Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Dod i adnabod Nathan Munday

27 Tachwedd 2018 | gan Nathan Munday

Dwed ychydig bach am dy gefndir.

Ces i fagwraeth hyfryd yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin a chael f’addysg yn Ysgol Gyfun Maesyryrfa . Fe ddes i yn Gristion pan oeddwn i’n saith mlwydd oed. Roeddwn wedi brifo mam rywsut a dwi’n cofio gweddïo am faddeuant yn f’ystafell y noson honno. 17 Ebrill 2000 oedd y dyddiad. Yn y bore, teimlais heddwch ysbrydol gan wybod fod fy mhechod wedi’i faddau – popeth yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Clod i Dduw!
Fel plentyn, roeddwn yn mwynhau ysgrifennu. Dwi bob amser wedi ‘teimlo’ lot ymhob achlysur. Dwi’n credu bod cydwybod dyner yn fendith ac yn felltith! Ar y naill law, mae’n cynorthwyo bywyd ysbrydol a chreadigol. Ar y llaw arall, mae’r byd a phechod yn brifo gymaint. Ysgrifennais gyfrol o straeon byrion yn yr ysgol. Dyma oedd y dechreuad.

Beth yw dy waith ar hyn o bryd?

Rwyf ar fin gorffen fy PhD sy’n astudiaeth o farddoniaeth grefyddol yng Nghymru yn y ddwy iaith. Ar y naill law, astudiaeth o lenyddiaeth ydyw. Ar y llaw arall, rwy’n mewnbynnu elfennau diwinyddol a chymdeithaseg grefyddol hefyd. Mae’n waith eithaf mentrus ond rwyf wedi derbyn cymaint o gefnogaeth. Roedd cael cyllid gan y llywodraeth i wneud astudiaeth fel hon yn arwydd i mi fod Duw eisiau i mi wneud y gwaith. Mae’n bwysig cael Cristnogion yn yr academi! Dysgodd Bobi Jones hwnna i mi.

Cyhoeddwyd dy lyfr cyntaf gan Parthian yn 2017. Sut fyset ti’n disgrifio dy lyfr, Seven Days?

Gwnaeth Cynan Llwyd sgwennu rhywle mai ‘Cabinet of Curiosities’ ydyw. Mae hynny’n ddisgrifiad da. Mae taith tad a mab yn cael ei chyflwyno trwy saith pennod sy’n cyfateb i saith diwrnod ar y daith. Taith go iawn yw hi; taith a gymerais ar gyrion Sbaen a Ffrainc ger mynyddoedd y Pyreneau. Wrth deithio rwy’n dychmygu pererindodau eraill, gan ofyn cwestiynau fel ‘beth sy’n wahanol rhwng y gwir a ffuglen?’ Mae yna nifer o gymeriadau diddorol yn dod ar fy nhraws sydd yn ysbrydoli breuddwydion ac yn cyflwyno straeon eraill.

Rwyt ti’n cyfeirio at fynyddoedd y Beibl trwy dy lyfr. Beth yw dy hoff gyfeiriad at fynydd yn y Beibl, a pham?

Cwestiwn da ac anodd! Cyfeiriadau at ein Harglwydd Iesu ar amryw o fynyddoedd sydd wedi dal fy sylw am flynyddoedd. Mae’r Beibl yn sôn am yr Iesu yn mynd i weddïo ger y copaon. Rwy’n gallu dychmygu Iesu’n mwynhau’r tawelwch ac mae rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n teimlo’n agos ato pan rwy’n dringo. Nid rhyw bantheistiaeth fel Wordsworth yw’r teimlad hwn; mae pob mynydd mewn ffordd yn f’atgoffa o Iesu yn dringo ac yn agosáu at ei Dad.

Ai pererindod yw’r daith yn Seven Days?

Ie. Dechreuad fel petai. Rwy’n edrych ar ein holl fywyd fel pererindod. Pererin o ddisgrifiad Bunyan neu Pantycelyn ydw i ac mae’r mynyddoedd, mewn ffordd, yn adlewyrchu bywyd cyfan y Cristion. Y copaon ysbrydol, y dyffryn digalon, y werddon hyfryd, y mannau tywyll, y cyfnod oer, y cyfnod cynnes ac yn y blaen.

Yn dy lyfr cawn ddyfyniadau a chyfeiriadau cryf at y Beibl ond rwyt ti hefyd yn cyfeirio at draddodiadau mytholegol, chwedlonol a llenyddol. Beth oedd dy amcan trwy wneud hyn?

Un amcan oedd dathlu diwylliant cyfoethog Ewrop. Mae straeon yn bwysig oherwydd mae yna bethau i’w dysgu oddi wrth ein gilydd hyd yn oed pan nad yw’r straeon yn real. Trist, yn fy marn i, yw Cristnogion sydd yn rhy ysbrydol i ddarllen pethau eraill heblaw Puritan Paperbacks (er fy mod i’n argymell y rhain wrth gwrs!) Roedd Iesu ei hun yn creu straeon er mwyn dysgu gwirioneddau i’w ddilynwyr.

Oes yna groeso, neu le, ar gyfer lleisiau Cristnogol ym myd cyhoeddi Saesneg yng Nghymru heddiw?

