Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gobaith y groes mewn byd o boen

27 Mawrth 2018 | gan Rhiannon Lloyd

Ers 25 mlynedd bellach, dwi wedi cael y fraint o weithio yn rhai o wledydd tywyllaf y byd – gwledydd lle mae rhyfel cartref, neu lle mae hanes hir o anghyfiawnder rhwng y gwahanol lwythau. Ie, braint – oherwydd yno yng nghanol y tywyllwch rydw i wedi profi gwaith yr Ysbryd Glân yn fwyaf grymus, yn iacháu clwyfau’r galon ac yn cymodi pobol mewn ffyrdd cwbwl anhygoel.
Mae’n byd ni mewn trafferthion a llanastr ofnadwy, a hawdd yw inni ddigalonni. Oes yna unrhyw obaith? Oes yna unrhyw oleuni yn y tywyllwch? Oes yna unrhyw beth y gall Eglwys Crist ei wneud? Yr ateb pendant yw ‘OES!” i bob un o’r cwestiynau. Yn rhy aml, mae’r Eglwys yn canolbwyntio ar y nefoedd heb gynnig unrhyw obaith i’r byd yn ei helbul. Ond Eglwys Crist ydi asiant Duw i ddod ag iachâd a chymod a chyfiawnder i’r gymuned.
Beth ydy’r gobaith sy’n fy ngalluogi i fynd i mewn i’r sefyllfaoedd trist hyn? Y gobaith yw fod marw iawnol Iesu yn cynnwys popeth! Mae’r datguddiad yma wedi fy nhrawsffurfio. Mi alla i wynebu unrhyw sefyllfa yn gwybod fod aberth Iesu wedi talu’r pris dros hyn. Mae’r marw iawnol gymaint mwy nag oeddwn i wedi ei sylweddoli o’r blaen. ’Rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn i ddweud yn iawn amdano‘ meddai’r emyn. Dywedodd y Ficer Pritchard Iddo ’gymryd ein natur, a’n dyled a’n dolur‘. Mae Iesu wedi cymryd ein poen a’n galar i gyd ar y groes, nid yn unig ein pechod (Eseia 53:4-5). Rydw i’n argyhoeddedig bod Iesu wedi gwneud iawn nid yn unig am bob pechod personol ond hefyd pob anghyfiawnder, pob trasiedi, pob cyflafan, pob rhyfel. Adnodau fel Colosiaid 1:20 sy’n dangos hynny i mi.
Ein rhan ni ydi credu hyn a chymhwyso’r marw iawnol ar gyfer y sefyllfa benodol. Wrth wneud hyn, rydan ni wedi gweld gwyrthiau ym mywydau miloedd, os nad miliynau, o bobl bellach mewn gwahanol rannau o’r byd, ac mae’r bobol hyn wedi mynd ati i drawsnewid eu cymunedau. Fel un enghraifft gellir nodi, fod timau o droseddwyr a dioddefwyr wedi ymuno â’i gilydd ffurfio i gydweithio er mwyn iacháu’r gymuned yn Rwanda, wedi iddynt drosglwyddo eu heuogrwydd a’u dioddefaint erchyll ar y Groes.
Mae’r marw iawnol hefyd yn prynu’n ôl (redeem) beth mae’r lleidr wedi ei ladrata oddi wrthym (Ioan 10:10) a phrynu’n ôl gydag elw. Does dim byd na all gael ei brynu’n ôl er elw inni. Bellach, dwi wedi dod i adnabod cymaint o bobl sy’n gallu dweud, er gwaethaf popeth maen nhw wedi ei ddioddef, eu bod nhw heddiw ar lefel uwch yn ysbrydol, oherwydd fod Duw wedi troi eu colled yn elw. Dwi’n cofio yn y dyddiau cynnar yn Rwanda, roedd gen i ofn siarad am hyn. Gofynnais yn grynedig a oedd unrhyw un yn gallu dweud eu bod wedi ennill rhywbeth pwysig er gwaetha’r holl ddioddef. Roedd y tystiolaethau a glywais i yn fendigedig: ‘Dyma lle wnes i ddysgu trystio Duw go iawn’; ‘Dyma lle ddysges i beth sydd yn wir bwysig mewn bywyd’; ‘Dyma lle wnes i brofi Duw yn gweithio yn wyrthiol yn fy mywyd’ ayyb . Gofynnais i a allai Duw hyd yn oed brynu’n ôl hil-laddiad Rwanda. ’Gall!’ meddai un ferch. ’Mi allwn ni ddysgu’r byd sut i faddau.’
Yn ein profiad ni, rhywbeth arall pwerus iawn ydi bod yn barod fel aelodau o’r offeiriadaeth frenhinol i sefyll yn y bwlch i gyffesu pechodau’r grŵp ethnig neu ddiwylliannol rydyn ni’n perthyn iddo. Daw hyn o’n dealltwriaeth o 1 Pedr 2:9. Dwi’n credu mai’r prif reswm i Dduw ddod â fi i Affrica oedd i ofyn am faddeuant fel rhywun o Ewrop. Bellach dwi wedi wylo ym mreichiau cannoedd o bobl, nid yn unig yn Affrica ond mewn llawer rhan o’r byd lle buom fel Prydeinwyr neu Ewropeaid yn gyfrifol am anghyfiawnderau. A thrwy glywed a gweld ein hedifeirwch diffuant, mae cannoedd wedi cael tangnefedd am y tro cyntaf trwy allu maddau. Mae sefyll yn y bwlch fel hyn yn un o werthoedd ein gweinidogaeth erbyn hyn.
Rydym hyd yn oed wedi gweld gwleidyddion yn dilyn y patrwm hwn, er nad oedden nhw’n gwybod beth yr oedden ni wedi ei wneud. Gwelsom law Duw ar waith pan aeth tîm ohonom o Brydain i Kenya ychydig flynyddoedd yn ôl i ofyn maddeuant am gamdrin y Kikuyu yn erchyll adeg y MauMau. Yna, wythnos yn ddiweddarach dyma lywodraeth Prydain yn cydnabod y cam-drin am y tro cyntaf, ac yn cynnig talu iawn i’r dioddefwyr oedd yn dal yn fyw. Ac nid dyna’r unig dro inni weld newid yn agwedd llywodraeth ar ôl inni fynegi ein hedifeirwch fel hyn. Yn aml, dyn ni yn aml ddim yn sylweddoli faint o awdurdod y mae Duw wedi ei roi inni fel ei offeiriadaeth frenhinol, yn defnyddio arfau anghonfensiynol iawn i ddymchwel cestyll – arfau gostyngedig, edifeiriol, sy’n bwerus dros ben!
Roedd Eseia 60:1-3 yn galondid mawr inni ar ddechrau’r gwaith yn Rwanda, ac yn her i’n ffydd. Does dim rhaid inni ofni’r tywyllwch. Pwrpas Duw ydi i’w ogoniant gael ei weld yn ei bobl, ac wedyn mi fydd y byd yn dod atom i geisio’r goleuni. Rydan ni wedi gweld hynny’n digwydd. Yn y Congo, yng nghanol rhyfel cartref, roedd penaethiaid rhanbarthol a milisia o’r ddwy ochr i’r gwrthdaro yn cysylltu gyda’r tîm lleol yn dweud eu bod wedi blino ar ryfel, ac yn gofyn am eu meddyginiaeth. Cynhaliwyd y gweithdai cymodi hefo’r ddau grŵp. Yn ystod y gweithdai, roedd pobl yn ysgrifennu pechod a dioddefaint eu llwythau ar bapur, ac yna, ar ôl gwrando ar ei gilydd, yn hoelio eu papurau yn llythrennol ar groes bren, er mwyn darlunio’r hyn mae Iesu eisoes wedi ei gyflawni. Wythnos ar ôl gweithdy’r penaethiaid, daeth deng mlynedd o ryfel cartref yn y rhanbarth hwnnw i ben. Erbyn hyn, rhai o arweinwyr y milisia ydi’r efengylwyr mwyaf effeithiol!
Mae’r Beibl yn glir fod Duw yn mynd i ysgwyd y cenhedloedd (Haggai 2:6‒7, Heb. 12:25‒9) ond ‘er mwyn i’r pethau na siglir aros.’ Ac mae ei deyrnas ef yn ddi-sigl! Dwi’n cofio gwylio trasiedi Sgwâr Tianemen yn Tsieina ar y teledu rai blynyddoedd yn ôl, ac yn torri ’nghalon wrth weld milwyr yn ymosod ar y myfyrwyr dewr oedd yn ceisio cymdeithas ddemocrataidd. Doeddwn i ddim yn gwybod sut i weddïo, a dyma fi’n galw ar yr Arglwydd am help. Yr adnod ddaeth i’m meddwl yn syth oedd Hosea 2:15 ‘…a bydd dyffryn Achor (helynt) yn ddrws gobaith.’ Ie, meddyliais, rŵan maen nhw wedi colli eu gobaith politicaidd, dyma’r cyfle i ddarganfod y gwir obaith.’ Felly bob tro roeddwn i’n meddwl am Sgwâr Tianemen, roeddwn i’n datgan yr adnod honno. Flynyddoedd ar ôl hyn, gwelais erthygl fer mewn rhyw gylchgrawn Cristnogol yn dweud bod llawer o’r myfyrwyr oedd ar y Sgwâr yn Gristnogion erbyn hyn. Haleliwia!
I grynhoi, dyma rai o’r pethau allweddol rydan ni wedi eu gweld yn fodd i newid pobl, ond hefyd yn newid y gymuned ehangach. Yn gyntaf, rhaid i’r Eglwys gael ei hiacháu er mwyn modelu amcanion Duw a dod â iachâd i’r gymuned; rhaid bod yn sicr o gymeriad Duw a’i bwrpas da tuag at ddynolryw; rhaid rhoi popeth ar y groes – yr holl boen ac anghyfiawnder yn ogystal â’r pechod – gan roi’r cyfrifioldeb i gyd ar Iesu; ymddiried yn y Barnwr Cyfiawn yn hytrach na dal dig (1 Pedr 2:23); a bod yn fodlon cyffesu pechod ein grŵp ethnig / diwylliannol ni gan ofyn am faddeuant. Yna, bydd ‘cenhedloedd yn dod at dy oleuni’ i geisio’r feddyginiaeth mae Crist yn unig yn gallu ei chynnig.

I ddeall mwy, ewch i’m gwefan www.healingthenations.co.uk Mae fy llyfr dysgu bellach wedi cael ei gyfieithu i’r Gymraeg gan John a Gwen Emyr. Fe’i gwelwch o dan y teitl Resources, yna HWEC Teaching book. Hefyd mae tua 22 copi o’m llyfr Llwybr Gobaith ar ôl gan Wasg y Bwthyn!

Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf