Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gwleidydd o Gristion DDOE: William Wilberforce

27 Mawrth 2018

Mewn cyfweliad teledu ar 4 Mawrth 2006, datganodd Tony Blair wrth Michael Parkinson y byddai’n atebol i Dduw am ei benderfyniad i fynd i ryfel yn erbyn Saddam Hussein. Synnodd hyn nifer o sylwebyddion gwleidyddol oherwydd amharodrwydd Blair yn y gorffennol i drafod unrhyw agwedd ar ei ffydd bersonol. Yn wir, mewn cyfweliad â’r Daily Telegraph ar 5 Mai 2003, pan ofynnwyd i Blair fanylu ar y cysylltiad rhwng crefydd a gwleidyddiaeth, torrwyd ar ei draws gan Alastair Campbell, ei ymgynghorydd personol, a ddatganodd, ‘I’m sorry, we don’t do God’. Nid syndod felly i’r papur newydd ofyn y cwestiwn treiddgar y bore dilynol, ‘What does it tell us about modern Britain, that Mr Blair’s chief adviser on his image should think that it would look bad for him to mention God?’ Beth bynnag yw ein barn bersonol am Blair neu Campbell, rhaid nodi nad yw pob gwleidydd wedi bod mor amharod i drafod ei gredoau crefyddol. Un o ffigurau mwyaf dylanwadol hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd yr Aelod Seneddol Torïaidd William Wilberforce a arweiniodd yr ymgyrch i berswadio’r Senedd i wneud y gaethfasnach yn anghyfreithlon yn 1807. Tri diwrnod cyn ei farwolaeth yn 1833 pasiodd y Senedd fesur i wneud caethwasiaeth yn anghyfreithlon trwy’r Ymerodraeth Brydeinig.

Cefndir

Ganwyd Wilberforce yn 1759 i deulu cyfoethog o Hull, ac fel nifer o’i gyfoedion derbyniodd ei addysg yn Rhydychen. O’i ddyddiau cynnar, uchelgais Wilberforce oedd bod yn Aelod Seneddol, ac yn 1780 fe’i hetholwyd i gynrychioli pobl Hull, sedd na chollodd trwy gydol ei yrfa wleidyddol tan ei ymddeoliad yn 1812. Ynglŷn â’i yrfa yn Aelod Seneddol ifanc fe ddatganodd yn hwyrach, ‘The first years in Parliament I did nothing – nothing to any purpose. My own distinction was my darling object.’
Yn dilyn ei dröedigaeth sydyn yn 1786 fe sylweddolodd fod modd iddo wasanaethu Duw trwy wleidyddiaeth. Dechreuodd ymgyrchu’n ddiflino dros hawliau nifer o bobl anghenus, gan gynnwys mamau sengl, plant amddifad, troseddwyr ifanc ac ysgubwyr simneiau. Roedd hefyd yn flaenllaw dros ymgyrchoedd Cristnogol, gan gefnogi Cymdeithas y Beibl a Chymdeithas Genhadol yr Eglwys yn frwd.

