Ers rhai misoedd mae Carwyn (o Gaerdydd) a Sarah Graves (o swydd Berkshire) wedi ymsefydlu ym mhentref Croesyceiliog, ger Caerfyrddin, a diwedd Medi ganed ei merch, Miriam Heulwen. Mae’r ddau’n gweithio i fudiad cenhadol Wycliffe.
Diolch am gytuno i siarad â ni, beth am ddechrau gyda’ch profiad ysbrydol?
Sarah: Roeddem ni’n mynd i eglwys y plwyf yn y pentref pan oeddwn i’n fach. Pan oeddwn i’n 16 es i ar wersyll ieithoedd yn Ffrainc a drefnwyd gan Adfentisitiaid y Seithfed Dydd. Hwn oedd y tro cyntaf i mi ddod ar draws pobl a oedd yn sôn am berthynas bersonol â Duw. Rwy’n cofio trafod ‘uffern’ gyda dwy o’r gwersyllwyr. Doeddwn i ddim yn credu mewn uffern, ond doedd gen i ddim dadl o’r Beibl i ategu fy marn. Roedd y drafodaeth hon yn sbardun i ddarllen y Beibl, gan ddechrau yn yr Hen Destament. Dalies i ati am flwyddyn a hanner heb ddeall llawer. Beth bynnag, dyma Gristion yn dechrau yn fy ysgol i ac roedd ei brwdfrydedd byrlymus hi’n heriol dros ben. Dechreues i ddarllen y Testament Newydd a gweddïo y byddai Duw yn fy helpu i ddod yn Gristion. Yna un diwrnod darllenes i hanes iacháu’r wraig â’r diferlif gwaed ym Marc 5:25‒34. Gweles i na allwn i wneud unrhyw beth, y cyfan yr oedd angen i mi ei wneud oedd estyn llaw mewn ffydd at Iesu.
Carwyn: Ces i’r fraint o gael fy magu ar aelwyd Gristnogol lle’r oedd cyfnodau gweddi’r teulu yn rhan o’n patrwm dyddiol. Pan oeddwn i yn fy arddegau, dechreuodd y teulu fynychu Eglwys Efengylaidd Highfields ac rwy’n ddiolchgar iawn am yr help a ges i gan y gweithiwr ieuenctid, David Fielder. Dysgais i hefyd lawer trwy weinidogaeth Martin Goldsmith ac eraill fyddai’n ymweld â’r eglwys.
Aeth y ddau ohonoch i Brifysgol Rhydychen i astudio Ffrangeg ac Almaeneg pa mor fuddiol oedd hynny i’ch datblygiad ysbrydol?
Carwyn: Un o’r pethau gorau i mi oedd cymdeithas grŵp o gredinwyr y Coleg. Byddem yn atebol i’n gilydd ac yn annog ein gilydd yn ein bywydau ysbrydol ac wrth efengylu.
Sarah: Roeddwn i’n ifanc iawn yn y ffydd ac un o’m gweddïau oedd na fyddai’r Arglwydd yn fy ngadael i ar fy mhen fy hun. Ces i fy siomi o’r ochr orau wrth ddod ar draws cannoedd o gredinwyr eraill. Yng nghyfarfod cyntaf grŵp myfyrwyr yr eglwys, cynigiodd arweinydd fy ngrŵp ein bod ni’n cyfarfod yn rheolaidd i ddarllen a gweddïo gyda’n gilydd – felly ces i elwa ar ei chyngor a’i chefnogaeth wrth iddi fy mentora ar ddechrau fy mywyd Cristnogol.
Y cwestiwn y mae darllenwyr y Cylchgrawn yn awchu ei wybod yw… sut y gwnaethoch chi gwrdd?
Carwyn: Roedd y ddau ohonom mewn colegau gwahanol ond yn addoli yn St Ebbe’s ac roeddwn i’n weithgar gyda’r ymdrechion i gyrraedd myfyrwyr tramor. Unwaith gofynnes i Sarah helpu gyda’r bwyd, datblygodd y berthynas o hynny ymlaen.
Sarah: Holes i’r fenyw a oedd yn fy mentora a ddylwn i ystyried bod mwy i’r cais am help gyda’r bwyd. Dywedodd hi ei bod hi’n sicr bod mwy – ac roedd hi’n iawn!
Rwyt ti, Sarah, yn rhugl dy Gymraeg, sut y llwyddest ti i ddysgu?
Sarah: Roeddwn i’n awyddus i ddysgu sut i ynganu enw ‘Carwyn’ yn iawn (!) , ond doeddwn i ddim am ddysgu trwy lyfrau am fy mod i wedi laru ar hynny wrth astudio Ffrangeg ac Almaeneg. Felly dysges i drwy siarad â Carwyn a’i deulu.
