Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Heresi’r Pietist

27 Mawrth 2018 | gan Bobi Jones

Bobi Jones, Crist a Chenedlaetholdeb
(Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Efengylaidd Cymru, 1994), pennod 3

Fe garwn grwydro oddi ar briffordd yr ymdriniaeth i gyffwrdd ag un gwrthwynebiad a heresi a geir ymhlith rhai y mae eu sêl efengylaidd ar faterion eraill yn uniongred ac yn ffyddlon. Eto, nid crwydro y byddwn mewn gwirionedd, oherwydd y mae angen yn awr i ni geisio gweld fel y mae’r Cristion yn synied am y berthynas rhwng ei wasanaeth ef i Dduw a’i ddiddordeb mewn cyfrwng diwylliannol fel y genedl. Faint o berthynas fywydol ddylai fod rhwng y Cristion a’r ddaear?

Gwir mai ychydig yw’r rhai sydd am i Gristnogion osgoi ac ymwahanu oddi wrth bob achos cymdeithasol, gwleidyddol ac addysgol. Ond y maent yn cynrychioli heresi gyson yn hanes yr eglwys, o ddyddiau’r mynachod yn y cyfnod cynnar i lawr drwy’r Anabaptistiaid adeg y Diwygiad Protestannaidd (pobl, rai ohonynt, a ymchwiliai am iachawdwriaeth bersonol ac a oedd am eu diheintio’u hun rhag y bydol gan geisio adeiladu teyrnas Dduw ar y ddaear ond ar wahân i’r ddaear); a chyda’r Pietistiaid hwythau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y duedd oedd ymddeol a gadael y ddaear a’i diwylliant i elynion Duw. Ymynysu fel petai.

Yn awr, y mae’r Beibl yn ein harwain i gymryd y Gorchymyn Diwylliannol yn Genesis 1:28 yn fan cychwyn i’n hagwedd at y ddaear a’i phethau: dyma’r gorchymyn cyntaf a roddwyd erioed i ddyn ac a esboniodd iddo ei bwrpas ar y ddaear. Ni thynnwyd erioed mo’r gorchymyn hwn yn ôl, hyd yn oed wedi’r Cwymp. Fe’i hadnewyddwyd yn fanwl ar gyfer Noa: ffrwythloni ac amlhau, dyma ddyletswydd dyn gerbron Duw – defnyddio holl adnoddau’r ddaear, eu mwynhau, eu hyrwyddo ac ymroi i’w meistroli. Nid rhywbeth i’w wneud rhwng cromfachau ar un diwrnod, gan roi chwe diwrnod i addolì Duw ac astudio’i Air, nid dyna ddiwylliant. Nid rhywbeth i’w ffieiddio am ei fod yn ddaearol, ond rhywbeth i’w gyflwyno’n llawen i Dduw, yn llawen ac yn egnïol.

Eto, cyn inni ymroi i sylwi’n helaethach ar bwrpas diwylliannol dyn a’r Gorchymyn Diwylliannol, gadewch inni ystyried natur y ddaear ei hun.
Ceir dwy ffordd o synied am y ddaear neu’r byd yn yr Ysgrythur. Fe fydd rhai’n hoffi pwysleisio’r naill ac anghofio’r llall; ond i’r rhai sy’n ufuddhau i’r efengyl rhaid ffrwyno’r emosiynau hyn ac ymostwng i gydnabod y ddwy ffordd yr un pryd.

Yn gyntaf ac yn sylfaenol, daear Duw yw hon. Er iddi gwympo, ni ddileir byth mo’i gogoniant hyd oni losgir hi gan Dduw. Byd i’w garu ydyw, i’w anwylo’n angerddol, i’w wynebu’n hyderus agored. A defnyddir y geiriau ‘byd’ a ‘daear’ yn fynych iawn yn y Beibl yn yr ystyr yma fel byd creedig sy’n cynnwys pethau a dynion o bob math:

‘O drugaredd yr Arglwydd y mae y ddaear yn gyflawn’ (Salm 33:5); ‘A’r holl ddaear a lanwer o’i ogoniant’ (Salm 72:19); ‘Llawn yw y ddaear o’th gyfoeth’ (Salm 104:24); ‘Llawn yw y ddaear o’th drugaredd, O Arglwydd’ (Salm 119:64); ‘Sanct, Sanct, Sanct, yw Arglwydd y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o’i ogoniant ef’ (Eseia 6:3); ‘Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab’ (Ioan 3:16); ‘Ac efe yw’r iawn dros ein pechodau ni; ac nid dros yr eiddom ni yn unig, eithr dros bechodau yr holl fyd’ (1 Ioan 2:2); ‘Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn dwyn ymaith bechod y byd’ (Ioan 1:29); ‘Sef, bod Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun’ (2 Cor. 5:19).

