I rai yn yr Eglwys, gellir gweld eiriolaeth wleidyddol yn rhywbeth y dylai Cristnogion ei osgoi. Mae rhai yn dadlau na ddylai Cristnogion faeddu eu dwylo gyda materion gwleidyddol, materion bydol. Efallai y bydd rhai yn dweud, os yw Duw yn sofran, pam mae angen i ni gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth? Os yw Duw yn rheoli, ac mae’r canlyniadau eisoes wedi eu penderfynu beth bynnag, pam cymryd rhan? Mae eraill yn dadlau na ddylech eiriol ar ran y tlawd oherwydd mae Iesu wedi dweud wrthym y bydd y tlawd gyda ni bob amser. Mae eraill wedi dadlau, os yw’r Eglwys yn draddodiadol wedi tyfu o dan erledigaeth (gweler achos Tsieina, er enghraifft), onid yw eiriolaeth wleidyddol i geisio dod ag erledigaeth i ben yn mynd yn erbyn dymuniad Duw? Felly, gyda llawer o agweddau negyddol at eiriolaeth wleidyddol a lobïo yn bodoli yn yr Eglwys heddiw, pam ydw i’n meddwl ei bod mor bwysig?
Y gwir yw, nid yw eiriolaeth wleidyddol o reidrwydd yn golygu disgwyl gweld y byd yn newid – nid dros nos o leiaf. Nid yw eiriolaeth wleidyddol o reidrwydd yn ymwneud â cheisio gweld rhywbeth fel tlodi neu erledigaeth yn dod i ben. Yn wir, mae eiriolaeth yn yr Eglwys ychydig yn wahanol i eiriolaeth y tu allan i’r Eglwys. Er y gallai elusen secwlar ystyried mai ei chenhadaeth fandad fyddai ‘dod â thlodi i ben’, gallai eiriolaeth yn yr eglwys gymryd safbwynt llawer mwy hirdymor. I Gristnogion, mae’n bwysig deall y bydd drwg yn parhau yn y byd, er ei bod yn bwysig i’w herio.
Dydw i ddim yn dweud nad yw eiriolaeth wleidyddol yn arwain at newid pendant. Mae’n gwneud, ac fe ddylai wneud. Cymerwch ymgyrch Jiwbilî 2000 er enghraifft. Roedd hon yn fenter a ddaeth yn uniongyrchol o’r eglwysi, ac a arweiniodd at lywodraethau’r DU a’r UDA yn dileu neu’n ‘maddau’ peth o ddyledion gwledydd y trydydd byd. Ond mae yna ochr arall i eiriolaeth wleidyddol hefyd. Nid yw newid diriaethol yn digwydd bob dydd. Yn ôl pob tebyg, bydd ymgyrch fel Jiwbilî 2000 ddim ond yn digwydd unwaith mewn canrif. Er hyn, mae eiriolaeth wleidyddol hefyd yn ymwneud â sefyll yn gadarn â’r rhai sy’n cael eu gormesu dros y tymor hir. Mae eiriolaeth wleidyddol yn ymwneud â gweiddi ein barn – er ein bod, weithiau, yn gwybod bod sefyllfa’r rhai rydym yn sefyll gyda nhw yn annhebygol o wella. Mae’n ymwneud â sefyll yn gadarn gyda nhw pan fydd pethau ar eu gwaethaf.
Nid anobaith yw hyn – yn hytrach, mae’n hollbwysig. Un o’r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnwyd gan Gristnogion sy’n wynebu erledigaeth yw – pam nad yw pobl yn y Gorllewin yn codi llais dros ein sefyllfa? Yn y bôn, yr hyn y maent yn ei ofyn yw: Pam nad yw Cristnogion y Gorllewin yn cael eu cynddeiriogi gan ein sefyllfa? Pam nad ydynt yn codi llais o’n plaid?
