Ymateb teulu sy’n byw yn Las Vegas i’r gyflafan yno ar 1 Hydref 2017 pan laddwyd 58 o bobl gyda 851 wedi eu hanafu
Ein hymateb cyntaf yng ngoleuni trychineb Las Vegas rai misoedd yn ôl oedd braw, galar a dychryn; yna yn sydyn newidiodd i deimlad o gariad dros ein dinas a dymuniad i helpu. Wedyn roedd rhaid wynebu’r cwestiynau heriol y mae’r byd yn eu gofyn wedi digwyddiad o’r fath.
Wrth ddeffro’r bore trannoeth roedd llu o bobl wedi cysylltu â ni yn gofyn a oeddem ni’n iawn. Ar y pryd nid oeddem yn ymwybodol o’r erchylltra a oedd wedi digwydd ond ar ôl darganfod, cawsom ein hysgwyd. Pam oedd y dyn yma wedi gwneud y fath beth? Sut gall y fath ddrygioni fodoli mor agos atom ni? Beth fyddai hyn yn ei olygu i’n dinas ni? Cawsom ein cyffwrdd gan nifer y bobl a gysylltodd â ni i gadarnhau ein bod yn ddiogel, roedd yn atgof cryf o ba mor ddiymadferth ydym i ragddyfalu, heb sôn am reoli digwyddiadau o’r fath. Sut gall ein Duw sofran ganiatáu i rywbeth fel hyn ddigwydd? Gosodwyd materion ymddangosiadol bwysig ein bywydau ni i mewn i bersbectif yn syth.
Yn fuan trodd ein meddyliau at alar. Galar dros golled bywyd a’r rheini oedd wedi eu hanafu yn ddifrifol yn ogystal â’r rheini nad oedd wedi eu hanafu yn gorfforol ond a fyddai yn sicr yn dioddef yn seicolegol ac yn emosiynol, wedi eu creithio gan yr hyn a welsant. Gwyddom am ddysgeidiaeth y Beibl am effaith bellgyrhaeddol pechod ond roedd meddwl am y canlyniadau parhaol i filoedd o dorf y cyngerdd yn teimlo’n annheg ac yn anghyfiawn. Cawsom ein llethu/calonogi wrth weld a gwrando ar adroddiadau newyddion yn manylu ar ymateb anhygoel y gymuned, yn yr oriau yn syth wedi’r saethu ac ymlaen i’r dyddiau dilynol. Pobl yn eu taflu eu hunain o flaen anwyliaid wrth i gawod o fwledi lifo o’r saethwr anweledig. Dieithriaid yn defnyddio eu tryciau ‘pick up’ fel ambiwlans i gludo cleifion i ysbytai lleol. Doctoriaid ac eraill yn dyblu a threblu eu horiau gwaith er mwyn ymdrin â thros 500+ o ddioddefwyr. Roedd canolfannau rhoi gwaed yn gorlifo gyda channoedd yn aros am oriau er mwyn cael rhoi gwaed. Rhoddwyd gymaint o ddŵr a rhoddion gan bobl ac eglwysi lleol nes bod canolfannau yn gwrthod derbyn mwy. Gorchuddiwyd y ddinas â chrysau t, hetiau a sticeri car gyda’r hashnod ‘Vegasstrong’ a ‘PrayForVegas’ wrth i’r gymuned gyfan ddod at ei gilydd i alaru colli cymaint o’i haelodau. Mae drygioni ofnadwy, mae’n wir, ond mae hefyd ddaioni amlwg yn wyneb caledwch, i raddau sy’n herio diwinyddiaeth rhywun am Lwyr Lygredigaeth.
