Yn ddiweddar cafwyd erthygl ar wefan BBC Cymru gan un o ddyfarnwyr mwyaf poblogaidd a medrus yr Undeb Rygbi. Mae parch byd-eang i Nigel Owens fel un o ddyfarnwyr mwya’ dawnus, meistrolgar, teg a phoblogaidd y gamp. Mae ei bersonoliaeth gynnes, ei hiwmor a’i ffraethineb, wedi ennill lle teilwng iddo yn rhengoedd ‘selebs’ y byd chwaraeon a thu hwnt. Ond mentrodd yn ei ddatganiad i fyd ffydd, cred a Christnogaeth. Mae ei onestrwydd didwyll i’w ganmol. Meddai wrthym ‘….mae ffydd yn dal i chwarae rhan bwysig – ddim lle mae’n cymryd drosodd fy mywyd i a dyw e ddim yn fy atal i rhag gwneud pethe – dyw’n ffydd i ddim yn ffydd gul o gwbl. Dwi’n dal i gredu, ond dydw i ddim yn credu ym mhopeth mae’r Beibl yn ei ddweud. Pe bawn i’n credu ym mhopeth mae’r Beibl yn ei ddweud fydden i’n methu bod yn pwy ydw i heddiw. Rwy’n credu y bu yna berson fel Iesu Grist, a wi’n credu yn rhai o’r pethau da wnaeth e ac a ddywedodd e ond dydw i ddim yn credu bod popeth mae’r Beibl yn ei ddweud iddo ei wneud a’i ddweud yn hollol wir. Rwy’n credu bod pethe wedi eu dodi yn y stori wrth i’r canrifoedd fynd heibio.’
Does dim byd newydd yn y cymysgwch hwn o gredu a gwrthod. Dethol a dewis yn ôl mympwy personol. Mae amhueaeth cyn hyned â gardd Eden wrth i’r sarff demtio’n rhieni cyntaf ’Yr oedd y sarff yn fwy cyfrwys na’r holl fwystfilod gwyllt a wnaed gan yr ARGLWYDD Dduw. A dywedodd wrth y wraig, “A yw Duw yn wir wedi dweud, ”Ni chewch fwyta o’r un o goed yr ardd”?’ Genesis 3:1 Mae ‘credu popeth mae’r Beibl yn ei ddweud’ yn cael ei ddyfarnu yn ‘ffydd gul’. Mae’n iawn i gredu yn yr Iesu ond nid ‘popeth mae’r Beibl yn ei ddweud iddo ei wneud a’i ddweud yn hollol wir.’ Does dim help na goleuni yn cael ei gynnig ar sut mae Nigel wedi cyrraedd yr asesiad hwn. Pa ganllaw neu reol rhesymol sy’n derbyn bodolaeth person hanesyddol a rhai ‘o’r pethau da wnaeth e ac a ddywedodd e’ ac yna wfftio’r lleill ?
Meddyliwch am funud am yr anrhefn fyddai’n bodoli ar gae rygbi wrth i chwaraewyr wfftio rhai o reolau’r gêm neu wrthod awdurdod y dyfarnwr a rheolau cydnabyddedig yr Undeb. Teg nodi fod esbonio’r rheolau a dyfarnu’n deg hyd yn oed ym myd llygad barcud camera teledu yn dipyn o gamp! Ond gyda llymanwyr da, TMO cydwybodol a dyfarnwr profiadol, mae modd derbyn dyfarniad rhesymol, teg. Er bod bron bob Cymro syn gwylio gêm rygbi yn arbenigwr, dim ond un dyfarnwr cyfreithiol sydd. Un awdurdod terfynol. Un set o reolau i bob gêm ym mhob lle i bob tîm. Dyma sail ddiogel, gadarn, i gynnal tegwch, pleser a mwynhad a chreu campweithiau crefftus er boddhad chwaraewyr a chefnogwyr.
Bu bardd, gweinidog a chyn-archdderwydd yn ddiweddar yn mynegi ei amheuaeth am yr angen i fod mor bendant am ein cred a’n hathrawiaeth. Wrth gwrs, ym myd englyn, y cywydd, y bryddest a’r soned mae rheolau eithaf caeth. A thrwy’r strwythur cywrain hwnnw mae modd mynegi dyfnder teimlad ac amgyffred prydferthwch. Gwell yw cadw at harmoni a chytgord y bardd emynydd o Bantycelyn – ‘Trwy ryw athrawiaeth hyfryd dyro i mi braw o’th hedd’ – i Williams mae undeb perffaith rhwng cred gadarn a phrofiad melys!
