Angen Doethineb
Mae’n siŵr mai un o’r pethau rydym yn edrych amdano mewn arweinwyr yw doethineb, ac mae Solomon yn esiampl wych. Mae Duw yn rhoi cynnig rhyfeddol iddo ar ddechrau ei deyrnasiad, ac yn hytrach na gofyn am hir oes, cyfoeth neu fuddugoliaethau milwrol, mae’n gofyn:
‘Felly rho i’th was galon ddeallus i farnu dy bobl, i ddirnad da a drwg; oherwydd pwy ddichon farnu dy bobl luosog hyn.’ (1 Bren. 3:9)
Ac mae Duw yn rhoi iddo ‘galon ddoeth a deallus fel na bu dy fath o’th flaen ac na chyfyd chwaith ar dy ôl.’ (1 Bren. 3:12) Mae ei ddoethineb yn cael ei ddangos yn hanes enwog rhannu’r babi yn ei hanner, ac yn oes aur wleidyddol Israel o dan ei deyrnasiad.
Doethineb Go Iawn
Ond mae’r Beibl hefyd yn rhybuddio am beryglon doethineb. Roedd yr eglwys yng Nghorinth yn ymfalchïo yn ei harweinwyr doeth, ond canlyniad y doethineb hwnnw oedd ymbleidio. Dyma grynodeb o ddadl Paul ar ddechrau 1 Corinthiaid:
1:17-20 – Mae Duw wedi cyhoeddi bod doethineb dynol yn ffolineb yn union fel y mae doethineb dynol yn cyfrif yr efengyl yn ffolineb.
1:20-5 – Y groes, nid doethineb, sy’n dod â phobl at Grist.
1:26-30 – Os yw doethineb mor bwysig, pam y gwnaeth Duw alw cyn lleied o bobl ddoeth?
1:31-2:5 – Peidiwch â dibynnu ar ddoethineb ond ar y groes.
2:6-16 – Mewn gwirionedd, neges y groes yw’r gwir ddoethineb.
Mae’n bwysig deall felly nad clyfrwch na gallu academaidd yw’r doethineb y mae’r Beibl yn ei gymeradwyo. Gwir ddoethineb yw’r gallu i fyw yn ôl ewyllys Duw. Fel mae saer da yn gallu llunio ei bren yn grefftus a chywrain yn ôl y patrwm a roddwyd iddo, felly mae dyn doeth yn gwneud dewisiadau cywir ar yr adeg iawn i lunio ei fywyd yn dda a phrydferth yn ôl y patrwm a roddwyd iddo gan Dduw yn y Beibl.
Doethineb Oddi Uchod
Mae Iago wrth gymharu’r doethineb dynol â’r un sydd oddi uchod yn nodi’r gwahaniaeth nodweddiadol hwn rhyngddynt. Mae’r naill, oherwydd ei fod yn tarddu o uchelgais hunanol yn creu cynnen ac anrhefn, ond y llall yn ceisio ac yn annog heddwch.
‘Pwy sy’n ddoeth a deallus yn eich plith? Gadewch i hwnnw, trwy ei ymarweddiad da, ddangos ei weithredoedd mewn gwyleidd-dra sy’n dod o ddoethineb. Ond os ydych yn coleddu eiddigedd chwerw ac uchelgais hunanol yn eich calon, peidiwch ag ymffrostio a dweud celwydd yn erbyn y gwirionedd. Nid dyma’r doethineb sy’n disgyn oddi uchod; peth daearol yw, peth bydol a chythreulig. Oherwydd lle bynnag y mae cenfigen ac uchelgais hunanol, yno hefyd y mae anhrefn a phob gweithred ddrwg. Ond am y doethineb sydd oddi uchod, y mae hwn yn y lle cyntaf yn bur, ac yna’n heddychol, yn dirion, yn hawdd ymwneud ag ef, yn llawn o drugaredd a’i ffrwythau daionus, yn ddiragfarn ac yn ddiragrith. Y mae cynhaeaf cyfiawnder yn cael ei hau mewn heddwch i’r rhai sy’n gwneud heddwch.’ (Iago 3:13-18)
Mae Paul yn ein hannog i weddïo dros ein harweinwyr gwleidyddol, ‘Yn y lle cyntaf, felly, yr wyf yn annog bod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau a diolchiadau yn cael eu hoffrymu dros bawb, dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod, inni gael byw ein bywyd yn dawel a heddychlon, yn llawn duwioldeb a gwedduster. (1Tim. 2:1-2)
Felly, nid yw’n ddoeth, ar ein rhan ni, os ydym yn meddwl bod ein pleidlais yn fwy pwerus na’n gweddïau. Ie, mae’n fraint cael pleidleisio ond y mae gweddïo dros ein gwleidyddion yn bwysicach. Nid ydym yn ddoeth os ydym yn rhoi mwy o amser i gwyno am ein gwleidyddion na gweddïo drostynt. Ond am beth y gwnawn ni weddïo? Un weddi dda yw ar i Dduw roi i’n harweinwyr yn yr un modd ag i Solomon wir ddoethineb yn wyneb holl gymhlethdodau ein hoes. A wnewch chi roi ychydig amser i ofyn i Dduw roi i’n harweinwyr ni rywfaint o’r doethineb sydd oddi uchod?