Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Teyrnged: MAIR JONES Llangennech

27 Tachwedd 2017

Er cof am ein hannwyl chwaer Mair Jones, a fu farw yn ddiweddar, dyma ailgyhoeddi cyfweliad rhyngddi a Gwen Emyr a ymddangosodd yn wreiddiol yn y Cylchgrawn yn rhifyn gaeaf 2003.

Fyddech chi mor garedig â rhoi cipolwg inni ar rai o’r dylanwadau cynnar?

Cefais fy ngeni yn Llangennech, ger Llanelli, ac roedd fy mrawd, Geraint, a minnau’n cael ein hyfforddi i fynd i’r capel deirgwaith ar y Sul, ac i’r seiat yn yr wythnos. Glöwr oedd fy nhad. Cafodd ei daro’n wael gyda chlefyd y cancr, a bu farw ymhen dwy flynedd, pan oeddwn yn naw mlwydd oed. Yn fuan iawn wedyn, bu’n rhaid i mam fynd allan i weithio.

Cefais fy addysg yn ysgol gynradd y pentref yn gyntaf, wedyn yn Ysgol Ramadeg Llanelli, ac yna gwneud cwrs mewn cadw cyfrifon, teipio, ac yn y blaen. Gadael yr ysgol wedyn i ddechrau gweithio mewn swyddfa Gwasanaeth Sifil yn y pentref.

Roeddwn yn fy arddegau cynnar cyn imi ddarganfod nad oedd ceisio byw yn dda yn fy ngwneud i’n Gristion, a’r adeg honno dechreuodd fy nghefnder, Idris, a’i ddarpar wraig, Nora, gynnal cyfarfod plant bob wythnos yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Llangennech, a bu eu tystiolaeth hwy yn ddylanwad mawr arnaf bryd hynny.

Sut, felly, y daethoch i gredu yn Iesu Grist ac i gyflwyno eich bywyd iddo?

Un a oedd yn yr un flwyddyn â mi yn yr ysgol yn Llanelli oedd Eunice Davies a briododd y Parch. Cecil Jenkins ar ôl hynny, a phan gafodd hi hefyd waith yn y Swyddfa yn Llangennech yr un diwrnod â mi, daethom yn ffrindiau agos. Tua blwyddyn neu ddwy wedyn daeth Eunice yn Gristion, ac arferem ein dwy fynd i gyrddau efengylu Saesneg yn Llanelli bob nos Sadwrn: cyrddau ‘Youth for Christ’ ac yn y blaen. Roedd Cecil yn y coleg ym Mangor ar y pryd.
Drwy’r cyrddau hynny a thystiolaeth Eunice deuthum innau dan argyhoeddiad o bechod, ond aeth blwyddyn heibio cyn imi ddod yn Gristion. Roeddem ein dwy yn gweithio yn yr un swyddfa, ac un diwrnod deuthum ar draws tract a oedd wedi ei wrthod gan rywun a’i daflu i’r fasged. Dechreuais ei ddarllen a dod ar draws adnod a wnaeth fy herio a’m hargyhoeddi taw Iesu Grist, a’i farw iawnol ar y groes yn fy lle, oedd yr unig ffordd at Dduw.
Erbyn hyn roedd y Parch. a Mrs Arthur Pritchard wedi dod i weinidogaethu yn Llanelli. Yn garedig dros ben, roeddent yn agor eu cartref i Gristnogion ifanc ac yn cynnal seiat bob nos Wener. Dyna fraint oedd cael mynd i’r seiadau hynny dan Iywyddiaeth Arthur Pritchard. Roeddent o fudd a bendith amhrisiadwy i lawer ohonom, ac mae ein dioIch yn fawr.

Sut roedd y seiadau yn eich helpu?

Roedd hi’n braf cael amser agored o rannu profiadau. Roedd gan Arthur Pritchard, fel y gŵyr pawb sy’n ei gofio, ddawn arbennig i’n tywys ni, ac roeddem fel cwmni yn ymateb i’w anogaeth ar inni gymryd rhan. Calonogol oedd gweld pobl yn barod i gyfrannu yn y cyfarfodydd, ac fel Cristion ifanc yn y ffydd cawn fy adeiladu wrth wrando ar gyfraniad cyd-Gristnogion a chlywed am eu profiadau.
Cofiaf i Eunice a finnau fynd gydag ef i dystiolaethu mewn ymgyrch yn Rhydaman lle roedd e’n pregethu. Cynhaliwyd ymgyrchoedd yn aml yn y cyIch bryd hynny gan fyfyrwyr pan oeddent gartref o’r coleg.
Hefyd cawsom wahoddiad i fynd un dydd Sadwrn i gyfarfod yn festri Bethany, Rhydaman, lle roedd llawer o Gristnogion ifanc o’r ardal yn ymgynnull, a Miss Emily Roberts yn siarad â ni. Roedd Emily y pryd hwnnw yn teithio dros y wlad yn hybu’r Cylchgrawn Efengylaidd, a dyna’r tro cyntaf imi gael fy nghyflwyno i’r Cylchgrawn. Cofiaf yn ogystal y llawenydd a gefais fod y cyrddau roeddem yn eu mynychu erbyn hyn yn Gymraeg a mod i’n dod i adnabod cymaint o bobl ifainc a oedd yn dod o ardal eang. Yn ogystal â chynnal cyfarfodydd, byddem yn trefnu tripiau hefyd, yn cynnwys un i Aber-rhiwlech, Llanymawddwy, cartref Emily a’i chwaer Wena. Yno gwnes i gwrdd â Mari Jones, Brynucha, am y tro cyntaf, a hyfryd oedd ei chlywed yn canu’r delyn y tu allan ar y clos, ac eraill yn canu i’w chyfeiliant. Cyfarfodydd eraill roeddem yn eu mynychu oedd astudiaeth feiblaidd yn Llanelli bob nos Sadwrn, dan Iywyddiaeth y Parch. W. M. George oedd yn weinidog yng Nghaersalem ar y pryd, a chawsom ein cyfoethogi’n fawr wrth iddo ein tywys drwy’r epistol at y Rhufeiniaid.

Sut gawsoch chi’ch galw i’ch cyflwyno eich hun i waith Cristnogol?

Wrth i amser fynd ymlaen, dechreuais deimlo y dylwn wneud gwaith Cristnogol amser llawn, ond doeddwn i ddim yn gwybod beth roedd Duw am i mi ei wneud. Ychydig fisoedd wedi hynny – yn 1955 – euthum i’r Gynhadledd Flynyddol yn Ninbych, ac fel roeddwn yn cyrraedd drws y capel fe gwrddais â’r Parch. J. Elwyn Davies, ac yn ystod y sgwrs digwyddodd ofyn pa waith oeddwn yn ei wneud. Wedi dweud taw gweithio mewn swyddfa oeddwn, ond fy mod yn teimlo bod Duw yn fy ngalw i wneud gwaith Cristnogol amser llawn, ond nad oeddwn yn fy ngweld fy hun yn gwneud gwaith cyhoeddus o unrhyw fath, dywedodd y byddai, efallai, angen rhywun i weinyddu yn y gwaith yr oedd ef ynglŷn ag ef. Addawodd roi gwybod pe digwyddai hynny.

A’r canlyniad?

Y canlyniad oedd mod i i ddechrau gweithio yn y Bala ymhen chwe mis, ar yr un penwythnos ym mis Mawrth ag roedd ‘Cyrddau Mawr’ yn cael eu cynnal yn fy nghapel. Y Parch. Ddr Gwyn WaIters oedd i fod i bregethu yn y cyrddau hynny, ond am ei fod ar ymfudo i America, roedd yn ceisio cael rhywun i gymryd y cyrddau yn ei le. Gofynnodd yn gyntaf i’r Parch. John Thomas, Sandfields, ond nid oedd yn rhydd i wneud, ac yna gofynnodd i Elwyn Davies a oedd yn digwydd bod gyda nhw ar y pryd yng nghartref John, a thrwy ragluniaeth ryfeddol roedd yn rhydd i dderbyn ac o’r herwydd yn gallu rhoi gair bach o eglurhad am y gwaith yr oeddwn yn mynd iddo, yn ystod y SuI, a bu’n gyfleus iawn i mi gael lifft ganddo i’r Bala y bore canlynol.

Cryn fenter, mae’n rhaid, oedd gadael eich cynefin a symud wedyn, i wasanaethu’r Mudiad Efengylaidd yn y Bala. Beth ydych chi’n ei gofio’n arbennig am y dyddiau cynnar ac arloesol hynny?

Cofiaf gyrraedd Frondirion, cartref Elwyn a Mair Davies a’r teulu – Alun, Gwen a Hywel, tri ohonoch chi ar y pryd – gan deimlo’n hynod o swil a dihyder. Roedd ofn arnaf ddweud gair, os rhywbeth, ond roeddwn yn ymwybodol fod rhywbeth y tu allan i mi wedi fy arwain i yno. Nid y fi rywfodd oedd yn rhoi fy ngwaith i fyny ac yn penderfynu mentro. A doedd y ffaith nad oedd fy mam yn gefnogol o gwbl, ac yn teimlo ei bod hi’n cael ei gadael ar ei phen ei hun wedi colli fy nhad, ddim yn gwneud y mentro fymryn yn haws.

Beth fu’n help ichi y pryd hwnnw?

Roedd y ffaith fod y gwaith yn wahanol yn gymorth i ymarfer ffydd, ac roedd y ffaith mod i’n cael byw gyda theulu yn help i ymgartrefu. Roeddent yn garedig tu hwnt yn agor eu cartref imi gael byw gyda nhw a chael defnyddio stydi Elwyn Davies fel swyddfa, a’i deipiadur bach, gan mor brin oedd yr adnoddau i agor swyddfa’r Mudiad am y tro cyntaf. Yna, mynd yr holl ffordd i Lerpwl un diwrnod i gael teipiadur mwy, sef yr hyn oedd yn cael ei alw’n ‘long arm’, er mwyn gallu rhoi stensiliau ar draws yn ogystal ag ar i fyny.
Roedd rhaid cael cyfeiriad yn awr ar gyfer y swyddfa, a phenderfynwyd peidio â defnyddio ‘Frondirion’ gan ein bod yn rhagweld y byddem yn gorfod cael lle mwy rywbryd. Penderfynwyd felly ar Swyddfa Mudiad Efengylaidd Cymru, Mudiad Efengylaidd Cymru, Y Bala, Meirion. Ond, ymhellach ymlaen, pan ddaeth lori yn cludo deunydd i’r swyddfa wedi ei gyfeirio at y Parch. J. Elwyn Davies, methodd y gyrrwr â dod o hyd i ni, a rhaid oedd gofyn i’r plismon, a’r ateb a gafodd oedd, ‘I know that man, but I don’t know where those big offices are!’
Yn fuan iawn roedd y stydi wedi mynd yn rhy fach, a rhaid oedd cymryd drosodd yr ystafell ffrynt hefyd, gan ein bod erbyn hynny yn cyhoeddi calendr a chardiau Nadolig yn Gymraeg am y tro cyntaf, ac roedd angen mwy o le i’w pacio. Cardiau du a gwyn oedd y rhain yn cynnwys llun o gartrefi enwogion y genedl gan Brian Higham. Wel, gellwch feddwl mod i’n falch o gael esgus i fynd â Hywel gyda mi yn y pram er mwyn gallu rhoi parseli ar y pram hefyd i’w postio. Ond, fel roedd yr archebion am gardiau yn cynyddu, gadewais Hywel gartref un diwrnod er mwyn cael mwy o le yn y pram, a gellwch ddychmygu fy embaras pan ddaeth rhywun ymlaen i ddweud helô wrth Hywel a gweld dim ond parseli!

Oes ‘na atgofion eraill yn dod i’r cof wrth feddwl am y cyfnod hapus hwnnw yn y Bala?

Pan oeddwn i yn y Bala, un prynhawn Sadwrn, fe es i am dro i Ddolgellau gyda dau o’r plant i weld Tom a Doris Williams. Gwaetha’r modd, fe gollon ni’r trên, ac fe welodd y porter y siom ar ein hwynebau. ‘Arhoswch funud’, meddai, ac aeth ar y ffôn a dod yn ôl gyda’r newydd fod y trên yn hwyr yn dod o Wrecsam, a chan ein bod yn gorfod newid trên yng Nghyffordd y Bala, milltir i ffwrdd, byddai’r trên yn dychwelyd i’n nôl ni, os oedden ni’n fodlon teithio yng nghab yr injan. Y peth nesaf welwn i oedd y trên cyfan yn dychwelyd! Ac fe ddalon ni’r trên arall mewn pryd.
Ymhen dwy flynedd, cawsom le mwy pan symudon ni i Eryl Aran, tŷ mawr ar lan y llyn lle roedd digon o le i’n swyddfa a dau deulu, sef teulu’r Parch. Elwyn Davies a theulu’r Parch. Gwilym Humphreys, o Harlech, a oedd newydd gael ei benodi i weithio rhan amser gyda’r Mudiad. Dyma’r adeg hefyd y penodwyd Betty Cooke i weithio’n wirfoddol fel swyddog hybu cyhoeddiadau’r Mudiad. Arferai fynd yn ei char o gwmpas y wlad yn hyrwyddo’r calendr a’r cardiau yn y siopau, a chawsom lawer o hwyl yng nghwmni ein gilydd.
Gan fod gennym fwy o le erbyn hyn, symudwyd gwersylloedd y bobl ifanc o Glynllifon i Eryl Aran am ddwy flynedd, ac yna pan brynwyd Bryn-y-groes, y tŷ mawr drws nesa’, sefydlwyd y gwersylloedd yno lle maent yn dal i gael eu cynnal.

A beth am y symudiad i’r De a ddilynodd ymhen rhyw bum mlynedd?