A bod yn deg, roedd fy nghyhoeddwyr yn arbennig. O ran darllenwyr, mae yna bob amser amheuaeth am rywun sy’n datgan ei bod nhw’n dilyn yr Arglwydd Iesu. Ces i adolygiad yng nghylchgrawn Planet yn ddiweddar yn condemnio’r ffordd roeddwn wedi datgan mai Duw greodd y byd. Roeddwn yn hapus i weld anghrediniwr fel John Barnie yn ymateb i’r llyfr! Dydy tywyllwch ddim yn mynd i groesawu goleuni! Does byth wir groeso ar gyfer lleisiau Cristnogol. Os cawn ni groeso gan y byd, mae rhywbeth mawr yn bod!

Mae’n bwysig iawn fod Cristnogion yn defnyddio eu doniau ysgrifennu. Mae yna rym yn y gair on’does? Ac mae yna le i ogoneddu, clodfori a chyhoeddi ein Harglwydd ymhob sffêr o fywyd. Mae dyletswydd arnom ni, a dweud y gwir, i ddefnyddio’r doniau y mae Duw wedi eu rhoi i ni. Mae lleisiau goleuedig Cristnogol yn werthfawr mewn byd tywyll. Gwerthfawr ac angenrheidiol!

Mae’r bywyd Cristnogol yn aml yn cael ei gyffelybu i daith. Ble wyt ti ar y daith honno?

Dwi’n dal i gredu! Weithiau rwy’n teimlo fel Theo gyda’i ffyn baglau; ar ddiwrnodau eraill, rwy’n teimlo fel Billy Bray, Mab y Brenin! Yn aml, rwy’n teimlo fel y dyn yna dywedodd: ‘Iesu dwi’n credu, helpa fy anghrediniaeth’. Diolch byth nad yw fy ffydd yn dibynnu ar fy nheimladau i. Diolch am yr Un sy’n fy nghynnal trwy ei Ysbryd.

Rwyt ti’n sôn am dy deulu – dy rieni a dy chwaer – mewn ffordd sydd wir yn cyfleu’r cariad ac agosatrwydd sy’n bodoli rhyngoch er eich bod yn unigolion tra gwahanol wrth natur. Pa mor bwysig yw teulu?

Mae teulu yn hollbwysig. Mae fy nyweddi yn dod o gefndir di-gred yn yr Iseldiroedd. Un o’r pethau cyntaf ddwedodd hi wrthyf pan gwrddodd hi â’m teulu oedd: ‘Nate, this is what God intended’. Nawr mae fy nheulu i yn bell o fod yn berffaith! (Rwy’n gallu clywed pobl yn chwerthin nawr!) Ond, mae strwythur Beiblaidd yn hyfryd; y tad yn arwain y teulu; y fam yn ein magu ni ac yn ein haddysgu ni ym mhethau’r Arglwydd; Mam-gu a Thad-cu yn arwyr ysbrydol; a chwaer sy’n ffrind arbennig ac yn gynghorwraig. Maddeuwch os rwy’n swnio’n sentimental. Ond roedd Jenna’n iawn, roedd Duw wedi cynllunio teulu ac mae Duw yn achub teuluoedd. Dyma un o batrymau gorau’r cread.

Mae Seven Days yn cyfleu rhywbeth o’r gwerth rwyt ti’n ei roi ar gael gwreiddiau diwylliannol, yn ogystal â chyfleu perthynas o barch a rhyfeddod at y byd naturiol. Pa resymau sydd gan y Cristion yn benodol i werthfawrogi’r pethau hyn?

Mae’n bwysig fod y Cristion yn darllen ac yn mwynhau natur. Mae popeth yn rhodd gan Dduw. Yn Eden, roedd ein rhieni wedi cael eu penodi i warchod natur a’r anifeiliaid. Mae’r mudiad gwyrdd yn datgan mai rhywbeth newydd o’r chwedegau yw hyn. Ond, mewn gwirionedd, mae gwerthfawrogiad ac amddiffyniad natur yn deillio o’r Beibl.

Rwy’n dwlu ar yr emyn Saesneg yna gan George Wade Robinson. Rydyn ni’n canu’r emyn yma’n aml yn yr Heath: ‘Loved with everlasting love’. Mae’r ail bennill yn sôn am natur:

Heaven above is softer blue,
Earth around is sweeter green;
Something lives in every hue
Christless eyes have never seen:
Birds with gladder songs o’erflow,
Flow’rs with deeper beauties shine,
Since I know, as now I know,
I am His, and He is mine.

Mae llygaid y Cristion yn gallu gweld mwy ac yn gallu mwynhau natur mewn ffordd lawnach. Dyma fy mhrofiad i beth bynnag.

Beth nesaf?!

Wel, mi fyddwn ni’n priodi ym mis Medi. Rwy’n edrych ymlaen at hyn. Rydyn ni wedi bod yn byw mewn dwy wlad wahanol am dros flwyddyn ac yn cyfri’r dyddiau i fod yn yr un wlad, yr un ddinas, yr un tŷ hyd yn oed! Rwyf hefyd yn edrych am waith ar hyn o bryd. Mae’r PhD yn dod i ben ac rwy’n gofyn i Dduw ‘beth nesaf?’ bron bob dydd. Diolch byth nad yw ein pererindodau yn digwydd ar hap. Diolch i Dduw sy’n trefnu lluoedd nef ond sydd hefyd yn trefnu ein llwybrau ni!

Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf