Geiriau cyntaf Iesu wrth Pedr oedd ar iddo ei ddilyn ef (Math. 4:19). Ei eiriau olaf iddo oedd ar iddo ei ddilyn ef (Ioan 21:22). Pob cam o’r ffordd ni ffaelodd Pedr â dilyn yr Iesu, er iddo gwympo sawl tro.
Daeth Pedr yn ddyn newydd pan ddaeth Iesu i’w fywyd. Newidiwyd cwrs ei fywyd yn llwyr gan droi o ddal pysgod i bysgota am ddynion. Dyfalwn beth a welodd Iesu yn Simon i roi’r enw newydd, Pedr, iddo. Prin fod Pedr mor gadarn â’r graig, ond gallai’r Iesu droi’r dyn hwn i fod yn arweinydd gwerthfawr i’w eglwys.
Cyffesodd Pedr Iesu yn Feseia a dywedodd Iesu wrtho mai ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys (Mathew 16:18). Cymerir y graig hon i olygu cyffes Pedr yn ei swyddogaeth yn arweinydd cynrychioladol yr Eglwys (Eff. 2:20). Mae Iesu Grist yn ffurfio’i Eglwys yn ôl patrwm deuddeg llwyth cenedl Israel i fod yn bobl iddo’i hun (Ex. 19:4-6 cf. 1 Pedr 2:9).
Wrth feddwl am waith gwaredigol Duw fe welwn ei fod ef yn ei Fab yn galw pobl ato’i hun gan greu eglwys. Mae Iesu yn ei fywyd a’i waith yn dangos Duw i’r disgyblion. Mae hwythau yn eu tro yn credu ynddo ac yna’n sôn wrth eraill amdano yn Waredwr Israel.
Cryfderau
→ Arweinydd ymhlith y 12 disgybl
→ Pregethwr mawr dydd y Pentecost
→ Ffynhonnell debygol Efengyl Marc
→ Awdur 1 a 2 Pedr
Gwendidau
→ Byrbwyll gan siarad cyn meddwl → Gwadodd Iesu dair gwaith
→ Amharod i drin Cristnogion Cenhedlig yn gydradd â Christnogion Iddewig
Gwersi
→ Angen cyplysu brwdfrydedd â dealltwriaeth
→ Mae ffyddlondeb Duw yn drech na’n hanffyddlondeb ninnau
→ Gwell bod yn ddilynwr sy’n ffaelu nag un sy’n ffaelu dilyn
Ffeithiau
→ Lleoliad: Bethsaida a Capernaum
→ Gwaith: Pysgotwr ac apostol
→ Mae’r enw Pedr yn golygu craig
→ Perthnasau: Tad – Jona; brawd – Andreas
→ Cyfoeswyr: Iesu, Herod a Pheilat
Adnodau
Math. 4:18-20, 16:13-20, 26:31-5 a 69-75; Ioan 21:15-19; Actau 2:14-42; Gal. 2:7-14