Y gwirionedd yw, gwneud sŵn yn aml yw lle gallwn fod ar ein mwyaf effeithiol. Ein rôl bwysicaf yw dangos ein hundod trwy godi llais. Mae pennod gyntaf Efengyl Ioan wedi siarad â mi am hyn yn ddiweddar. Yn y bennod gyntaf rydym yn cwrdd ag Ioan Fedyddiwr. Yn y bennod, mae rhai o’i gwmpas am wybod pwy ydyw – ai Ioan yw’r Meseia? Yr un yr oedd yr Iddewon yn aros amdano? Ai dyma’r dyn oedd yn mynd i ddod a rhoi diwedd ar ormes pobl Israel, ac i adfer eu cenedl? Mae Ioan yn eithaf clir nad dyna pwy ydyw. Nid fe yw’r Meseia – swydd rhywun arall oedd gorffen y gormes a’r anghyfiawnder am byth. Fodd bynnag, roedd gan Ioan swydd bwysig. Fe oedd y ‘llais’, yr un oedd yn gweiddi yn yr anialwch. Ei waith ef oedd cyfeirio, neu bwyntio, at yr Iesu
Fel Ioan Fedyddiwr, nid ydym wedi ein galw i geisio datrys popeth. Ni allwn ddatrys holl broblemau’r byd ar ein pennau ein hunain. Ond gallwn ni fod yn llais. Gallwn ni wneud sŵn ar ran y rhai sy’n cael eu herlid, y rhai sydd heb unrhyw beth. Rydym yn gallu sefyll gyda nhw mewn undod. Gallwn bwyntio at yr un sy’n corffori cyfiawnder – gallwn bwyntio at yr Iesu.
Pan fyddwn yn eiriolwyr dros gyfiawnder yng nghoridorau pŵer – o San Steffan i Gynulliad Cenedlaethol Cymru – rydym am i bethau newid, ond mae’n rhaid i ni hefyd gofio sefyll gyda’r gorthrymedig yn y tymor hir hefyd.
Fis Rhagfyr diwethaf, fel rhan o ymgyrch, Hope for the Middle East , cafodd Open Doors y cyfle i gwrdd â’r Prif Weinidog, Theresa May, i drafod sefyllfa Cristnogion a lleiafrifoedd crefyddol eraill yn Irac a Syria. Fel rhan o’r cyfarfod hwnnw daeth arweinydd o un o eglwysi Erbil yn Irac, gŵr o’r enw Daniel, draw i rannu ei stori. Cyflwynodd Daniel i’r Prif Weinidog Feibl a ddarganfuwyd mewn eglwys yng Ngwastadedd Nineveh, a oedd wedi cael ei losgi’n rhannol gan ISIS, ond a oedd wedi ei arbed gan Gristnogion lleol. Roedd y Beibl yn symbol o’r ffordd roedd y gymuned Gristnogol yn y rhanbarth wedi cael ei dinistrio, ond hefyd y gobaith sydd gan y gymuned Gristnogol yno ar gyfer y dyfodol.
Roedd y cyfle i drafod gyda’r Prif Weinidog yn gyfle da i geisio sicrhau newid pendant ar ran Cristnogion Irac. Fodd bynnag, gwyddem hefyd ei bod hi’n bwysig gwneud mwy na dim ond siarad â’r Prif Weinidog. Roedd angen inni ategu’r cyfarfod gyda rhywbeth mwy. A dyna beth wnaethon ni wrth gymryd y cyfle i ofyn a oedd unrhyw le diogel yn y Dwyrain Canol i Gristnogion, trwy drefnu golygfa enfawr o’r geni gyda dros gant Mair a Joseff y tu allan i Senedd San Steffan.
Yr oeddem am gael y cyfle i siarad â’r Prif Weinidog, ond yr oeddem hefyd am anfon neges ehangach i’r Senedd, ac i’r cyhoedd drwy’r cyfryngau, ein bod ni’n sefyll gyda chymuned Gristnogol Irac a Syria, ac y dylent hwythau sefyll gyda nhw hefyd . Fe wnaethom ni ychwanegu at ein cyfle i ofyn am newid pendant, gyda chyfle i ddweud wrth gynulleidfa ehangach am frwydr y gymuned Gristnogol yn Irac a Syria a gofyn iddynt ymuno â ni wrth i ni sefyll gyda nhw.
Yn y pen draw, ein gwaith ni fel Cristnogion yw lobïo’r bobl sydd â phŵer ac sy’n gallu sicrhau newid pendant ar ran y gorthrymedig. Ond ein gwaith ni hefyd yw sefyll gyda nhw – er mwyn gwneud yn siŵr bod eu sefyllfa yn hysbys – ac i fod yn llais sy’n cyfeirio ac sy’n pwyntio at yr Iesu.