Yr Oen ar ei Orsedd – Golwg ar Esgyniad Iesu Grist
- gan Gwynn Williams
- 38 tud.
- Clawr Meddal
- ISBN 978-1-85049-256-6
- Am ddim
Nid yw esgyniad Iesu Grist i’r nefoedd yn cael llawer o sylw heddiw. Hyd yn oed yn y Gymru hon mae llawer yn ddigon cyfarwydd â hanes ei eni, ei fywyd ar y ddaear, ei farwolaeth ar y groes, a’i atgyfodiad y trydydd dydd. Ond ei esgyniad yn ôl i’r nefoedd wedyn? Pwy sy’n rhoi unrhyw sylw i’r digwyddiad hwnnw?
Pwrpas y llyfryn hwn yw ein hatgoffa fod yr esgyniad yn ddigwyddiad pwysig yn hanes Iesu Grist. Mae hefyd yn dangos fod ei esgyniad yn berthnasol iawn i ni heddiw. Ar sawl cyfrif gall y dyddiau hyn fod yn ddigon anodd i’r rhai sy’n arddel y ffydd Gristnogol. Ond gwelwn yn y llyfryn hwn fod cysur, calondid, a bendith wrth godi golygon at yr ‘Oen ar ei orsedd’.
I dderbyn y llyfr – cliciwch yma