Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gwleidyddiaeth a’r Cristion

27 Mawrth 2018 | gan Geraint Lloyd

Gall gweithredu gwleidyddol fod yn bwnc llosg ymhlith Cristnogion. Ofer disgwyl trafod pob agwedd, heb sôn am ddatrys pob problem, mewn un erthygl fer. Y gorau y gellid ei wneud yw tynnu sylw at rai ystyriaethau Beiblaidd y mae angen i bob Cristion eu pwyso a’u mesur yn weddigar.

Yr Eglwys a’r Wladwriaeth

Cyn dod at fanylion ein gweithgarwch gwleidyddol, mae’n bwysig ein bod yn cofio pwy ydym. Mae pob Cristion yn blentyn i Dduw (Ioan 1:12; Rhuf. 8:15; I Ioan 3:1) ar sail ei berthynas ag Iesu Grist, yr un y mae’n ei alw’n Arglwydd (Rhuf. 10:9). Mae’n ddinesydd nefol (Phil. 3:20) a’i ufudd-dod pennaf i Dduw (Actau 4:19), nid i unrhyw arweinydd na phlaid, nac ychwaith i farn y mwyafrif. Yn rhinwedd y berthynas hon, mae wedi ei wneud yn rhan o gorff Crist yr Eglwys (Eff. 5:30; I Cor. 12:12-18; Rhuf. 12:5). Mae’r Eglwys hon o dan awdurdod Crist wedi cael gorchymyn i bregethu’r efengyl a gwneud disgyblion ledled y byd yn nerth yr Ysbryd Glân (Math. 28: 19,20; Actau 1:8).
Ni all y wladwriaeth wneud hyn. Diben y wladwriaeth yw diogelu trefn mewn byd pechadurus (Rhuf. 13:1-6). Am ganrifoedd lawer, tybiai rhai mai gwaith y wladwriaeth oedd hyrwyddo buddiannau’r Eglwys. Er na ddylid diystyru bendithion y cyfnod hwn, e.e. Credoau’r Eglwys Fore, y Diwygiad Protestannaidd, yr Adfywiad Methodistaidd, rhaid cofio’r ochr dywyll hefyd: y rhyfeloedd crefydd a’r cannoedd ar filoedd o ‘hereticiaid’ a boenydiwyd ac a ddienyddiwyd. Gyda secwlareiddio’r canrifoedd diwethaf, rydym yn nes at sefyllfa’r Testament Newydd, a’r genhadaeth sydd gennym yw ennill y byd i Grist trwy berswâd yn hytrach na gorfodaeth.

Ymwrthod neu ymwneud?

O ystyried y gwahaniaeth sylfaenol rhwng yr Eglwys a’r wladwriaeth, mae rhai wedi dadlau na ddylai’r Cristion ymhél â gwleidyddiaeth o gwbl. Onid gwell ymroi’n llwyr i bregethu’r efengyl? A dilyn y rhesymu hwn i’r pen, ni ddylid pleidleisio chwaith, na disgwyl dim gan y llywodraeth. Ychydig iawn o Gristnogion sy’n gwneud hyn; yn reddfol bron, teimlwn y dylai’r byd gwleidyddol fod o ryw ddiddordeb i ni, ac mae rhesymau Beiblaidd sy’n ategu hyn.

1. Gwerth y wladwriaeth
Rhagdybia’r siars i weddïo dros yr awdurdodau (I Tim. 2:1,2) fod Duw ar waith yn ddirgel a rhagluniaethol yn y drefn wleidyddol, a’r adnodau nesaf (3-6) yn egluro bod hyn yn rhan o gynllun achubol Duw, trwy ddarparu’r amodau ar gyfer tystiolaeth yr Eglwys. Os gall arweinwyr annuwiol wneud hyn, siawns na all credinwyr hwythau chwarae rhan, gan ddilyn esiampl Dafydd, Daniel a Mordecai yn yr Hen Destament.

2. Gwerth pobl
Os oes gennym gariad at ein cymydog, bydd gennym ddiddordeb yng ngweithrediad gwladwriaethau, gan fod eu penderfyniadau yn effeithio ar ein cyd-ddynion, er gwell neu er gwaeth. Gallant hyrwyddo’r gorau neu feithrin tueddiadau llygredig. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos y rhai mwyaf bregus.

3. Gwerth y byd
Mae Cristnogion wedi eu geni i obaith tragwyddol (I Pedr 1:3, 4), ond maent yn byw yn y byd hwn. Er gwaethaf olion pechod, byd Duw ydyw wedi ei greu a’i gynnal ganddo (Gen. 1:1; Actau 14:17; 17;13-17).

4. Galwad y Cristion
Fel rheol, mae Crist yn gadael i’r rhan fwyaf o Gristnogion fyw eu bywydau Cristnogol yn y byd, yn halen a goleuni (Math. 5:13), a gallai hynny gynnwys gweithgarwch gwleidyddol.

Sut mae ymwneud?

Er bod tebygrwydd rhwng sefyllfa’r Eglwys a’n sefyllfa ni, mae’r cyd-destun gwleidyddol wedi newid yn llwyr. Mae’r hen Ymerodraeth Rufeinig unbeniaethol wedi diflannu a bellach, yn ei lle, mae llywodraethau sy’n cael eu hethol gan bleidleisiau’r bobl. Mae pleidiau gwleidyddol wedi datblygu i weithio yn y sefyllfa hon. Nid ewyllys Duw fel y’i mynegir yn y Beibl sy’n llywio polisïau’r pleidiau hyn, ac ni fydd yn hawdd i Gristnogion gymeradwyo pob rhan o raglenni’r pleidiau. O’r herwydd, mae rhai Cristnogion yn cael trafferth ymaelodi â phleidiau gwleidyddol. Gall y rhain ddylanwadu trwy bleidleisio dros y blaid sy’n debygol o wneud y lles mwyaf i’w cyd-ddynion, annog gwahanol bleidiau mewn cyfeiriad arbennig trwy grwpiau pwysau, neu ohebu’n unigol. Bydd eraill eto, o bosibl, yn teimlo na ddylid ildio’r maes gwleidyddol i’r di-gred ac yn ymgyrchu i’w hethol. Mae yna bleidiau Cristnogol, ond ychydig o gefnogaeth sydd iddynt, felly mae’n debygol y bydd rhaid i Gristnogion sydd am gael rhan yn llywodraeth y wlad ddewis plaid sydd agosaf at eu hargyhoeddiadau personol, er bod rhai gwahaniaethau.
Dylai Cristnogion o unrhyw blaid allu cytuno â’r hyn a ddwedwyd hyd yn hyn. Ond beth wedyn? Mae’r ffaith fod Cristnogion efengylaidd i’w cael mewn gwahanol bleidiau gwleidyddol yn dangos mai pwyll piau hi. Fodd bynnag, yn fras mae dwy duedd wleidyddol, ac mae i’r naill a’r llall elfennau cadarnhaol a maglau i’w hosgoi.

Ar y chwith – prysuro at y dyfodol

Mae’r safbwynt hwn yn dechrau gyda beiau’r presennol – dioddefaint y difreintiedig – ac yn cynnig atebion gwleidyddol i’r dioddef hwn: hawliau gwleidyddol, addysg, swyddi, gwasanaethau cymdeithasol a gofal iechyd. Y nod yw gwella cyflwr bywyd y rhan fwyaf o bobl a thrwy hynny creu gwell byd. Mae nifer o Gristnogion yn credu bod y dyheadau hyn yn cyd-fynd â’u gobeithion ysbrydol. Mae Cristnogion yn disgwyl nef newydd a daear newydd, ac wedi profi nerthoedd y byd sydd i ddod (Heb. 6:5) trwy waith yr Ysbryd. Dadleua rhai, felly, mai lle Cristnogion yw adlewyrchu a hyrwyddo gwerthoedd y deyrnas sydd i ddod yn y byd sydd ohoni, gan adlewyrchu tosturi Crist yn yr Efengylau ac ategu’r weddi
‘Deled dy Deyrnas’.
Y perygl i’r duedd hon yw credu mai trwy weithredu gwleidyddol y bydd teyrnas Dduw yn dod ac esgeuluso’r angen am bregethu a gwaith yr Ysbryd.

Ar y dde – elwa o’r gorffennol

Os yw’r chwith yn galw am newid radical a chyflym yn y drefn bresennol, gwell gan y dde feddwl am ddatblygiad graddol nad yw’n dileu pob elfen o’r gorffennol. Mae i draddodiadau eu gwerth wrth uno pobl o bob cefndir i geisio cynnydd gyda’i gilydd ar sail gwerthoedd arhosol. Gall y Cristion gyd-fynd ag ychydig o’r meddwl hwn, gan ei fod yn edrych yn ôl at ymyrraeth Duw mewn hanes unwaith ac am byth yn Iesu Grist, at ddatguddiad sydd wedi ei roi, ac at lif hanes pobl Dduw dros y canrifoedd. Nid yw popeth yn dibynnu ar farn y mwyafrif, megis y gorchymyn ‘na ladd’ mewn perthynas â babanod yn y groth neu bobl hŷn. At ei gilydd, tuedda’r dde i dderbyn anallu’r llywodraeth i gyflawni pob gwelliant. Mae’n fwy agored i annog eglwysi i chwarae rhan, a phrisir cyfrifoldeb unigolion a rhyddid cydwybod. Y perygl i’r dde yw delfrydu’r gorffennol ac anghofio bod angen newid rhai pethau. Nid yw hen ragfarnau fymryn yn llai rhagfarnllyd o fod yn hen. Gyda’i phwyslais ar draddodiad a chyfrifoldeb unigol, gall y dde hefyd ddofi’r efengyl a’i throi’n foesoldeb hunangyfiawn, didosturi a thrahaus, yn hytrach na gallu Duw er iachawdwriaeth.

Mae’r Duw tragwyddol yn rhy fawr i’w gynnwys mewn unrhyw faniffesto gwleidyddol ond rhaid ei wasanaethu yn y byd hwn. Bydd Cristnogion yn gwahaniaethu ar y manylion, ond wrth wrando’n ofalus ar ein gilydd, efallai y gallwn ddysgu sut i wneud hynny’n well.