Mae angen toreth o ansoddeiriau eithafol i ddisgrifio Blue Planet II! Er nad ydw i wedi gorffen gwylio’r gyfres i gyd wrth i fi sgwennu, mae yna wledd i’r synhwyrau i’w chael yma. Mae’r gerddoriaeth yn ychwanegu drama a chyffro – er ei bod ar adegau yn ceisio llywio a dylanwadu ar yr emosiynau’n ormodol – ac efallai’n wahanol i’r disgwyl does dim darlith ddiddiwedd ar esblygiad. Syndod yw clywed David Attenborough yn dweud dro ar ôl tro nad ydyn ni’n gwybod y rheswm am ymddygiad anifeiliaid. Gwyliwn ddolffiniaid yn ‘syrffio’ yn y tonnau ac yn chwarae gêm o ollwng a dal cregyn a cherrig. I ba bwrpas? Does bosib mai dim ond mwynhau y maent? Syndod hefyd yw clywed Attenborough yn mynegi cymaint o sioc wrth weld tystiolaeth fod pysgod llawer mwy galluog nag a dybid o’r blaen – fel y pysgodyn sy’n defnyddio ei geg i ddal cragen a’i tharo yn erbyn craig i’w hagor. Does bosib bod pysgod yn gallu datrys problem?
Gwelwn bysgodyn yn cynghreirio gydag octopws er mwyn dal ysglyfaeth, a physgod yn gweithio gyda’i gilydd i symud gwrthrychau ar waelod y môr er mwyn creu lle diogel i fenyw ddodwy. Mae’n amlwg fod Attenborough yn rhyfeddu at yr hyn mae’n ei weld. Rydw i’n gwylio am ychydig cyn sylwi fy mod yn gegagored, ac mae’r plant (5 a 2) wedi gwylio ar flaen eu cadeiriau, gydag Elis yn bloeddio hwrê ar y teledu fel petai’n gwylio gêm rygbi – wrth iddo weld aderyn yn dianc o geg pysgodyn enfawr sydd wedi neidio lan o’r dŵr i geisio ei ddal! Mae’n bleser gallu mwynhau amrywiaeth creadigaeth Duw, cael gweld pethau na fasen ni byth yn gweld fel arall, a rhyfeddu at greadigrwydd ein Duw. Dyma waith ein Duw ni, ac mae e’n dda!
Y Moroedd Dwfn
Yn The Deep, mae’r rhaglen yn mynd ati i fynd ‘where no man has gone before’ – i ddyfnderoedd y moroedd. Mae’r holl raglen fel petai’n perthyn i fyd ffugwyddonol. Sudda’r llong danfor fach i lawr yn araf wrth ymyl wal anferth o rew trwchus. Mae’n ymddangos fel swigen fach o wydr wedi ei dal mewn ffrâm fetel felen – fel perlen mewn modrwy. Mae dychmygu bod y tu mewn iddi, a holl bwysau’r môr mawr uwch eich pen, yn frawychus. Ar arwyneb y rhew mae tolciau llyfn, a rhyw oleuni glas, niwlog, wedi ei ddal yn ei grombil. Daw sŵn gwichian o’r rhew yn debyg i sŵn hen bibau dŵr yn twymo’n araf. Mae mynd i lawr i’r dyfnderoedd hyn, meddai Attenborough, mor anodd â mynd i’r gofod; rydyn ni’n gwybod mwy am arwyneb y blaned Mawrth nag yr ydym am waelod y môr. Yma, yn y môr dwfn mae yna fwy o fywyd nag unman arall ar y ddaear. Mae’r creaduriaid sy’n byw yma yn rhyfedd dros ben. Pysgodyn barrel-eye sydd â phen fel marblen dryloyw er mwyn iddo edrych i fyny tua’r golau prin i weld ei brae. Sgwid histiotteuthis, gydag un llygad gwyrdd anferth sy’n edrych i fyny tua’r golau, a’r llall yn fach ac yn edrych i lawr at y tywyllwch oddi tano. Creaduriaid sy’n fflachio goleuni neon fel tân gwyllt tanddwr. Pysgod hyll â dannedd hir a miniog. Octopws lliw tanjerîn fyse Pixar yn browd ohono yn ymlwybro dros y mwd. Pysgodyn pinc gwefusog sy’n defnyddio ei esgyll fel traed i gerdded ar y gwaelod. Creaduriaid gosgeiddig, amlfreichiog, yn hwylio’n hamddenol ar gerrynt. Wrth wylio, rwy’n meddwl wrthyf fy hun – does bosib y byse unrhyw fod dynol wedi gallu dyfeisio’r fath greaduriaid! Gwelwn gafn hir a chreigiau chwyddedig, yn well nag unrhyw CGI ar gêm gyfrifiadur neu ffilm ffugwyddonol. Beth bynnag gall dyn ei ddychmygu a’i ddyfeisio – mae Duw y tu hwnt i hynny!