Ni chymerodd lawer o amser i’r cyfryngau cymdeithasol a’r rhaglenni teledu lywio sgyrsiau’r cyhoedd tuag at: reoli gynau, terfysgaeth, drygioni a daioni dynoliaeth, yr angen am ddiogelwch gwell, gwleidyddiaeth y rheini sy’n gwrando ar ganu gwlad ac yn y blaen. Yn ei bregeth y Sul canlynol canolbwyntiodd ein Gweinidog ar y drychineb ofnadwy a beth ddylai persbectif y Cristion fod ar adeg o boen a cholled. Siaradodd am sut y gwnaeth Iesu wylo ac fel Cristnogion rydym yn cael ein galw i alaru gyda’r rheini sydd o’n hamgylch. Does dim rhaid i ni wybod yr holl atebion, meddai, am nad oes gennym yr holl atebion. Cyn i ni symud ymlaen at geisio darganfod atebion, dylem wylo dros bechod a’i ganlyniadau. Fel Cristnogion ni ddylem roi atebion hawdd, cyflym a gwag i anghredinwyr, mae gennym ffydd ddiysgog nad yw’n ddibynnol ar ddigwyddiadau nac amgylchiadau. Nid yw’r drygioni yn y byd hwn i’w gymharu â chariad a phŵer aruthrol ein Duw ni. Nid yw’r holl atebion gennym ond fe wyddom fod gennym Dduw sy’n barnu’r rheini sy’n pechu yn ei erbyn e a’i blant. Fel Cristnogion, ein lle ni yw helpu’r bobl leol â’u anghenion amrywiol, boed yn gorfforol, yn emosiynol neu’n ysbrydol. Efallai’n wir fod angen i’r llywodraeth roi sylw i rai materion, ond ein galwad ni yw caru a gofalu am y rheini sydd mewn angen a’r ffordd orau o wneud hyn yw ymwneud yn bersonol â’r bobl o’n hamgylch. Yn olaf, rhaid i ni weddïo ar i Iesu ddychwelyd yn fuan. Ef yn unig a all ein gwaredu ni o’r byd hwn sy’n llawn pechod. Gafaelwn yn dynn yn ei addewid y bydd ef yn dychwelyd.
Mae’r saethu wedi newid ein persbectif ar ein dinas, ein cymuned a’r natur ddynol. Mae pobl yn aml yn galw Las Vegas yn ‘Sin City’ ond drwy’r trychineb hwn rydym wedi gweld, er bod pechod yn bresennol ac yn ffynnu yn y ddinas, bod hefyd ddaioni anhygoel yn ymddangos ar adegau o’r fath. Gwelwn ddrygioni a natur bechadurus dyn yn y saethwr ond cawsom ein rhyfeddu gan arddangosiad amlwg o brydferthwch a daioni Duw yn y rheini a ymatebodd trwy helpu’r rhai oedd mewn angen. Yn y Beibl, mae Duw yn aml yn defnyddio’r rhai sy’n annerbyniol gan gymdeithas i gyflawni ei waith, ac rydym ni wedi gweld y bobl y byddem ni fel arfer yn eu gwawdio yn ‘bobl Vegas o’r iawn ryw’ nid yn unig yn cefnogi eraill ond yn peryglu eu bywydau dros eraill. Wrth i ni ymweld â chofeb a godwyd ar y Strip, gweld safle’r saethu a gweld pobl yn gweddïo yno cawsom ein rhyfeddu eto o weld lle sy’n llawn pechod yn cynnig lle o obaith a gweddi i bobl. Cododd un eglwys efengylaidd babell wrth ymyl y gofeb er mwyn dosbarthu dŵr a chynnig gweddïo â phobl oedd yn ymweld, trwy hyn roeddynt yn treulio amser ac yn rhannu’r efengyl â llu o alarwyr.
Trwy’r proffwyd Jeremeia, dywedodd Duw wrth ei blant yn Babylon i sicrhau ffyniant y ddinas y caethgludwyd hwy iddi, er i’r brenin a’r bobl wadu’r gwir a’r bywiol Dduw. Gan i’r saethu effeithio yn ddifrifol ar gannoedd o bobl yn bersonol, fel Cristnogion rydym wedi gallu arddangos daioni digyfnewid Crist yn fwy amlwg. I ffrindiau pell ar FaceBook neu i gyd-weithwyr sy’n brwydro â’r problemau, rhoddwyd caniatâd tawel i ni dystio i bresenoldeb a phwrpas Duw a’n gobaith ni yng Nghrist. Roedd ein heglwys ni yn un o nifer a ddarparodd brydau bwyd a chardiau diolch i’r ymladdwyr tân a’r heddlu sy’n rhoi eu bywydau mewn perygl yn ddyddiol i helpu’r rhai sydd mewn angen, mae eu gwaith yn aml yn mynd yn angof ond daeth i’r amlwg eto yn ystod y drychineb a dysgasom i’w gwerthfawrogi fwy.
Mae amser wedi lleihau, a bydd yn parhau i leihau’r emosiwn a’r ffocws ar y saethu erchyll ddechrau Hydref, felly ceisiwn yn ddyfal brynu’r amser am fod y dyddiau yn ddrwg ond mae ein Gwaredwr yn sefyll yn abl a bodlon i achub.