Jones yn Nuw’r creawdwr yn ddylanwad ffurfiannol ar ei waith. Nid hap a damwain yw’n bodolaeth ni: mae trefn yn y greadigaeth ac ôl y Creawdwr i’w weld ym mhob rhan ohoni. Dadleuodd R. M. Jones fod modd felly i ni osod trefn ar bob rhan o fywyd, gan gynnwys y maes llenyddol. Theori driphlyg yw theori R. M. Jones ynghylch natur llenyddiaeth: trindod o gysyniadau a pherthynas fywiol rhyngddynt yn adlewyrchiad uniongyrchol o natur y Duw Trindodaidd yn ei greadigaeth.
Tri chonglfaen sydd i’w theori: Tafod, Cymhelliad a Mynegiant yw’r labeli a roddwyd arnynt. Ar ei lefel symlaf un gellid deall Tafod fel y wedd anweledig ar iaith a llenyddiaeth: y patrymau cuddiedig sy’n caniatáu i ni siarad neu lenydda o gwbl. Ar y pegwn arall mae Mynegiant – y llenyddiaeth orffenedig sy’n cyflawni potensial Tafod yn ddiriaethol. Y bont neu’r cyswllt deinamig rhwng y ddau gyflwr hwn yw Cymhelliad, sef y reddf waelodol sydd gan y ddynoliaeth i ddarganfod neu osod trefn ar iaith. Byddai modd i’r darllenydd chwilfrydig ddarllen cyflwyniad pellach gennyf i’r cysyniadau hyn ar y wefan hon: https://wici.porth.ac.uk/index.php/Jones,_R._M._(Bobi).

2. Mantais i ddeall cynnwys ei waith

Cafodd R. M. Jones dröedigaeth Gristnogol un nos Sul yn 1953. Cymaint oedd dylanwad y dröedigaeth hon ar bob agwedd ar ei fywyd, fel bod ei deall hi yn gwbl greiddiol i unrhyw ddarllen deallus ar ei waith. Fel y nododd yn ei hunangofiant O’r Bedd i’r Crud (2000): ‘Yr oedd fy hen fyd sych, cyfarwydd, di-liw, di-fyw, rywsut ar ben.’
Yn nes ymlaen ar ei bererindod ysbrydol, daeth o dan ddylanwad diwinyddion Prifysgol Rydd Amsterdam a bwysleisiai Sofraniaeth a Phenarglwyddiaeth Duw dros yr holl greadigaeth a phob agwedd ar fodolaeth. Roeddent yn argyhoeddedig na ddylai’r Cristion encilio’n feudwyaidd o’r byd unwaith y profodd ailenedigaeth ysbrydol; i’r gwrthwyneb, dylai ddysgu cofleidio bywyd yn ei holl gyflawnder. Daeth R. M. Jones i’r argyhoeddiad personol nad oedd yr un fodfedd sgwâr o fywyd dyn – yn ddiwylliannol, yn bersonol nac yn wleidyddol – nad oedd yn perthyn i Grist. Credai fod pob ffurf ar weithgarwch cymdeithasol, diwylliannol a chelfyddydol dyn yn gyfrwng i wasanaethu neu ogoneddu Duw.
Ni chuddiodd R. M. Jones ei ragdybiau diwinyddol erioed. I’r gwrthwyneb, ef oedd un o ysgolheigion Cristnogol amlycaf ei genhedlaeth a chymerodd bob cyfle i egluro ei argyhoeddiadau Cristnogol a’u cymhwyso i fyd llenyddiaeth. Wrth gwrs, roedd arddel y safbwyntiau efengylaidd, Calfinaidd, diwyro hyn mor agored yn rhwym o ddrysu rhai a chodi gwrychyn eraill gan mor ddieithr ac anghyffredin ydynt yn yr oes sydd ohoni. Aeth un beirniad mor bell ag awgrymu mai’r safbwyntiau efengylaidd hyn a arweiniodd at ‘ddiraddio’ gwaith R. M. Jones yn y Gymru secwlar. Mae’n annhebygol y bydd darllenwyr yr erthygl hon yn profi’r un rhagfarnau yn erbyn ideoleg R. M. Jones, ac yn wir, gallant brofi gwefr a bendith o weld gwirioneddau ysgrythurol yn cael eu datgan ar goedd a’u defnyddio i egluro ein llenyddiaeth a’n diwylliant. Yn wir, aeth y Parch. Ddr R. Tudur Jones mor bell ag awgrymu mewn adolygiad o Crist a Chenedlaetholdeb (1994) y byddai modd i Gristnogion nad ydynt yn ymddiddori llawer mewn materion llenyddol gael budd o’i ddefnyddio fel llyfr defosiynol.

3. Mantais i ddeall cymhelliad

Mae gan y Cristion hefyd fantais i ddeall cymhelliad Bobi Jones dros ysgrifennu o gwbl. Llywiwyd bydolwg R. M. Jones gan orchymyn cyntaf Duw i’w ddynoliaeth gyfan ar ddechrau Llyfr Genesis:
Bendithiodd Duw hwy a dweud, ‘Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi; llywodraethwch ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ac ar bopeth byw sy’n ymlusgo ar y ddaear’ (Genesis 1:28).
Daeth y ‘gorchymyn diwylliannol’ hwn i ddiwyllio’r ddaear – hynny yw gosod trefn arni – yn fath o arwyddair i’w yrfa. Fe’i sbardunwyd ymhellach gan y gorchymyn a ailadroddir amlaf yn yr ysgrythur, sef y gorchymyn i foli’r Arglwydd. Daeth y cysyniad o fawl yn gonglfaen i’w ddamcaniaethau theoretig a hawdd dadlau mai bywyd o fawl cynhyrchiol, cadarnhaol fu bywyd Bobi Jones ei hun – fel y tystia nifer a natur ei gyhoeddiadau. Parhaodd i fod mor ffrwythlon ag erioed yn ei nawfed degawd ar y ddaear hon. Serch cyflwr cefn poenus a oedd yn ei atal rhag eistedd wrth ddesg, dyfalbarhaodd drwy gymorth a chefnogaeth ddihafal ei wraig annwyl – a thestun cyson ei ganu serch – Beti.
Nid teyrnged mo’r erthygl hon, fel y nodwyd uchod. Ond pe bai darllenwyr y Cylchgrawn yn dymuno talu teyrnged i’r ysgolhaig arbennig hwn, un deyrnged bosibl fyddai manteisio ar y manteision a nodwyd uchod ac ymroi i ddarllen ychydig ar ei weithiau ym maes theori. Wedi’r cyfan, roedd ganddo ddigon o weledigaeth i sicrhau mynediad hwylus a rhad-ac-am ddim i ni at ei gyhoeddiadau diweddar drwy’r wefan: www.rmjones-bobijones.net. Does dim i’w golli felly – rhowch gynnig arni!

Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf