Mae angen map ysbrydol arnom fel Cristnogion, yn seiliedig ar y Beibl, wrth geisio ymdopi â marathon traws-gwlad y bywyd Cristnogol yn y byd. Mae’n daith hir i’r mwyafrif ohonom; gyda llwyni, ffosydd, craig a thyle, y garw a’r esmwyth, yr anial a’r gors; mewn stormydd, niwloedd a heulwen. Pwrpas map yw galluogi’r teithiwr i gadw at y llwybr cywir, gan ddeall o ble y mae wedi dod, ble mae’n mynd, a beth yw’r diriogaeth sydd o’i flaen. Pwrpas y map diwinyddol yw galluogi disgyblion Iesu Grist i fod yn ufudd wrth deithio trwy’r byd gan ddilyn yr Arglwydd sydd wedi mynd i baratoi lle ar eu cyfer yn y nefoedd. Nod map diwinyddol yw ein helpu i foli Duw ar ein taith ac i ymarfer ffordd o fyw’n dduwiol.
Nodweddion y map
Pa fath o fap sydd gan Dduw ar ein cyfer? Mae iddo saith nodwedd hollbwysig:
- Mae’n fanwlgywir. Rhaid iddo ddarlunio ein profiad dynol yn gywir a gonest yn ôl y Beibl. Yn aml fe welwch fap mewn dinas ac mae saeth fawr neu gylch amlwg yn dweud, “Rych chi yma.” Yna gallwn chwilio am ein cyrchfan a cheisio gweld sut i’w gyrraedd yn ddiogel.
- Mae’n Dduwganolog. Dyw darlun o Efrog Newydd o lefel y stryd o ddim gwerth fel map. Y cyfan a welwch yw llu o bobl, traffig enbyd ac adeiladau sy’n cosi’r cymylau. Cymaint gwell yw map sydd yn edrych i lawr o berspectif uchel. Mae map diwinyddol da yn dangos bod yr Arglwydd yn frenin ar bob digwyddiad ac amgylchiad a phob problem, boed yn real neu’n ddychmygol.
- Mae’n gogoneddu Duw, yn ei greadigaeth, ei ragluniaeth a’i ras, ac felly yn ennyn ysbryd o addoliad llawen a ffyddiog ym mhob amgylchiad. Mae ambell fap yn cynnwys nodiadau ar fannau ryn ni’n debygol o’u gweld ar y daith. Dylai nodiadau’r map diwinyddol ganoli ar ddaioni Duw.
- Mae’n amlygu’r gyrchfan. Mae Cristnogaeth yn obaith bywiol, a dylem weld pob sefyllfa ac amgylchiad yng ngoleuni’r nefoedd. Tra bod cymaint o ffasiynau, amodau a phatrymau ymddygiad o’n cwmpas yn dangos ffrwyth pechod, rhaid i ni gofio’r addewid y bydd Duw cyn hir yn dileu pechod ac yn datguddio rhywbeth llawer gwell mewn nefoedd a daear newydd.
- Mae’n Gristganolog. Ryn ni’n teithio yn blant Duw wrth adnabod Iesu Grist yn Arglwydd a Gwaredwr. Ryn ni wedi’n clymu yng nghwlwm cariad Duw, yng Nghrist, cwlwm na all unrhyw beth ei lacio na’i dorri. Mae Ysbryd Crist ynom: i dywallt cariad Duw yn ein calonnau; i’n selio’n bobl ddilys trwy gynhyrchu ffrwythau ynom, i’n cadw’n ddiogel ac i selio pob addewid gan Dduw i’n profiad; i’n sicrhau o’n mabwysiad; i fod yn flaendâl o’r nefoedd a’r gogoniant sydd i ddod i ni; i’n heneinio i dystio i ras Duw, i eiriol dros ein gilydd ac i goncro pechod. Ryn ni hefyd yn dilyn ein Harglwydd ar lwybr gwadu’r hunan, llwybr amrywiol brofedigaethau megis treialon, temtasiynau ac erledigaethau.
