Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Ystyr y Nadolig

27 Tachwedd 2017 | gan Nathan Munday

Adolygiad o Sinclair Ferguson, Child in the Manger (Edinburgh: Banner of Truth, 2015)

Beth yw gwir ystyr y Nadolig? Dyma gwestiwn sy’n llenwi negeseuon efengylu yn ystod y cyfnod sy’n agosáu. Byddai’r rhan fwyaf ohonoch chi’n gallu ateb y cwestiwn gydag un frawddeg. Yn anffodus mae Cristnogion yn ymwybodol o’r ffeithiau heb wir werthfawrogi’r dyfnder sy’n cylchdroi o gwmpas digwyddiadau’r beudy. Rwy’n siarad o’m profiad personol, wrth gwrs!
Mae pob un o lyfrau Sinclair Ferguson yn ddwfn ond yn ddarllenadwy, ac mae Child in the Manger yn enghraifft berffaith. Rwy’n cofio cael profiad tebyg wrth ddarllen llyfr Dale Ralph Davis, Faith of our Father. Ar ddiwedd y llyfr, teimlais fy mod yn adnabod Abraham ac yn deall rhannau aneglur rhwng Genesis 12-25 megis melltith y cyfamod a’r hwrdd yn y llwyn. Yn yr un modd, teimlais fy mod yn deall ac adnabod Crist yn well ar ôl darllen Child in the Manger. Rwy’n argymell y llyfr i bawb dros y Nadolig. Roedd blwyddyn ddiwethaf yn gyfnod gwell i mi oherwydd fy mod wedi gweld yn gliriach fel petai. Beth ydw i’n ei olygu? Wel, mae’n anodd gweld yr Arglwydd trwy’r bwrlwm a’r holl liwiau Siôn Cornaidd! Ond rywsut, mae darllen llyfr fel hwn yn baratoad arbennig ar gyfer Nadolig. Rwy’n addo y byddwch chi’n gallu canu ‘Ar Gyfer Heddiw’r Bore’ gyda chalonnau gwresog a gwybodaeth eang ar ôl darllen y llyfr hwn!

Y dechreuad

Geiriau o garol Aeleg yw Child in the Manger. Fel ‘Ar Gyfer Heddiw’r Bore’, mae’n garol fawr. Mae’r llyfr yn debyg; llyfr bach ydyw ond mae’r cynnwys yn enfawr. Mae’n dechrau tu hwnt i’r preseb gydag addewid Duw i Abraham. Mae’r achau ar ddechrau Matthew yn atgoffa’r darllenydd o’r hen, hen stori am ffyddlondeb Duw at ei addewidion cynnar; hynny yw, trwy’r Meseia daw bendith i holl genhedloedd y ddaear. Clod i Dduw!
Mae Ferguson yn gorffen y bennod gyntaf gan ddychmygu Joseff yn edrych ar ei fab a dweud: ‘Ti yw’r Un addawedig. Ti yw’r Iesu. Ti yw’r Un sydd wedi dod i achub dy bobl o’u pechod. Mi wn, dy fod wedi dod i’m hachub i’. Ni welodd Joseff ei fab yn gweinidogaethu ond roedd ganddo ffydd bersonol yn ei Berson dwyfol. Mae Ferguson yn gofyn ydyn ni, fel darllenwyr heddiw, wedi edrych ar y baban a dweud yr un pethau? Mae’r nodyn efengylaidd hwn yn cloi pob pennod.