Y gaethfasnach

Er hyn, prif ymgyrch Wilberforce oedd gwahardd y gaethfasnach, gan ddatgan yn 1787, ‘So enormous, so dreadful, so irremediable did the trade’s wickedness appear that my own mind was completely made up for abolition. Let the consequences be what they would: I from this time determined that I would never rest until I had effected its abolition.’
Beth felly oedd gwir natur y gaethfasnach a barodd i Wilberforce ymgyrchu mor daer dros ei gwahardd? Yn ail hanner y ddeunawfed ganrif, gwnaeth nifer o ddynion busnes Prydain arian mawr trwy werthu caethion i blanhigfeydd cotwm yn America. Onid hwn, wedi’r cyfan, a greodd gyfoeth dinasoedd mawr fel Bryste, Lerpwl a Glasgow ? Yr hyn a synnodd Wilberforce oedd, nid yn unig i’r caethion gael eu gorfodi i adael eu pentrefi yn Affrica, ond iddynt hefyd gael eu cludo ar draws cefnfor yr Iwerydd am ddau fis mewn llongau bychain a pheryglus. Ar y llongau hyn byddai’r capteiniaid, ar gais eu cyflogwyr, yn gwasgu cymaint o gaethion ag y gallent i mewn i’r llong, gan eu gosod ysgwydd wrth ysgwydd, ac wedi’u cadwyno i’r dec. Pan fyddai haint yn digwydd ar y llong, byddai’r caethion yn marw yn eu dwsinau. Wedi cyrraedd America, byddent yn cael eu gwerthu ac yna’n treulio gweddill eu bywyd yn gweithio oriau hir dan amodau anodd ar y planhigfeydd, gyda nifer yn cael cu cam-drin a’u cosbi’n llym gan eu perchnogion newydd.
Nid tasg hawdd oedd i unigolion ymgyrchu yn erbyn y gaethfasnach. Cafodd Wilberforce ei dargedu gan ddynion busnes, perchnogion planhigfeydd a chapteiniaid llongau fel Robert Norris nad oedd am weld eu masnach yn dod i ben. Rhwng 1791 a 1807 cafodd mesurau i wahardd y gaethfasnach eu gwrthod un ar ddeg o weithiau gan Dŷ’r Cyffredin; un o’r gwersi felly o edrych ar ei fywyd yw ei ddyfalbarhad yn wyneb gwrthwynebiad sylweddol. Roedd hefyd yn dioddef o iechyd gwael gan gynnwys colitis a sglerosis. Yn wir, erbyn diwedd ei fywyd roedd yn gorfod gwisgo ‘brace’, a daeth yn orddibynnol ar dabledi opiwm i reoli’r poen.
Rhaid nodi na weithiodd Wilberforce ar ei ben ei hun. Roedd ganddo fywyd teuluol eithaf sefydlog, gan briodi Barbara Spooner yn 1797, a chael chwech o blant. Roedd ganddo hefyd nifer o gyfeillion dylanwadol, yn enwedig ymhlith y Clapham Sect enwog oedd yn cwrdd yn Eglwys Henry Venn. Un o’r rhai mwyaf blaenllaw yn y grŵp hwn oedd John Newton a ysgrifennodd at Wilberforce am ei obeithion, ‘It is hoped and believed that the Lord has raised you up for the good of his Church and the good of the nation.’

Gwersi

Pa wersi gall y Cristion eu dysgu o’i hanes heddiw? Yn dilyn ei dröedigaeth ystyriodd Wilberforce fynd i’r weinidogaeth, ond fe’i perswadiwyd gan Newton i wasanaethu Duw trwy barhau’n Aelod Seneddol. Wrth sôn am ei benderfyniad, gwelodd Wilberforce law rhagluniaeth Duw ar ei fywyd yn glir gan ddatgan, ‘My business is in the world, and I must mix in the assemblies of men or quit the post which Providence seems to have assigned me’, ac mae modd dadlau mai un o brif wersi bywyd Wilberforce yw dangos i’r Cristion bwysigrwydd gwasanaethu Duw ym mha amgylchiad bynnag y mae wedi ei osod — boed hynny’n athro, gweithiwr ffatri, nyrs, neu hyd yn oed Aelod Seneddol.
Beth fyddai ymateb Wilberforce heddiw i sylwadau Blair a Campbell yn 2006? Er y byddai’n cytuno â Blair fod gwleidyddion yn atebol i Dduw am eu gweithredoedd, byddai’n anghytuno â sylw Campbell ‘We don’t do God’. Mewn oes lle nad oedd llawer o wleidyddion yn derbyn egwyddorion Crist, safodd Wilberforce dros ei gredoau gyda’r fath argyhoeddiad nes perswadio’r Senedd i wahardd y gaethfasnach — penderfyniad a ddisgrifiwyd gan yr hanesydd G.M. Trevelyan yn ‘One of the turning events in the history of the world…’ Wrth ystyried hyn, teg fyddai datgan fod bywyd Wilberforce yn brawf o ddyfyniad enwog C.S. Lewis, ‘If you read history you will find that the Christians who did the most for the present world were just those who thought the most of the next.’