Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Pobl y Beibl – Mair

27 Tachwedd 2017 | gan Peter Davies

Mae bod yn rhiant yn fraint a chyfrifoldeb. Braint a chyfrifoldeb unigryw Mair oedd bod yn fam i Fab Duw. Hi oedd yr unig berson a fu’n bresennol gyda’r Iesu o’i eni hyd ei farw.
Newidiwyd bywyd Mair yn llwyr pan ymddangosodd yr angel Gabriel iddi. Roedd hi newydd ddyweddïo â Joseff pan ddywedodd yr angel wrthi y byddai’n beichiogi ac yn esgor ar Fab Duw. Er gwaethaf ei hofn ar ymddangosiad yr angel eto credodd ei neges (Luc 1:38).
Ymddengys fod Mair yn berson meddylgar oedd yn myfyrio uwchben yr hyn a welai ac a glywai am ei Mab (Luc 2:19 a 51). Tebygol iddi fyfyrio droeon uwchben geiriau Simeon iddi adeg cyflwyno Iesu yn y Deml – “trywenir dy enaid di gan gleddyf” (Luc 2:35). Daeth y geiriau yma’n ddirdynnol wir iddi amser y Croeshoeliad pryd gwelodd ei hannwyl Fab yn marw’n greulon ar y Groes.
Ynghylch gwaith gwaredigol Duw fe welwn ei fod ef yn cyflawni’r broffwydoliaeth am wyryf yn rhoi genedigaeth i Immanuel (Eseia 7:14). Daeth Duw ei hun yn ddyn i fod yn Waredwr cymwys i ni. Nid hala angel a wnaeth Duw ond ei Fab dwyfol i’n gwaredu o’n pechod.

Cryfderau

→ Mam Iesu’r Meseia
→ Yr unig berson a fu gyda’r Iesu o’i enedigaeth hyd ei farwolaeth
→ Parod i ufuddhau i Dduw
→ Cyfarwydd â’r Hen Destament

Gwendidau

→ Cafodd ei gorddyrchafu yn hanes yr eglwys

Gwersi

→ Gweision gorau Duw yw’r rhai sydd ar gael iddo→ Mae Duw yn cyflawni’r anghyffredin ymysg y cyffredin
→ Adlewyrchir cymeriad person yn ei h/ymateb i’r annisgwyl

Ffeithiau

→ Lleoliad: Nasareth a Bethlehem → Gwaith: Gwraig tŷ
→ Mae’r enw Mair yn golygu anwylyd
→ Perthnasau: Gŵr – Joseff; plant – Iesu, Iago, Joseff, Jwdas, Simon a merched
→ Cyfoeswyr: Sachareias ac Elisabeth

Adnodau

Mathew 1:18-25; Luc 1:26-56 a 2:1-21; Ioan 2:1-12 a 19:25-7; Actau 1:14; Datguddiad 12:1-6