Yn fuan wedi cael Bryn-y-groes, teimlwyd y dylid ehangu’r gwaith a symud y swyddfa i’r De, a gwerthu Eryl Aran. Hwyluswyd hynny drwy gymorth dau deulu a oedd yn aelodau gyda’r Parch. John Thomas, yn Sandfields, Aberafan. Symudwyd y swyddfa i fod uwchben siop ddillad yn y stryd fawr, a symudodd Elwyn a Mair Davies a’r teulu i Gwmafan. Tua blwyddyn wedyn, yn 1964, daeth Brenda Lewis o Hengoed i weithio yn y swyddfa, a braf oedd cael ei chwmni. Fe gawsom fflat drwy garedigrwydd aelod arall o Eglwys Sandfields, a buom yn byw yno am weddill yr amser yn Port Talbot nes inni symud yn 1972 i Fryntirion ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a rhannu fflat wedyn ym Mryntirion, nes inni ein dwy ymddeol. Roedd yn amser hapus, a chefais fudd o’i chymdeithas, er dan bwysau gwaith ein dwy, yn aml. Nid anghofiwn byth, mi gredaf, yr amser y gwnaethom gyhoeddi’r argraffiad cyntaf o Christian Hymns, pan y gorfu inni archwilio pob copi i weld a oedd camgymeriadau ynddynt – roedd llawer o gopïau wedi eu hargraffu gyda’r tudalennau wedi eu drysu, ac roedd dros 20,000 wedi eu cyhoeddi! Ni fyddech yn synnu, felly, gweld pentwr o gopiau wrth ochr ein gwelyau yn y fflat, a ninnau’n mynd drwyddynt gyda’r nos! (Roedd symud i’r De hefyd yn hwyluso’r ffordd imi fyw adre ar y penwythnosau, gan fod mam yn heneiddio, ond am y pedair blynedd olaf o’i bywyd roeddwn yn teithio bob dydd. Bu farw wyth mlynedd yn ôl yn 96 oed.)
Ym Mryntirion roedd gennym le i gynnal mwy o wersylloedd i’r bobl ifanc. Gan fod niferoedd y gwersyllwyr yn cynyddu a bendith Duw yn amlwg, roedd adeilad mwy yn gymorth sylweddol.

Beth am yr holl gyhoeddiadau sydd wedi mynd drwy eich dwylo chi ac eraill yn y swyddfa?

Mae cymaint ohonyn nhw erbyn hyn, dros 200 rhwng y rhai Cymraeg a’r rhai Saesneg. Cysodi yn bennaf oedd fy ngwaith i a gosod y gwaith mewn tudalennau. Ym Mryntirion cawsom gysodydd ‘edit writer’, ac yn ddiweddarach ‘Apple Mac’ a ddaeth i hwyluso’r gwaith yn fawr yn ystod y blynyddoedd wedyn. Ynghyd â’n cyhoeddiadau yr oeddwn yn cysodi ein Cylchgrawn Cymraeg a’r un Saesneg.

A’r cynadleddau, ydi hi’n wir dweud ichi fod yn bresennol ym mhob un, yn ddi-dor, drwy’r blynyddoedd?

Ar wahân i’r ddwy gyntaf yn 1952 a 1953, ydi, mae hynny’n wir. Rwy’n cofio’r Gynhadledd Gymraeg a gafwyd ym Mryn-y-groes yn 1962: doedd y nifer ddim yn fawr, wrth gwrs. Yna, cyn gynted ag y symudon ni i Aberystwyth yn 1966, fe gododd y nifer yn raddol, ac mae tipyn yn dod erbyn hyn, a’r capel yn llawn. Rwyf hefyd wedi sylwi ar y gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn datblygu. Mynd â llyfrau ac ati i’r Eisteddfod bob blwyddyn a threfnu i gael cynorthwywyr i’n helpu. Cyfarfod pobl o un flwyddyn i’r lIall. Doedden ni ddim yn gweld llawer o ymateb yn aml, and daliwyd ati drwy law a hindda, a’r tywydd yn ein gorfodi i gau’r babell ambell waith. Erbyn heddiw mae’n braf gweld tîm o bobl ifanc yn ysgwyddo’r gwaith ar y prif faes ac yn arwain gwaith y Gorlan ym Maes B.

Rydych chi wedi ymroi drwy eich bywyd i wasanaethu gwaith y Deyrnas yng Nghymru. Yn awr, a chithau wedi ymddeol, beth yw ‘r teimladau a gewch chi wrth edrych yn ôl dros y blynyddoedd?

Fy nheimlad cyntaf yw taw braint fawr iawn oedd i mi gael gweithio i’r Mudiad, a hynny am gynifer o flynyddoedd, a gweld y gwaith yn tyfu’n raddol a sicr, ac ôl llaw Duw ar y cyfan. Yn fwy na’m gwasanaeth i i’r Mudiad, teimlaf imi dderbyn yn helaeth, ac i Dduw y bo’r diolch.

Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf