Malachi: Proffwyd Barn a Bendith
- gan Gwynn Williams
- ISBN 978-1-85049-258-0
- 52 tud
- am ddim
Llyfr olaf yr Hen Destament yw Malachi. Mae hefyd yn llyfr byr iawn, ac oherwydd hynny mae’n ddigon hawdd peidio â thalu sylw iddo. Ond mewn gwirionedd mae’n cynnwys neges sydd o’r pwys mwyaf i’n dyddiau ni:
- Mae Malachi’n ein rhybuddio rhag byw mewn ffordd sy’n annheilwng o Dduw. Sonia am gariad Duw tuag at ei bobl, ond hefyd am eu hagwedd ddiffygiol a’u hymddygiad anufudd hwythau. Mae’n galw am edifeirwch, ac yn datgan y daw barn ddifrifol heb yr edifeirwch hwn.
- Mae Malachi hefyd yn cynnwys addewid o fendith ryfeddol, trwy ddyfodiad y Meseia. Yr hyn a wna yw pontio rhwng yr Hen Destament a’r Testament Newydd, gan baratoi’r ffordd i Iesu Grist.
Mae’n bwysig i ninnau gymryd rhybuddion Malachi o ddifrif, yn enwedig mewn cymdeithas sy’n troi’n fwyfwy annuwiol. Ond mae ganddo hefyd neges galonogol iawn, neges sy’n llawn cysur ac anogaeth i bobl Dduw heddiw.
I dderbyn copi, cliciwch yma