Ym myd y ffydd Gristnogol un Dyfarnwr sydd ac un Gair awdurdodol. Nid rheswm a’i gyfyngiadau amlwg neu fympwy dynol, na theimlad neu gonsensws y mwyafrif yw’r llinell fesur wrth lunio cred ac argyhoeddiad Cristnogol. Ond datguddiad Duw dros filoedd o flynyddoedd trwy ei Air awdurdodol. ‘Mewn llawer dull a llawer modd y llefarodd Duw gynt wrth yr hynafiaid trwy’r proffwydi, ond yn y dyddiau olaf hyn llefarodd wrthym ni mewn Mab.’ Hebreaid 1:1. Maer Arglwydd Iesu ei hun yn derbyn awdurdod gair yr Hen Destament. ‘Yn wir, rwy’n dweud wrthych, hyd nes i nef a daear ddarfod, ni dderfydd yr un llythyren na’r un manylyn lleiaf o’r Gyfraith nes i’r cwbl ddigwydd.’ Mathew 5:18. Mae Paul yn mynegi canllaw cydnabyddedig, sicr, yr apostolion cynnar – ‘Y mae pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi, a cheryddu, a chywiro, a disgyblu mewn cyfiawnder.’ 2 Timotheus 3:16. Cred Pedr oedd ‘Y mae gennym hefyd genadwri gwbl ddibynadwy y proffwydi; a pheth da fydd i chwi roi sylw iddi, gan ei bod fel cannwyll yn disgleirio mewn lle tywyll, hyd nes y bydd y Dydd yn gwawrio a seren y bore yn codi i lewyrchu yn eich calonnau. Ond sylwch ar hyn yn gyntaf: nid yw’r un broffwydoliaeth o’r Ysgrythur yn fater o ddehongliad personol, oherwydd ni ddaeth yr un broffwydoliaeth erioed trwy ewyllys ddynol; pobl oeddent a lefarodd air oddi wrth Dduw wrth gael eu hysgogi gan yr Ysbryd Glân‘ 2 Pedr 1:19-21.
Pwy sy’n penderfynu pa eiriau sy’n ddilys a dibynadwy? Ar sail pa ysgolheictod neu ymchwil mae Nigel Owens yn dyfarnu ‘bod pethe wedi eu dodi yn y stori fel mae’r canrifoedd yn mynd heibio’? Nid dyma farn y mwyafrif helaeth o ysgolheigion beiblaidd.
Rhai sy’n medru ar ieithoedd cynnar y testunau gwreiddiol. Eraill sy’n hyddysg yn niwylliant, arferion, cyfreithiau a thraddodiadau gwledydd y Beibl. Mae yna esbonwyr o bob cyfandir yn ein byd wedi treulio blynyddoedd yn astudio’r Beibl ac yn rhyfeddu at gampwaith llenyddol mwya poblogaidd y byd. Mae ymgais ar ôl ymgais wedi targedu’r Beibl a sarhau ei phrif neges ac mewn ambell wlad wedi ceisio ei dinistrio. Ond ofer fu’r ymgais bob tro. Ym mhob man lle mae llwyddiant a chynnydd Cristnogol mae parch a bri ir Beibl yn amlwg. Mae pob dirywiad Cristnogol – fel yma yng Nhymru – yn cydgerdded â meddwl isel, amheus, o Air Duw. Wrth danseilio’r Beibl a gosod ein barn ni uwchlaw gair Duw rydym yn diorseddu awdurdod Duw ac felly ‘ yn cael ein lluchio gan donnau a’n gyrru yma a thraw gan bob rhyw awel o athrawiaeth…’ Effesiaid 4:14
Yn ei erthygl mae Nigel Owens yn sôn am rym a chyfaredd emyn. Pwrpas pob emynydd Cristnogol yw dyrchafu gwirionedd y gair a’i fynegi mewn ffordd ganadwy er bendith y credadun. Ystyriwch y canlynol sy’n dyrchafu’r Beibl a’i wirionedd.
Goleuni ac anfeidrol rym
Yw hyfryd eiriau’r nen;
Pob sillaf a ddywedodd Ef
Sydd siŵr o ddod i ben.
William. Williams
O! am dreiddio ir adnabyddiaeth
O’r unig wir a bywiol Dduw,
I’r fath raddau a fo’n lladdfa
I ddychmygion o bob rhyw.
Credu’r gair sy’n dweud amdano
Am ei natur sanctaidd wiw
Sy’n farwolaeth i bechadur
Heb gael Iawn o drefniad Duw.
Ann Griffiths.
Ydy hi’n deg gweiddi o eisteddle cred a ffydd – ‘C’mon, Ref!’ Oes angen gwirio’r dyfarniad ansicr hwn? Beth am barchu’r TMO tragwyddol sydd â’r awdurdod pennaf, cliriaf a’r mwya’ diogel er ein daioni a’n bendith?