Crynodeb o anerchiad Hector Morrison, Prifathro’r Highland Theological College, i Gynhadledd Saesneg Mudiad Efengylaidd Cymru, 17 Awst 2017.
Does dim sail Feiblaidd o gwbl i gyfarch Duw fel mam, er gwaetha’r hyn a ddywed rhai diwinyddion ffeministaidd. Mae Duw y Beibl yn ei ddatguddio ei hun i ni fel Tad; dyna sut yr ydym i’w gyfarch. Serch hynny, mae Duw yn defnyddio llun geiriol – delwedd mam – i gyfleu rhywbeth o’i gymeriad er mwyn i ni ei ddeall. Ni ddylai hyn ein synnu ni. Mae dynion a merched wedi eu creu i adlewyrchu rhywbeth o gymeriad Duw gan eu bod ill dau wedi eu creu ar lun a delw Duw; mae dynion a merched yn ‘delweddu Duw’. Yn hyn o beth, mae rhai agweddau ar gymeriad Duw yn fwy amlwg mewn dynion ac eraill yn fwy amlwg mewn merched.
Yn llyfr Eseia, gwelwn ddarlun gwefreiddiol o Dduw fel yr un sy’n cysuro ei bobl:
Fel y cysurir plentyn gan ei fam byddaf fi’n eich cysuro chwi (Eseia 66:13).
Mae’r gair ‘cysur’ yn un o themâu pwysig ail ran llyfr Eseia wrth i Dduw gomisiynu ei negeswyr i fynd â chysur i’w bobl. Beth yw’r cysur hwn? Yn gyntaf, dyma gysur i’r Israeliaid, eu bod yn mynd i ddychwelyd adref o’r gaethglud, ond yn fwy na hynny dyma gysur yr efengyl – cysur iachawdwriaeth.
Ond beth yw nodweddion mamol y cysur hwn? Sut mae mam yn mynd ati i gysuro ei phlentyn? Wrth edrych ar yr hyn sy’n nodweddu cariad mam wrth iddi ddelweddu Duw, gallwn weld rhywbeth o gymeriad Duw y Tad.
1. Mae mam yn cysuro o galon sy’n llawn tosturi cynnes.
Daw’r gair Hebraeg am dosturi o’r un gwreiddyn â’r gair ‘croth’; cyfeiria un cyfieithiad at dosturi fel ‘womb-love’. Dyma’r cariad arbennig rhwng mam a phlentyn. Y groth yw byd cyfan y plentyn am naw mis, ac yna pan ddaw allan ohoni mae’r fam yn dal y plentyn yn agos, agos er mwyn iddi ofalu am y babi, ei gysuro, ei fwydo, ei ddistewi a’i amddiffyn.
Yn Eseia 49:13 gwelwn fod Duw yn cael ei gymell i weithredu tuag at ei bobl oherwydd ei drugaredd. Pan yw Duw yn gweld ei blentyn, ei bobl, ei Eglwys mewn amgylchiadau anodd, mae ei galon yn llawn tosturi – hyd yn oed pan fydd yr amgylchiadau hynny yn ganlyniad pechod. Mae Duw yn teimlo cynhesrwydd tuag atom sy’n ei gymell i weithredu; yn ei dosturi mae’n gweithredu i newid neu ysgafnhau ein trafferthion. Gorlifa gweithredoedd Duw o galon sy’n llawn tosturi.
2. Mae mam yn golchi a glanhau ei phlentyn.
Bob dydd, mae’r fam yn tynnu’r plentyn o’r llanast ych-a-fi, drewllyd, y llanast mae’r babi wedi ei greu ei hun, y llanast na all y babi ei dynnu ei hun ohono (wrth gwrs, mae’r tadau yn gwneud hyn hefyd!). Mae hi’n glanhau pob dim ac yn rhoi clwt a dillad glân – dyna ddechrau newydd.
Dyna sut mae Duw y Tad yn ein cysuro ni. Faint bynnag fo ein hoedran, mae pawb fel petai yn gwisgo clytiau – rydyn ni’n gwneud llanast newydd bob dydd, llanast pechod, ac mae Duw yn ein golchi ni wrth i ni ddod ato mewn ffydd ac edifeirwch. Yn y gwaith hwn, mae ein Tad Nefol yn fwy trylwyr nag unrhyw riant daearol. Mae’n ein glanhau nes nad oes unrhyw fudreddi ar ôl, dim byd yn cuddio ym mhlygiadau’r cnawd. Mae’r cyfan wedi mynd. Ydych chi angen eich golchi gan y Tad yng ngwaed Iesu Grist?
3. Mae mam yn canu hwiangerddi a chaneuon i’w phlentyn.
Mae yna dynerwch mawr yng ngweithred y fam wrth iddi gysuro a distewi plentyn sy’n crio. Efallai ei bod yn dal y plentyn yn agos ati, yn siglo’r plentyn yn ei chôl, yn siarad yn dyner, yn dod â heddwch – ‘ssssh, sssshhh.’ Efallai ei bod yn canu hwiangerdd i’w phlentyn i’w lonyddu. Pan yw hi’n gwneud hyn i gyd, mae hi’n gweithredu ar lun a delw Duw, y Duw sy’n canu dros ei blant:
Y mae’r ARGLWYDD dy Dduw yn dy ganol […] fe orfoledda’n llawen ynot, a’th adnewyddu yn ei gariad; llawenycha ynot â chân fel ar ddydd gŵyl (Seffaneia 3:17).
Mae Duw yn ymhyfrydu yn ei blant, yn ymhyfrydu ynoch chi. Ydych chi’n credu hynny? Bod Duw yn eich caru gymaint ag y mae’n caru ei fab, Iesu. Nid yn unig mae Duw yn gorfoleddu pan rydyn ni’n dod i gredu, ond mae e’n parhau i ymhyfrydu ynom, ac mae e’n dod atom i siarad geiriau o gysur a heddwch – Ssssh! Sssh! – i’n llonyddu.
4. Mae mam yn cysuro plentyn trwy roi bwyd iddo.
Pa mor aml mae mam yn dal ei phlentyn, yn bwydo’r plentyn, ac yn gwylio’r plentyn yn yfed ac yfed nes iddo fynd i gysgu’n braf? Dyna sydd yn Eseia 66:11; mae’r plentyn yn cael ei lenwi nes nad oes angen mwy arno. Ydych chi wedi cael y bodlonrwydd dwfn wrth i chi ddarllen y Beibl, neu ddod at eich gilydd i astudio a gwrando, wrth i’r Tad roi’r maeth cyfoethog yna a ddaw o’r efengyl? Neu os ydych chi’n Gristion ers amser, ydych chi wedi gwledda ar y pethau da sydd gan Dduw yn ei dŷ, popeth sydd ganddo yn yr oergell, fel petai?
Does dim yn diwallu ein syched fel dyfroedd Gair Duw yn llifo i’n henaid gydag afonydd yr Ysbryd Glân. Mae mam yn cysuro ei phlentyn trwy ei fwydo. Felly y gwna ein Tad nefol hefyd.
5. Mae mam yn cysuro ei phlentyn trwy groesawu’r plentyn afradlon yn ôl.
Mae yna rieni sydd wedi cael poen, siom a thorcalon wrth fagu eu plant. Beth bynnag sydd wedi digwydd, mae eu calonnau’n dyner tuag at y plentyn, a phob amser yn barod i’w groesawu’n ôl. Yn llythrennol, geiriau Eseia 66:13 yw ‘Fel y cysurir dyn gan ei fam, byddaf fi’n eich cysuro chwi’. Dydy bod yn rhiant ddim yn gorffen wrth i’r plentyn gyrraedd oedran arbennig. Mae calon mam ar dân dros ei phlant sy’n oedolion – dyma ‘gariad y groth’. Yn hyn, mae hi’n adlewyrchu cymeriad Duw. Mi fydd Duw yn derbyn ei blentyn afradlon yn ôl:
A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, neu fam blentyn ei chroth?
Fe allant hwy anghofio, ond nid anghofiaf fi di.
Edrych, rwyf wedi dy gerfio ar gledr fy nwylo […] (Eseia 49:15-16)
Dyma gysur hefyd i’r rhai sy’n dioddef o glefyd Alzheimer neu Parkinson – efallai y byddant yn colli atgofion ac ymwybyddiaeth o bawb a phopeth, ond mae angen iddyn nhw wybod: dydy iachawdwriaeth a diogelwch tragwyddol ddim yn dibynnu ar ein gallu ni i gofio Duw – na, mae’n gorffwys ar y ffaith na fydd ein Duw ni byth yn ein hanghofio ni.
6. Mae mam yn cysuro trwy sychu dagrau.
Dyna weithred mam tuag at y plentyn sy’n crio ac arno angen cysur. Hwn yw’r darlun gawn ni yn llyfr Datguddiad:
Wele, y mae preswylfa Duw gyda’r ddynoliaeth; bydd ef yn preswylio gyda hwy, byddant hwy yn bobloedd iddo ef, a bydd Duw ei hun gyda hwy, yn Dduw iddynt. Fe sych pob deigryn o’u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. (Datguddiad 21:3-4)
Mae’r Brenin ar yr orsedd. Mae e gyda’i bobl. Mae ein Duw ni yn Dduw sy’n sychu dagrau.
Mae Duw y Tad yn cofio ei blant. Os ydych yn crwydro, mae e’n barod i’ch derbyn yn ôl. Mae’r Tad yn rhedeg atoch, yn rhedeg at ei fab afradlon, ac yn ymestyn ei ddwylo i’w dderbyn. Ydyn ni’n dod at y Tad, tra bo cyfle, pan yw’n agos?