Y cynnwys anhygoel

Mae’r ail bennod yn mynd yn bellach fyth. Rydyn ni nawr yn teithio i’r dechreuad wrth astudio geiriau enwog Ioan ar ddechrau ei efengyl (Ioan 1). Heb roi gormod o fanylion, mae’r bennod yma’n canolbwyntio ar y Gair ac yn enwedig y Gair a wnaethpwyd yn gnawd:
The truth is, Christmas is not coming. It has come. The Word already has been made flesh. He already has lived, bled, died, and risen again for us. Now all that remains is to receive him. For Jesus Christ himself is the meaning of Christmas.
Crist yw’r Nadolig: y person anhygoel sy’n eistedd ar ddeheulaw Duw. Mae’r drydedd bennod yn edrych ar y proffwydi; y bedwaredd a’r bumed yn canolbwyntio ar Immanuel a llyfr Eseia; y chweched bennod yn edrych ar Fair a’r enedigaeth wyrthiol; y seithfed ar enwi’r baban a’r syniad o’i addoli; yr wythfed ar y Bugeiliaid a’r noson ger Bethlehem; y nawfed ar y Doethion; a’r degfed ar ‘Post-Christmas Stress syndrome’ sy’n esbonio pam nad yw bobl bob amser yn mwynhau’r cyfnod.
Mae’r holl gynnwys yn cylchdroi o gwmpas y preseb ac yn enwedig y person sy’n gorwedd yno. Mae emyn Isaac Watts ‘When I Survey the Wondrous Cross’ yn disgrifio person sy’n cerdded o gwmpas y groes ac sy’n sylwi ar y manylion. Child in the Manger yw archwiliad Ferguson. Nid y groes na’r preseb, ond y Person sy’n gweithredu yn y preseb ac ar y groes.

Ffeithiau diddorol

Fe ddysgais i gymaint wrth ddarllen y llyfr. Oeddech chi’n gwybod mai defaid y deml oedd yn cael eu bugeilio ger Bethlehem? Oeddech chi’n sylweddoli bod yr un iaith yn cael ei defnyddio yn llyfr Job wrth ddisgrifio’r Un sy’n plethu Pleiades neu ddatod gwregys Orion (Job 38:31) ag sy’n cael ei defnyddio i ddisgrifio Crist yn ei gadachau? Neu beth am heddwch. Gair syml. Dywedodd yr athronydd Epicectus: ‘Mae’n bosibl i’r ymerawdwr roi heddwch rhag rhyfel ar y tir a’r môr. Ni all roi heddwch am nwyd, galar a chenfigen’. Doedd y Pax Augustana ddim yn medru rhoi heddwch i’r galon. Ond, roedd addewid yr angylion (Luc 2:14) – tua’r un adeg â geiriau Epicectus gyda llaw – yn addo ac yn sicrhau heddwch a thangnefedd gan mai ef yw’r Arglwydd a’r Gwaredwr.

Darganfod Iesu

Mae’r llyfr yn gorffen gyda’r syniad o ddarganfod yr Iesu. Pob Noswyl Nadolig, bydd miloedd o bererinion yn teithio tua Bethlehem. Mae eraill yn ceisio teithio at y preseb mewn modd ‘ysbrydol’ yn eu pennau. Yn anffodus, gweithredoedd ofer ydy’r rhain! Does dim angen i ni fynd, fel y Doethion, at y preseb. Does dim angen i ni fynd at y bedd chwaith. Dydy Iesu ddim yn crwydro yng Ngalilea nac yn hongian ar Galfaria. Ble ddylen ni fynd? Mae Horatius Bonar yn ateb trwy ddweud:

We went to Bethlehem,
But found the Babe was gone,
The manger empty, and alone.
‘And whither has He fled?’
‘To Calvary’, they said,
‘To suffer in our stead’.
We went to Calvary,
But found the Sufferer gone,
The place all dark and lone.
‘Whither?’ we asked.
‘Into the heavens’, they said,
‘Up to the Throne,
For us to intercede.’
So then, to Heaven, we’ll go;
The Babe is not below.’

Prif neges y llyfr yw bod angen i ni fynd at yr Arglwydd sy’n fyw. Cristion, ewch ato unwaith eto er mwyn cael cysur. Mae’r addewid (Datguddiad 3:20) yn parhau; mae Crist yn barod i swpera gyda chi. Os yn frwnt, mae Crist yn agos (1 Ioan 2:1). Fel y claf yn Luc 17, ewch yn ôl at yr Iesu a dweud diolch drosodd a throsodd.
Ac i’r person sydd heb ddweud diolch erioed, ewch ato fel yr ydych. Gyda’ch beiau, yn eich pechod: fel yr ydych. Peidiwch ag aros nes eich bod chi’n hen. Peidiwch ag aros nes eich bod chi’n barchus. Ewch ato nawr heb oedi.
Diolch i Ti, yr Hollalluog Dduw am y Plentyn yn y preseb.