Yn ail, a’r un mor bwysig, yw cofio’r lluoedd o achlysuron y defnyddir y gair ‘byd’ (a ‘daear’) mewn ystyr anffafriol: e.e., ‘Pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fod yn gyfaill i’r byd, y mae’n ei wneuthur ei hun yn elyn i Dduw’ (Iago 4:4). Dyma’r ymagwedd ranedig at y ‘byd’, y ‘byd’ heb Dduw, y llygredig, y cnawdol neu’r ‘bydol’, y ddaear ar wahân i ras, y seciwlar.

*********

Y mae’r methiant i ddeall cyfuniad y ddwy agwedd yma yn gallu gwenwyno’r dystiolaeth Gristnogol. Fe all wneud drwg i’r eglwys nid yn unig drwy beidio â chyflwyno holl gyngor Duw ac ufuddhau i’w ewyllys Ef ar ein cyfer, eithr hefyd am fod ein cyd-ddyn yn methu deall fod gan y Cristion rywbeth i’w gynnig ar gyfer bywyd yn ei holl gyflawnder.

Rhan o fethiant efengylu yng Nghymru ar rai adegau yw bod yr eglwys wedi methu wynebu’r byd. Aeth y dystiolaeth i’r gwellt oherwydd yr ysgariad rhwng iachawdwriaeth bersonol fewnddrychol a bywyd ymarferol bob dydd. Perygl y Pietist yw dweud: ‘Yr hyn rydw i eisiau yw’r fendith’, sef iachawdwriaeth bersonol, a hynny ynghyd â chulni anghyfrifol neu anufudd-dod hunanol. Ond ffei y fath wyrdroad ar gyfoeth a chyflawnder y bywyd yng Nghrist. Ffei y fath dystiolaeth wael am deyrnas yr Arglwydd. Rhaid cael gafael ar y weledigaeth gywir o’r genadwri Gristnogol sy’n ymestyn o Genesis hyd y Datguddiad ac sy’n gosod achubiaeth dyn yn ail i ogoneddu Duw. Modd i ogoneddu Duw yw achubiaeth dyn. Modd i ogoneddu Duw hefyd yw diwyllio’r ddaear, modd a orchmynnwyd ganddo. Dylem gymryd y gwaith hwn o ddifri gan mai dyna pam y mae Duw wedi’n gosod yma. Nid rhywbeth ar yr ymylon yw cenedl i Gristion sy wedi clywed gorchymyn diwylliannol Duw, ond yn hytrach rhywbeth y mae’n ei esgeuluso ar boen anufuddhau i Dduw.

Wedi crybwyll perygl y Pietist, gwiw yw sôn am berygl y cenedlaetholwr seciwlar, cnawdol yntau. Fe all hwn geisio defnyddio’i genedl i ddarostwng cenhedloedd eraill, eu treisio drwy falchder. Neu fe all geisio gwneud y cyfrwng, sef y genedl (hynny yw, cyfrwng i ogoneddu Duw) yn nod, yn ddiben. Dyma gyfle’r Cristion sydd wedi ystyried yr hyn a ddywed yr Ysgrythur am y ddaear a’i chenhedloedd.

Wrth gwrs, gellid codi’r gŵyn arwynebol mai ‘bydol yw cenedlaetholwyr’, oherwydd seciwlariaeth amryw yn eu plith, a dod i’r casgliad gau y dylem o’r herwydd esgeuluso’r genedl, a chilio rhag ein dyletswydd o wynebu’r ddaear a’i phethau. Ond yr hyn sy’n drawiadol, wrth astudio’r hyn a ddywed Duw am y byd, yw bod gennym neges i genedlaetholwyr nid yn unig am Dduw ond am ddyn hefyd, nid yn unig am y nefoedd ond am y ddaear.
I’r Cristion y mae daear a chenedl yn faterion dwyfol ac yn gyfoethocach eu hystyr o lawer nag i’r cenedlaetholwr cnawdol cyffredin. Heblaw dangos i ddyn beth yw ei berthynas â Duw, y mae’r Cristion yn dangos iddo hefyd beth yw dyn mewn gwirionedd. Ac nid creadur syrthiedig yw dyn yn gyntaf oll, ac nid anifail yn sicr, eithr creadur a chanddo ddimensiwn anweledig a thragwyddol, creadur aruchel a grëwyd gan Dduw i’w bwrpas rhyfeddol Ef ei hun. Mae’n wir fod dyn wedi’i lygru, wedi gwrthryfela yn erbyn Duw, wedi ymchwyddo yn ei falchder, wedi colli llawer iawn. Ond nid yw wedi colli ei bwrpas i Dduw. A’n gwaith ni fel Cymry ac fel Cristnogion yw ymroi yn egnïol weithgar, yn frwd ac yn llawen yn ein rhan ni o ddaear Duw, i wneud y genedl hon yn ardd o brydferthwch, yn ardd Gristnogol gyflawn a ffyniannus, er ei ogoniant Ef.

Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf