Mae Duw yn gweithio ar draws y byd trwy gyfieithu’r Beibl
Ewyllys Duw yw bod pobl o bob cenedl, iaith a llwyth yn ei addoli. Ond heb y Beibl yn eu hieithoedd eu hunain, ni all Cristnogion dyfu yn y ffydd na’i rhannu yn effeithiol ag eraill. Gellir darllen hanes yr Eglwys fel hanes cyfieithu’r efengyl i fwy a mwy o ieithoedd a diwylliannau– ac mae’r broses yn parhau a hyd yn oed yn cyflymu yn ein hoes ni. Mae Duw ar waith trwy gyfieithu’r Beibl.
Duw yn cyfieithu er ein mwyn ni
Mae’r Beibl yn ei gyfieithu ei hun. Cyfieithwyd yr Hen Destament i iaith Groeg fel bod credinwyr nad oeddent yn deall Hebraeg yn medru ei ddeall. Pan aeth awduron yr Efengylau ati i gofnodi geiriau Iesu, nid yn yr Aramaeg wreiddiol y gwnaethant hynny, ond yn yr iaith Roeg a ddeellid ar draws yr ymerodraeth. Ac wedyn adeg Pentecost, dyma’r Ysbryd Glân yn peri i’r Cristnogion cynnar barablu mewn ieithoedd di-ri er mwyn i’r neges am Iesu gael ei chyfieithu i iaith y bobl o gychwyn oes yr Eglwys.
Mae hyn wedi ei wreiddio yn natur hael ryfeddol Duw ei hun. Gwnaeth Duw ei hun yn ‘ddealladwy’ i ni – ei ‘gyfieithu’ ei hun, ar ryw olwg – er ein mwyn ni wrth ddod i’r byd yn ddyn. Yn yr ymgnawdoliad cawn y model y’n gelwir ni i’w ddilyn wrth rannu’r efengyl ag eraill: peidio â chodi’r un maen tramgwydd y tu hwnt i’r efengyl ei hun. Y cwbl y mae’n rhaid i bobl ei wneud i gael eu hachub yw rhoi eu ffydd yng Nghrist – nid rhoi eu ffydd yng Nghrist a newid eu diwylliant neu ddysgu iaith newydd yn ogystal. Rhaid i Gristnogion gyfieithu os yw’r efengyl i dyfu.
Twf yr efengyl
Bob tro mae’r Beibl yn ymddangos yn iaith y bobl, mae’r efengyl yn tyfu. Fel Cymry Cymraeg fe wyddom hyn. Yn ein hachos ni, gwelsom dwf aruthrol yn yr efengyl a pharhad iaith a diwylliant yn y cyfnod wedi cyfieithu’r Beibl. Fel y cofiwn eleni, digwyddodd yr un peth ar draws rhannau helaeth o Ewrop yn ystod y Diwygiad Protestannaidd. Ond pan fo eglwys heb Feibl yn iaith y stryd, mae hi’n edwino a marw pan ddaw gwrthwynebiad. Dyna ddigwyddodd yn rhannau helaeth o’r Dwyrain Canol yn ystod y mileniwm cyntaf O.C., er enghraifft. Oherwydd hynny, cyfieithu yw’r peth cyntaf mae cenhadon yn ei wneud fel arfer wrth gyrraedd pobl neu lwyth newydd.
Chwarelwr o ogledd Cymru oedd Watkin Roberts. Yn 22 oed aeth i ogledd yr India yn genhadwr. Dechreuodd weithio ymhlith pobl y Hmar – helwyr pennau enwog. Daeth gwahoddiad i’w ran i gwrdd â phennaeth y llwyth. Aeth i’w gyfarfod, a daeth pump o’r arweinwyr yn Gristnogion. Felly dyma Watkin yn dechrau cyfieithu’r Beibl ar eu cyfer. Yn rhyfedd ddigon, penderfynodd yr awdurdodau ymerodrol Prydeinig ei wahardd, a bu’n rhaid iddo adael yr ardal a rhoi’r gorau i’r cyfieithu. Ond parhau â’r gwaith a wnaeth y Cristnogion newydd brodorol, nes gorffen y Beibl cyfan. Meddai un o arweinwyr Cristnogol y Hmar ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif: ‘Erbyn hyn, mae 95% o’n pobl ni yn Gristnogion ac maen nhw’n addoli mewn 200 o eglwysi. Heblaw am Mr Roberts, yr unig gennad i ni ei chael erioed oedd y Beibl ei hun’.
Beibl i bawb o bobl y byd
Mae’r Beibl ar gael bellach yn iaith gyntaf dros 5 biliwn o bobl, ond mae 1.5 biliwn o bobl yn dal i aros amdano. Iddyn nhw, yr unig ffordd o gyrraedd gair Duw yw trwy ddysgu iaith arall neu drwy eu hail neu drydydd iaith. Mae hyn yn rhwystr sylweddol i dwf yr efengyl mewn rhannau helaeth o’r byd. Dyna pam mae Wycliffe a’i bartneriaid yn gweithio mewn dros 2,400 o ieithoedd ar draws y byd; fel bod pobl o bob cenedl, llwyth ac iaith yn cael clywed yr efengyl yn eu hiaith eu hunain, yn ddirwystr.
Os ydyn ni’n trysori’r Beibl, yna byddwn ni am weithio fel bod eraill yn gallu cael gafael arno, a chlywed y neges sydd ynddo, hefyd.
Beth gallwn ni ei wneud?
- Newid ein hagwedd tuag at y Beibl. Os yw Duw yn medru newid cwrs hanes trwy ei air, gall newid ein calonnau ni hefyd. Gofynnwn iddo einhelpu i dwrio ynddo am ei drysorau.
- Gweddïo dros y gwaith o gyfieithu’r Beibl.
-
Cefnogi’r gwaith o gyfieithu. Efallai yr hoffech chi fel eglwys noddi cyfieithiad o’r Beibl i iaith newydd? Cysylltwch â cgraves@wycliffe.org.uk
Ceir rhagor o wybodaeth yma:
www.wycliffe.org.uk