Yr Hen Hen Hanes: Newyddion Da i Bawb Heddiw
- gan Gwynn Williams
- 62 tud
- ISBN 978-1-85049-263-4
- am ddim
Mae gan y llyfryn hwn neges bwysig: mae’r ‘hen, hen hanes’ am Iesu Grist yr un mor ffres, yr un mor werthfawr, yr un mor gyfoes ag erioed. Dyma newyddion da i bawb heddiw. Nid oes angen newid na moderneiddio’r efengyl hon. Yr hyn sydd ei angen, yn hytrach, yw ei deall o’r newydd – a’i chredu.
A dyna fwriad y llyfryn – cyflwyno efengyl Iesu Grist trwy gyfrwng nifer o ddarluniau syml o dudalennau’r Beibl, mewn ffordd fydd yn agoriad llygad ac yn achos addoliad. O’i ddarllen, gobeithio y cewch brofi fod yr ‘hen, hen hanes’ yn troi’n ‘newydd, newydd gân’.
I dderbyn copi cliciwch yma