Agor ein llygaid i weld…
Un o ryfeddodau The Deep yw’r colofnau mawr tebyg i simneiau sy’n chwythu nwyon a dŵr poeth i’r môr – hydrothermal vents. Dyma, meddai Attenborough, yw un o’r mannau mwyaf arwyddocaol am fod nifer o wyddonwyr yn credu fod bywyd wedi tarddu o’r simneiau hyn. Dyma ein man geni, fel petai. Mi fyse hyn yn chwerthynllyd os nad oedd e’n datgelu gwirionedd mor drist: heb fod yr Ysbryd Glân yn agor ein llygaid, rydyn ni’n ddall i’r datguddiad sydd yn y Creu ac yn fyddar i leisiau’r cread o’n cwmpas sy’n tystio i fodolaeth creawdwr da a doeth. Dydy’r rhaglenni ddim, yn fy marn i, yn gwthio agenda esblygiadol ond efallai’r rheswm dros hyn yw bod esblygiad yn cael ei gymryd yn ganiataol. Heb os mae hyn yn un o ddichellion y Diafol – mae’n theori sy’n caethiwo’r meddwl ac yn fricsen arall yn y wal rhwng yr unigolyn a Duw – ac mae angen i ni fod yn effro yn ei erbyn.
Ein Cyfrifoldeb
Does dim dianc rhag un o ergydion mawr y rhaglenni hyn, sef y dinistr sy’n digwydd i’r moroedd o ganlyniad i weithredoedd esgeulus pobl. Un o effeithiau positif y rhaglenni yw bod pobl yn awr wedi gweld tystiolaeth glir o’r fandaliaeth hon. Mae’r iâ yn toddi. Mae newid tymheredd y môr yn achosi i gaeau o gwrel droi o fod yn gynefinoedd cyfoethog amryliw i fod yn sgerbydau llychlyd, gwag. Mae gweld y cyferbyniad yma’n dorcalonnus. Yn sydyn rhaid i ni wynebu’r difrod – adar yn bwydo plastig i’w cywion, anifeiliaid yn cael eu tagu a’u dal mewn sbwriel, y rafftiau o blastig sy’n hagru wyneb y moroedd… Nid galar a gwae oedd y cyfan; dangoswyd bod gan gynefinoedd allu rhyfeddol i adnewyddu petai amgylchiadau’n newid. Eto, roeddwn yn teimlo’r her wrth wylio i gadw mewn cof ein mandad i ofalu am yr hyn mae Duw wedi ei roi i’n gofal ni.
Doedd dim osgoi ymateb y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol i’r golygfeydd hyn. Yn sydyn mae gwleidyddion a’r wasg eisiau sôn am ailgylchu a byw yn gynaliadwy, gyda 200 o wleidyddion o bleidiau amrywiol yn galw ar archfarchnadoedd i ddileu eu pacedi plastig erbyn 2023 (The Guardian ar-lein, 19/1/18). Mae’n galonogol gweld effaith pellgyrhaeddol ymateb ar lawr gwlad. Oes, mae digon o bobl yn mynd i eithafion ac yn rhoi eu bryd ar ‘achub yr amgylchedd’ a ninnau’n cydnabod, ar y llaw arall, ein bod yn byw mewn byd syrthiedig o dan effeithiau pechod ac ni welwn y creu yn ei holl ogoniant tan i Iesu ddychwelyd. Eto, pwy gwell i gymryd gwir ofal o’r byd hwn na’r rhai sy’n adnabod y Crëwr?
Yn nhrefn gras cyffredinol Duw, mae yna bleser a mwynhad i bawb fwynhau’r byd sydd o’n cwmpas. Gymaint mwy yw’r pleser a’r mwynhad wrth i ni edrych a gwerthfawrogi – ie, a cheisio diogelu – yr hyn mae ein Duw creadigol, dyfeisgar wedi ei greu. A chymaint mwy, efallai, yw’n dyhead o weld yr holl greadigaeth yn cael ei adnewyddu wrth i Iesu greu popeth o’r newydd. Os ydy’r greadigaeth syrthiedig yn brydferth tu hwnt… dychmygwch ogoniant y greadigaeth newydd!
Os hoffech ddarllen mwy am fyw yn gynaliadwy, mae yna ddigonedd o wybodaeth ar y we, yn cynnwys rhai ryseitiau er mwyn lleihau’r cemegion yn y cartref. Mae Mari Elin Jones wedi cychwyn blog newydd ar y testun:
www.gwyrddaidd.wordpress.com