Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

27 Tachwedd 2018 | gan Amanda Griffiths

Beth yw dy swydd di ar hyn o bryd?

Mae gen i ddwy swydd ar hyn o bryd: rwy’n diwtor cysylltiol i Adran Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Caerdydd a hefyd rwy’n Weithwraig Gwragedd yn Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd. Mi fyddaf yn gorffen y swyddi hyn gyda hyn gan fy mod newydd dderbyn swydd llawn amser yn Swyddog Cyswllt Cymraeg Ail Iaith i CBAC.

Roeddet ti’n athrawes tan yn ddiweddar iawn. Mae nifer o bobl sy’n gweithio ym myd addysg yn teimlo’n rhwystredig gyda’r ffordd mae pethau’n mynd a’r pwysau gwaith cynyddol. Oes gen ti rywbeth i’w ddweud am hynny?

Yn anffodus, dwi’n gweld mwy a mwy o ffrindiau a chyfeillion sy wedi bod yn athrawon am flynyddoedd, ac felly’n athrawon profiadol iawn, yn rhoi’r gorau i ddysgu. Mae hyn yn fy nhristáu i achos dwi’n dal i feddwl ei bod hi’n hynod bwysig cael cymaint o Gristnogion â phosib ym myd addysg. Yn debyg iawn iddyn nhw, ro’n i wedi cael digon ar deimlo’n fethiant wrth fethu â chwblhau gofynion afrealistig marcio, asesu, lefelau a chasglu data – a hynny’n gynyddol gyson. Does dim ateb i hyn gen i ar hyn o bryd, ond hoffwn i ddweud fy mod i’n parchu’r Cristnogion yn ein plith ni sy’n dal i wneud gwaith arbennig o fewn yr ystafell ddosbarth a’r rheiny sy’n benaethiaid neu ar dimoedd rheoli. Dylem ni gofio i weddïo’n gyson am ein brodyr a’n chwiorydd ni sy’n tystio i enw’r Arglwydd mewn ysgolion, dosbarthiadau ac ystafelloedd athrawon ledled ein gwlad.

Mae’n gam mawr – efallai byddai rhai yn dweud ei fod hefyd yn risg fawr – i orffen swydd heb wybod beth mae rhywun am ei wneud nesaf, ac yna cychwyn o’r newydd mewn gwaith gwahanol. Beth oedd yn help i ti wrth gymryd y penderfyniad hwn?

Gwybod mai Duw oedd â rheolaeth lwyr ar – a thros – fy mywyd i. Roedd dibynnu ar Dduw yn nhymor yr haf a mis Medi y llynedd, a gwybod bod ganddo gynllun perffaith ar fy nghyfer i, wedi f’atgoffa fod angen i ni bwyso arno a chael ffydd ei fod e’n rheoli’r pethau ymarferol (fel sicrhau bod gen i ddigon o arian i dalu taliadau morgais!) ynghyd â’r ysbrydol a’r tragwyddol. Roedd gwybod hefyd fod fy ffrindiau a f’eglwys i yn gweddïo trosof i – i fi gael arweiniad clir a thawelwch meddwl – yn gymorth aruthrol.

Wrth edrych yn ôl ar dy daith yn Gristion hyd yn hyn, oes yna wragedd neu ferched sydd wedi bod o gymorth penodol i ti?

Bois bach, am gwestiwn! Dwi wedi bod mor freintiedig ar hyd y blynyddoedd yn yr eglwys yng Nghaerdydd (ac un neu ddwy ohonynt sy wedi symud i ffwrdd erbyn hyn) i gael fy amgylchynu â gwragedd ‘doeth’ sy’n ‘ofni’r Arglwydd’ (Diarhebion 31:26 a 30).
Braint o’r mwya yw eu gweld nhw’n wynebu salwch, marwolaeth a threialon bywyd yn atseinio geiriau’r Apostol Paul yn Galatiaid 2:20. Hoffwn i eu henwi nhw i gyd, a diolch iddyn nhw yn gyhoeddus fel hyn ond y maen nhw’n rhy niferus!

Mae ein cymdeithas ni heddiw yn bombardio merched o oedran ifanc â delweddau a syniadau ynglŷn â beth sy’n ddelfrydol a sut y dylen nhw ymddwyn. Gall y Beibl ymddangos yn hen ffasiwn mewn cymhariaeth. Beth yw dy ymateb i hynny?

