Dal ati – Anogaeth i Gristnogion heddiw
- gan Gwynn Williams
- 46 tud
- Clawr Meddal
- ISBN 978-1-85049-261-0
- am ddim
O bryd i’w gilydd mae pob Cristion yn teimlo dan y don. Gall fod pwysau o’r tu allan – gwrthwynebiad i’r ffydd, efallai, neu densiynau a diffyg llewyrch yn ein heglwysi. Gall hefyd fod gwasgfa oherwydd ymwybyddiaeth o’n gwendid a’n methiant personol. Weithiau mae pethau fel salwch, amgylchiadau teuluol, neu golli anwyliaid yn dwysáu’r teimladau hyn ac yn peri inni deimlo’n ddigon digalon.
Mae yn y llyfryn hwn anogaeth i Gristnogion sydd dan straen, am ba reswm bynnag. Cyfeiria ni at eiriau Paul yn 2 Corinthiaid 4, lle mae’r apostol yn rhoi sylw i’r union fater hwn. A Paul ei hun dan gryn bwysau, mae ganddo neges berthnasol iawn i Gristnogion heddiw sydd mewn sefyllfa debyg. Dyma gyngor gwerthfawr i bob Cristion wrth inni geisio ‘Dal Ati’ yn wyneb anawsterau ein hoes.
I dderbyn y llyfr – cliciwch yma