Carwyn: Doedd Sarah ddim yn gwybod bod traddodiad teuluol yn hyn o beth! Priododd Tad-cu â Saesnes o Rydychen a ddysgodd Gymraeg, priododd Mam â Sais o Swydd Gaint a ddysgodd Gymraeg, felly mae rhyw fath o batrwm wedi ei sefydlu!
Allech chi ddweud rhywbeth am waith Wycliffe?
Carwyn: Mae gan Wycliffe ryw 6,000 o weithwyr ar hyd a lled y byd sy’n gysylltiedig â chyfieithu’r Beibl. Gan amlaf bydd angen astudio’r ieithoedd, darganfod eu gramadeg a rhoi ffurf ysgrifenedig arnyn nhw cyn dechrau ar y cyfieithu o ddifri. Bydd siaradwyr iaith gyntaf yn cydweithio â’r arbenigwyr ar yr ieithoedd Beiblaidd, gyda chymorth staff gweinyddol. Byddwn ni’n aml yn dechrau gyda’r Testament Newydd, ond y nod yw rhoi Beibl cyfan i’r gwahanol grwpiau iaith.
Ai eich hoffter chi o ieithoedd a wnaeth i chi ymddiddori yng ngwaith Wycliffe?
Sarah: Ddim felly, dwi’n credu bod y diddordeb yn deillio’n bennaf o feddwl pa mor drist yw hi ar bobl sydd heb Feibl yn eu hiaith. Ar ôl graddio ymunes i â Wycliffe yn yr adran codi arian.
Carwyn: Dwi’n gweithio fel Arweinydd Tîm Cymru. Mae hynny’n golygu cysylltu ag eglwysi ynghylch y gwaith a hefyd cynghori pobl sy’n ystyried mentro i waith cyfieithu’r Beibl. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig bod pobl yn clywed Duw yn siarad yn eu mam iaith er mwyn iddyn nhw werthfawrogi nad Duw pell yw e ond un agos. Dwi wedi fy herio wrth ymweld â gwahanol rannau o’r byd a gweld archwaeth pobl am y Beibl yn eu hiaith eu hunain.
Beth am heriau’r gwaith?
Carwyn: Yn ogystal â’r angen i ddal ati dros gyfnod hir (mae angen fel arfer oddeutu 25 mlynedd i gyfieithu’r Beibl), mae rhai prosiectau cyfieithu yn digwydd mewn gwledydd Mwslemaidd lle mae erledigaeth agored. Hefyd nid peth anarferol yw clywed adroddiadau o’r maes am ‘anffawd’ sy’n tarfu ar y gwaith (e.e. gweithiwr hollbwysig yn marw ar adeg allweddol) sy’n awgrymu gwrthwynebiad ysbrydol.
Rydych chi hefyd yn rhieni newydd, sut brofiad yw hynny?
Sarah: Daeth Miriam fis yn gynnar a bu angen ymweld â’r ysbyty ar sawl achlysur yn ystod y misoedd diwethaf iddi hi ac i mi. Mae hyn wedi bod yn heriol, ond rydyn ni’n ceisio dysgu pwyso’n fwy ar Dduw bob dydd.
Beth ddaeth â chi i Gaerfyrddin?
Carwyn: Byddai Casnewydd wedi bod yn fwy canolog o safbwynt y gwaith i mi ond doedden ni ddim yn teimlo unrhyw arweiniad yno, tra bod baich gen i i gyrraedd Cymry Cymraeg. Felly dyma roi cynnig ar Gaerfyrddin ac ar ôl un siom cawsom ni fwthyn bach y tu allan i’r dref yng Nghroesyceiliog. Er bod heriau diwylliannol i Sarah, mae’n dda gallu cyfrannu i’r dystiolaeth Gymraeg.
Sarah, rwyt ti newydd ddod i fyw i Gymru ar ôl treulio’r rhan fwyaf o dy fywyd yn Lloegr, oes gen ti unrhyw argraffiadau i’w rhannu?
Sarah: Mae Cymru’n wahanol iawn! Rwy’n credu bod astudio ieithoedd yn help i ddeall bod angen i ni addasu i bob sefyllfa newydd yn hytrach na disgwyl i eraill addasu i ni. Rwy’n falch fy mod i weld cael profiad o fyw yn Lloegr a Chymru ac yn gallu gweld y pethau da yn y ddau ddiwylliant. Mae’r Cymry’n groesawgar a’r gymdeithas yn agos rhwng Cristnogion. O’m profiad i, serch hynny, mae’r eglwysi yn Lloegr yn fwy bwriadus a disgwylgar yn eu hymdrechion i efengylu i eraill.
Diolch am sgwrsio â ni, a phe bai unrhyw un am wahodd Carwyn i sôn am waith Wycliffe, mae modd cysylltu ag e drwy’r e-bost:
cgraves@wycliffe.org.uk