Fe ges i f’atgoffa’r wythnos hon yn ein cyfarfod gwragedd ni: mae’r Beibl yn gyfoes iawn! Mae dynoliaeth yn gwario llawer o arian a threulio llawer o amser yn trio darganfod beth yw ystyr bywyd. Ond fel cawson ni ein hatgoffa yn nechrau pennod gyntaf Llyfr y Pregethwr, ‘gwagedd llwyr yw’r cyfan’ o safbwynt dynol yn unig a thros dro mae’r cyfan yn para. Pa elw sydd i neb yn ei holl lafur, wrth iddo ymlafnio dan yr haul?’ (ad.3) Gallwn ni wneud ein gorau glas i fod y gorau gallwn ni fod (boed hynny’n ymddangosiad, ffitrwydd, poblogrwydd, cymwysterau, cyfoeth ac ati) ond mae’r Beibl yn dweud wrthym yn glir mai gwagedd yw’r holl bethau hyn heb fod gennym berthynas â Duw a maddeuant am ein holl bechodau trwy aberth Iesu Grist. Does dim ots beth y ceisiwn ni ei wneud (na beth a ddywed y byd wrthym ni y dylen ni ei wneud) mae Duw yn ein caru ni a’n derbyn ni drwy farwolaeth Iesu Grist trosom ni.

Dydy magu cymdeithas ddyfnach â Christnogion eraill ddim yn dod yn naturiol i bawb, ond oes angen i ni ymdrechu i fod yn allblyg fel merched? Pam?

Dwi’n cael f’atgoffa o eiriau Iesu Grist wrth y disgyblion mai cariad ddylai nodweddu ei ddisgyblion: ‘Yr wyf yn rhoi i chwi orchymyn newydd; carwch eich gilydd. Fel y cerais i chwi, fel yr ydych chwithau i garu eich gilydd. Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych’ (Ioan 13:34,35). Dylai pob un ohonom ni weddïo’n ddyfal am nerth a gras gan Dduw i‘n helpu ni i garu’n gilydd a thrwy hyn i garu eraill er mwyn cyflwyno newyddion efengyl gras Duw i’r di-gred yn ein plith ni.

Wyt ti’n meddwl fod yna le i eglwysi feddwl yn fwy am sut y maent yn meithrin a gofalu am ferched?

Wel, gwnaf i rannu â chi am rywbeth a oedd o help a chymorth mawr i mi. Ces i’r cyfle i gael bod yn rhan o hyfforddiant cwnsela Cristnogol y llynedd. Roedd Eglwys Minster, Caerdydd, o dan arweiniad Heulwen Pritchard wedi trefnu cwrs cwnsela Cristnogol ar gyfer unrhyw un yn eglwysi Caerdydd oedd yn weithiwr Cristnogol neu â chyfrifoldebau bugeiliol neu â diddordeb i ddysgu mwy am ofalu am bobl.Wyth sesiwn yn unig yn para wyth wythnos oedd y cwrs ac roedd e’n brofiad gwerthfawr iawn. Fe fuaswn i’n argymell rhywbeth tebyg i bawb yn yr eglwysi achos gwnaeth y cwrs danlinellu pwysigrwydd gwrando ar ein gilydd a gofalu am ein gilydd yn fawr iawn i mi.

Beth sydd wedi dy helpu di’n ddiweddar i addoli Duw?

Ar hyn o bryd, yn ein hoedfaon hwyrol yn y capel mae Emyr yn ein harwain ni trwy gyfres ar ‘Addoliad’. Dwi wedi cael fy herio i gofio a gweld y dylen ni addoli Duw ymhob peth yr ydyn ni’n ei wneud. Mae hyn yn ddigon i’n llorio ni a pheri ein bod ni’n rhoi’r gorau cyn i ni hyd yn oed ddechrau. Ond, mae’n rhaid i ni gofio am gariad ein Duw ni a’i fod wedi trefnu trwy ei Fab a’r Ysbryd Glân ein bod ni’n gallu cael cymorth i wneud hyn.Mae Salm 100 yn ein hatgoffa ni pam mae Duw yn haeddu ein haddoliad a’n diolchgarwch ni.

Oes gen ti adnod yr hoffet ei rannu â ni?

Oes. Daeth yr adnodau hyn i fyny yn ystod ein trafodaeth ni ar lyfr Andrew Wilson, Incomparable; Exploring the character of God yn ystod ein brecwast merched. Maen nhw’n ein hatgoffa bod ein Duw ni tu hwnt i bawb a phopeth arall sy’n bodoli, wedi bodoli ac yn mynd i fodoli. Mae’r adnodau hyn yn cynnig cysur i fi a pheri i fi ryfeddu o’r newydd at fawredd Duw, a bod y Duw hollalluog hwn hefyd yn fy ngharu i: Eseia 40: 21-4.

Beth hoffet ti i ni weddïo drosot ti a thros y gwaith yng Nghaerdydd?

Byddwn i’n gwerthfawrogi eich gweddïau chi’n fawr iawn. Fel y dywedodd Ioan Fedyddiwr am Iesu: ‘Y mae’n rhaid iddo ef gynyddu ac i minnau leihau’. Gweddïwch, os gwelwch chi’n dda i falchder a hunanbwysigrwydd gael eu tynnu ymaith ac i bobl weld gras a chariad yn trigo ynof i wrth imi geisio cerdded yn nes at Iesu bob dydd. Hefyd, yr anghenraid i mi bwyso ar Dduw ar gyfer pob dim.

Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf