Blwyddyn i’w hanghofio oedd 2017 i Tim Farron, cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol. Aeth i ddyfroedd dyfnion wedi i newyddiadurwyr ei groesholi ynglŷn â’i farn am hoywder – yn benodol, a oedd y weithred o ryw hoyw yn bechod? Ar ôl ceisio ei orau i osgoi’r cwestiwn fe ddywedodd yn y diwedd nad oedd yn ei hystyried yn bechod. Ond rai misoedd wedyn, ac yntau erbyn hyn wedi ymddiswyddo fel arweinydd, gwnaeth dro pedol a datgan yn gyhoeddus ei fod yn ystyried y weithred yn bechod ond ei fod dan bwysau gan ei blaid i ddweud fel arall rai misoedd ynghynt.
Mae yna sawl gwers y gallwn ni eu dysgu o hanes Tim Farron ynglŷn â’n hymwneud a’r byd yn yr oes secwlar sydd ohoni.
Ystyried yn ofalus cyn siarad yn gyhoeddus
O graffu’n fanylach ar ddatganiadau cyhoeddus Farron dros y flwyddyn ddiwethaf, gellir gweld ei fod wedi ceisio esbonio ei safbwynt yn glir, ond fod y cyfryngau a’i wrthwynebwyr gwleidyddol wedi methu â deall – neu ddewis peidio â deall – nuance ei safbwynt.
Ceisiodd egluro fod yna wahaniaeth rhwng argyhoeddiadau personol a pholisi cyhoeddus. Hynny yw, er nad oedd ef yn bersonol yn credu fod y bywyd hoyw yn gydnaws â moeseg Gristnogol – nid oedd yn credu mewn gorfodi’r safbwynt hwnnw ar bobl nad oedd yn dilyn y ffydd Gristnogol. Er enghraifft, fe bleidleisiodd yn weddol gyson dros y blynyddoedd o blaid hawliau pobl hoyw.
Wrth gwrs, nid oedd diddordeb gan y cyfryngau yng nghynildeb ei ddadleuon ac ni chafwyd unrhyw ddadansoddi manwl. Cywasgwyd ei eiriau i mewn i benawdau slic a oedd yn gorsymleiddio’r hyn ddywedodd. Fe’i portreadwyd yn ddyn llawn rhagfarn nid dyn o argyhoeddiadau personol dwfn a bleidleisioDd o blaid hawliau pobl hoyw beth bynnag.
Rwy’n tybio felly mai’r cyngor gorau i Gristion sy’n cael ei ddal mewn sefyllfa debyg i Farron yw ceisio meddwl am ffordd gryno o esbonio eich safbwynt. Os nad yw hynny’n bosib yna mae’n well dweud dim yn gyhoeddus am y mater.
Yn bersonol rwyf yn gwrthod gwahoddiadau i fynd ar raglenni teledu a radio sy’n trafod pynciau llosg fel hyn – nid oherwydd nad oes gennyf farn – ond oherwydd bod y cyfryngau yn tueddu i begynu barn ac yn gwrthod rhoi gofod i chi esbonio eich safbwynt yn llawn a gofalus. Yn aml mae’r newyddiadurwyr yn mynd allan o’u ffordd i gambortreadu eich safbwynt. Mae’n well i’r Cristion drafod pynciau fel hyn yn ofalus mewn ysbryd bugeiliol ac nid mewn dadl gyhoeddus.
Dylai’r eglwys warchod hawliau sifil pobl hoyw
Fel y nodwyd eisoes, er bod moeseg Gristnogol Farron yn ei arwain i weld y weithred o ryw hoyw yn bechod, mae ganddo record o bleidleisio o blaid hawliau pobl hoyw. Fel Farron, credaf ei bod hi’n bosib i’r eglwys anrhydeddu’r ddysgeidiaeth draddodiadol am foeseg rywiol ond hefyd warchod hawliau pobl hoyw.
Credwn, wrth edrych ar y Beibl, mai priodas Gristnogol yw priodas rhwng dyn a dynes, ond credwn hefyd fod yna wahaniaethu rhwng materion eglwysig a materion sifil. Felly, er y credwn yn rhyddid yr eglwys i weinyddu priodasau Cristnogol heterorywiol yn unig, rydym yn cydnabod rhyddid cyplau o’r un rhyw i geisio priodas sifil gan y wladwriaeth.
Yn bersonol ni welaf broblem gyda’r ddeddf fel y mae gan ei bod yn gwarchod rhyddid eglwysi i weinyddu priodasau Cristnogol, ond mae hefyd yn rhoi hawliau sifil i bobl hoyw. Fel Cristnogion rhaid i ni werthfawrogi nad yw rhoi hawliau sifil i eraill o reidrwydd yn ymosodiad ar ein hawliau ni.
Peidio â gorymateb
Yn olaf, mae llawer wedi defnyddio hanes Tim Farron fel tystiolaeth fod Cristnogion yn cael eu herlid bellach ym Mhrydain. Er bod Cristnogaeth yn sicr yn cael ei hymylu, mae dweud ein bod ni’n cael ein herlid yn bychanu Cristnogion sy’n wynebu erledigaeth go iawn mewn rhannau eraill o’r byd.
Yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd yw ein bod ni’n prysur golli ein statws cyhoeddus ac felly ein gallu i argraffu ein ffydd a’n gwerthoedd ar gymdeithas. Ond tybed a ydy hynny wir yn beth drwg? Onid yw’n ein rhyddhau i fod yn debycach eto i eglwys y Testament Newydd, yn rhydd o’n priodas hir, anghymarus ar adegau, â’r wladwriaeth a’r sefydliad i fod yn bobl y ffordd unwaith eto?