Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

BYW i mi yw Crist a marw sydd elw

27 Mawrth 2018 | gan Steffan Job

Hoffwn gychwyn drwy ddiolch i gymaint ohonoch am y negeseuon caredig a gweddïau wedi i ni golli ein cyd-weithwraig, Rhian Middleton, yn arswydus o sydyn fis diwethaf. Mae ei cholli wedi gadael bwlch mawr yn y swyddfa ac ym mywyd MEC yn fwy cyffredinol. Wrth gwrs nid yw hyn yn ddim o’i gymharu â’r bwlch a adawyd ym mywyd Andrew (ei gŵr), Bronwen ac Owen (ei phlant) a Huw a Monica (ei rhieni) – a gofynnwn i chi barhau i gofio amdanynt yn eich gweddïau.

Roedd Rhian yn berson arbennig a oedd wedi bod yn gweithio’n ddiwyd i MEC ers dros un mlynedd ar ddeg. Roedd hi’n berson annwyl, gweithgar ac effeithiol; roedd ganddi’r ddawn i ddod â hiwmor a naturioldeb i bob sefyllfa. Tystiai ei bywyd i’w Harglwydd, yn enwedig drwy ei gwaith gyda phobl ifanc yn eglwys Grace, Pen-y-bont ar Ogwr, a thrwy waith y wersylloedd. Er mai ei phrif gyfrifoldebau yn y swyddfa oedd y gwaith Saesneg, mae ein dyled iddi ar yr ochr Gymraeg yn fawr, gan ei bod wedi bod yn gweithio ar nifer o weinidogaethau Cymraeg, yn enwedig gyda’r gwersylloedd a’r Cylchgrawn. Diolchwn i Dduw amdani ac fel y mae Paul yn ei ddweud wrth y Thesaloniaid, er ein bod yn galaru, nid ydym yn galaru fel rhai heb obaith. Rydym wedi profi bod yr Arglwydd yn agos ac mae wedi dysgu gymaint i ni dros y mis diwethaf. Hoffwn rannu tri pheth:

1 Nid y Ddaear hon yw cartref terfynol yr un ohonom.

Mae marwolaeth person, yn enwedig yn ifanc, yn sioc fawr ac yn anodd iawn i’w derbyn, ond dyma fydd diwedd pob un ohonom (oni bai fod Iesu yn dod yn ôl yn gyntaf). Llwch ydym ac i’r llwch y byddwn yn dychwelyd, ac mae’n bwysig i ni gofio hyn, yn enwedig yn ein cymdeithas sy’n rhoi gymaint o fri ar hapusrwydd y foment. Rhaid cadw gafael llac ar bethau’r byd hwn gan wybod mai teithio drwy’r byd hwn yr ydym a bod tragwyddoldeb o’n blaen yr ochr arall i’r bedd.

2 Mae gan y Cristion ddyfodol disglair.

Yng nghanol tristwch ei cholli, roedd bendith a gobaith rhyfeddol yn angladd Rhian wrth i ni sylweddoli lle’r oedd hi erbyn hyn. Roedd Rhian yn saff yng ngofal, ac yn mwynhau cwmni ei Cheidwad. Dywed Paul wrth y Philipiaid rywbeth sy’n adleisio profiad pob Cristion: ‘Byw i mi yw Crist a marw sydd elw’. Drwy ras rhyfeddol Duw mae’r Cristion wedi dod i sylweddoli fod realiti dyfnach i’r hyn a welwn yn ein byd ni – mae yna Grëwr sy’n gyfiawn a sanctaidd ac sydd wedi ein caru gymaint nes rhoi ei Fab i farw trosom. Wrth ddod i berthynas ag Iesu mae’r Cristion yn sylweddoli na all y byd syrthiedig hwn (er mor aml yn rhyfeddol a gwych) gymharu â gogoniant adnabod Crist. Dyma yw dyfodol pob Cristion ‒ tragwyddoldeb gyda’r Un a’n creodd ac a’n hachubodd. Fel y dywedodd Johnathan Stephen yn angladd Rhian ‘A fyddech eisiau galw Rhian (neu unrhyw Gristion arall) yn ôl o’r fath sefyllfa wynfydedig i’n byd syrthiedig ni?’

3 Mae gwaith i’w wneud.

Gwir y dywedodd Daniel Rowland ‘O nefoedd! nefoedd!, nefoedd! Buasai dy gonglau yn ddigon gwag oni bai fod Seion yn magu plant i ti ar y ddaear’. Mae’n erchyll meddwl am filiynau ein gwlad sy’n wynebu marwolaeth heb fod Iesu yn achubwr arnynt. Dim ond y Cristion a all ddweud mewn gwirionedd fod marwolaeth yn elw iddo, ac felly mae gwaith i’w wneud i rannu’r efengyl.
Braint oedd cael adnabod Rhian yn gyd-weithwraig a ffrind, roedd yn byw ei bywyd i’w gwneud hi’n bosib i eraill glywed am Iesu. Iesu, yn wir, oedd ei bywyd hi ac er ei bod hi bellach mewn lle llawer gwell, mae’r gwaith yn parhau a boed i Dduw roi’r gras i ni ddyfalbarhau nes y byddwn yn cael ein galw adref hefyd.