Mae hi’n dymor y diolch. Gydol mis Hydref roedd capeli ein gwlad yn fwrlwm o wasanaethau diolchgarwch ac er bod hynny wedi dirwyn i ben, a bydd y mis hwn yn llawn dathlu a diolch wrth dderbyn anrhegion Nadolig. Mae pawb yn gwybod beth yw hi i fod yn ddiolchgar.
Weithiau teimlwn ddiolchgarwch tuag at ddieithriaid sy’n agor y drws i ni yn y siop neu’n arafu er mwyn gadael i ni osgoi aros wrth groesfan. Dro arall teimlwn ddiolchgarwch wrth dderbyn anrheg werthfawr gan ffrind neu brofi gofal rhyfeddol gan nyrs mewn ysbyty. Mae diolchgarwch i’w weld ym mhob man.
Wrth i mi baratoi i siarad mewn gwasanaeth diolchgarwch yn ddiweddar fe’m trawyd wrth sylwi fod diolchgarwch yn anad dim wedi ei gyfeirio tuag at berson. Pan fyddwch chi’n deffro yn y bore ac yn gwneud paned o goffi, fyddwch chi byth yn dweud diolch wrth y tegell neu’r peiriant coffi, ond os bydd rhywun yn gwneud y baned (ac yn arbennig os cewch hi yn y gwely) yna teimlwch ddiolchgarwch yn syth. Wn i ddim ychwaith am neb sydd wedi dweud diolch wrth beiriant golchi llestri erioed, ond os oes ffrind yn cynnig golchi fy nghwpanau budur yn y swyddfa yna rwyf bob tro yn llawn diolchgarwch!
Bywyd a diolch
Mae’n beth diddorol fod cymaint o bobl yn teimlo’n ddiolchgar am fywyd – rwy’n siŵr ein bod i gyd wedi teimlo hynny rywdro. Weithiau byddwn yn ddiolchgar am fywyd ei hun, neu am ein sefyllfa freintiedig yn y byd hwn. I bwy yr ydym yn teimlo’n ddiolchgar? Neu meddyliwch am berson sy’n cael ei arbed rhag anaf difrifol wedi bod mewn damwain car – go brin y byddai’n diolch i fetel a phlastig y car, eto rydym yn clywed pobl yn dweud dro ar ôl tro eu bod yn ddiolchgar am gael y fath ddihangfa.
Marc y crëwr
Mae marc y crëwr ar bob un ohonom, ac er bod cymaint yn ein cymdeithas yn ceisio dileu Duw o fywyd cyhoeddus a’i anwybyddu, all neb ddianc rhag y dystiolaeth fewnol sydd ynom fod rhywun y tu ôl i’r cyfan. Nid yn unig fod rhywun y tu ôl i bob dim, ond gwelwn hefyd ein bod mewn rhyw fath o berthynas â’r crëwr hwn. Weithiau byddwn yn ddiolchgar iddo pan fydd rhywbeth yn ein plesio, weithiau yn gweiddi allan arno pan fyddwn mewn angen, ac yn fwy aml na dim mae ein natur bechadurus yn cael ei datgelu wrth i ni ymladd yn erbyn ein crëwr.
Gwir y dywedodd Paul yn Rhufeiniaid 1:
Oherwydd y mae’r hyn y gellir ei wybod am Dduw yn amlwg iddynt, a Duw sydd wedi ei amlygu iddynt.
Un o’r breintiau mawr rwy’n eu cael yn y gwaith yw’r cyfle i rannu fy ffydd gydag eraill, ac yn aml iawn rwy’n gweld fod pobl yn ymwybodol o farc y crëwr yn eu bywyd. Mae’n wir fod y rhan fwyaf o bobl Cymru wedi troi eu cefn ar y duw barf wen traddodiadol Cymreig-Gristnogol, ond nid oes modd iddynt anwybyddu eu Crëwr yn yr un modd. Dro ar ôl tro rwy’n gweld na all rhywun dderbyn mai marwolaeth yw’r diwedd, a’u bod yn gwrthod y syniad mai dim ond yr hyn a welwn ni sy’n real. Mae Duw wedi rhoi tragwyddoldeb yng nghalon pob un, a’n gwaith ni yw ceisio dangos iddynt fod Duw yn nes atynt nag y maent yn ei sylweddoli. Trasiedi fawr ein cymdeithas yw bod y diafol wedi twyllo cynifer i feddwl fod Duw yn ddiwerth bell i ffwrdd mewn cwmwl, er bod calon pob un ohonom yn ymwybodol ac yn gweiddi allan am y realiti o’i adnabod.
Diolchgarwch
Gadewch i mi beidio â gorffen ar nodyn trist. Oes, mae gwaith mawr i’w wneud a rhaid inni ymroi i weddïo a thystio, ond mae diolchgarwch hefyd yn berthnasol iawn i bob un Cristion hefyd, fel mae Paul yn dweud yn ei lythyr at y Thesaloniaid:
Ym mhob dim rhowch ddiolch, oherwydd hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi.
Mae’r Cristion wedi ei ryddhau i fywyd o ddiolchgarwch. Mae’r dyddiau o chwilio am Dduw yn y tywyllwch wedi mynd heibio. Mae’r dyddiau o geisio ennill ffafr Duw drwy ein gweithredoedd wedi mynd. Rydym yn rhydd i fywyd o ddiolchgarwch llwyr. Mae Duw, yn Iesu, wedi rhoi cymaint i ni ac wedi’n bendithio yn y fath fodd nes ei bod hi’n amhosibl i ni beidio â diolch; a dyma’r gyfrinach i fyw yn ein cymdeithas ni heddiw. Pan fyddwn yn atgoffa ein hunan o’r cyfan y mae Duw wedi ei wneud trosom a’i roi inni, fe sylwn yn fuan iawn mai braint yw cael bod yn blentyn iddo yng Nghymru 2018 ac na fydd dim byd yn ormod o aberth wrth fyw mewn diolchgarwch i’r hwn sydd wedi ein caru ni gymaint.