Joel – Proffwyd Galar a Gobaith
- gan Gwynn Williams
- 46 tud
- Clawr Meddal
- ISBN 978-1-85049-255-9
- am ddim
Mae sawl un wedi gwneud y sylw mai llyfrau’r ‘proffwydi bach’ – hynny yw, y llyfrau hynny sy’n dod ar ddiwedd yr Hen Destament – yw’r rhan o’r Beibl sydd fwyaf anghyfarwydd inni heddiw. Yn ôl rhai, dyma’r tudalennau glanaf yn ein Beiblau. Ond mewn gwirionedd mae’r llyfrau hyn yn hynod o berthnasol inni am eu bod yn trafod nifer o faterion sydd o ddiddordeb a chonsýrn i’n cyfnod ni.
Ond sut, meddwch, y gall Duw lefaru wrthym ni heddiw trwy lyfr fel Joel sy’n ymddangos mor hynafol ac anniddorol (ar yr olwg gyntaf). Da atgoffa ein hunain o eiriau Paul i Timotheus:
‘Y mae pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi, a cheryddu, a chywiro, a disgyblu mewn cyfiawnder’ (2 Timotheus 3:16).
Mae llyfr Joel, fel pob llyfr arall yn y Beibl, wedi ei ysbrydoli gan Dduw er lles inni. Wrth droi at Joel, felly, ein bwriad yw nid yn unig ceisio ei ddeall ond hefyd tynnu sylw at y gwersi ysbrydol sydd ynddo inni heddiw.
Gobeithiwn y bydd cynnwys y pregethau hyn yn gymorth, yn her, yn gysur, ac yn fendith.
I dderbyn y llyfr – cliciwch yma