- Mae’n Eglwysganolog. Bydd map da yn dangos ble mae gwestai, ysbytai a thai bwyta i’w cael ar y ffordd. Mae’r eglwys yn ganolog i gynllun Duw ar ein cyfer. Dyn ni ddim ar ein pen ein hunain, ond mewn teulu o gredinwyr, ac mae galw arnom i dderbyn a rhoi cynhaliaeth i’n gilydd ar y daith.
- Mae’n pwysleisio rhyddid. Mae pob anogaeth a chyfarwyddyd ar gyfer pobl rydd; yn rhydd oddi wrth y Gyfraith fel system i’n gwneud yn iawn gyda Duw, ac eto yn ein dysgu i gadw deddf Duw fel rhai sy’n caru’r Deddfwr a’r ddeddf sy’n darlunio cyfiawnder i ni, sef ewyllys ein Duw bendigedig. Hefyd, fe welwn mai llwybrau Duw yw’r rhai gorau ar gyfer ein taith droellog i’r nefol wlad.
Egluro’r map yn Epistol Iago
- Iago 1:2 Dylai’r Cristion lawenhau wrth wynebu amrywiol brofedigaethau, nid yn y prawf ei hunan, ond yn y ffaith fod Duw yn defnyddio hyn yn fwriadol yn y broses o’n gwneud yn gyflawn. Y pen draw fydd cyflwr o berffeithrwydd, heb unrhyw ddiffyg, pan gawn weld Iesu Grist a bod yn debyg iddo.
- Iago 1:5 Mae’n addo ein harfogi ar y daith os gofynnwn mewn ffydd am rasusau megis doethineb.
- Iago 1:9 Rhaid peidio ag edrych yn ormodol ar ein cyflwr allanol, tymhorol, ond ar beth fydd yn para’n dragwyddol, felly dylem drysori trysorau yn y nef.
- Iago 1:12 Mae prawf a themtasiwn yn rhan o fywyd y Cristion ar y ddaear. I’r sawl sy’n dyfalbarhau mae addewid o goron y bywyd, fel coron Olympaidd. Mae’r frwydr yn erbyn Satan a’r hen natur a’r byd.
- Iago 1:18 Ryn ni’n blant i Dduw trwy ei waith ef ynom, trwy air yr efengyl, i fod yn sanctaidd fel rhan o’i greadigaeth newydd.
- Iago 1:19 Rhaid i ni fod yn ostyngedig ac amyneddgar i dderbyn gair Duw a gweithredu arno.
- Iago 2:1-13 Mae disgwyl i ni gadw’r Gyfraith frenhinol o ddiolch i Dduw a charu’n gilydd, heb ddangos ffafriaeth yn ôl cyflwr allanol.
- Iago 2:14-3:12 Cawn ein hachub trwy ffydd yn Iesu Grist yn unig. Ond gyda ffydd achubol daw gweithredoedd ffydd, nid i gael ein derbyn yn gyfiawn, ond fel ffrwyth gwaith Duw ynom.
- Iago 3:13-5:6 Mae Duw am i ni fod yn llawn doethineb nefol. Mae hyn yn golygu bod stamp y nef ar ein cymeriad, yn hytrach na delw’r byd. Y ffordd o gael hyn yw trwy ymostwng i Dduw, nesáu ato, glanhau ein hunain yn fewnol ac yn allanol, a galaru am bechod yn hytrach na’i gymryd yn ysgafn.
- Iago 5:7-19 Mae’n bywyd yn y byd yn baratoad a disgwyliad o Ailddyfodiad ein Prynwr a’n Priod. Felly, dylem fod yn amyneddgar ym mhob amgylchiad ac yn weddïwyr taer a llawn ffydd ym mhob sefyllfa hefyd.
Diolch bod ein Harglwydd wedi ein neilltuo ni iddo’i hunan yng Nghrist, a’i fod yn benderfynol o’n gwneud yn debyg iddo, trwy holl droeon ein gyrfa yn y byd.