Iesu da, ein gweddi clyw,
Anfonedig mynwes Duw,
Teg dywalltydd doniau lu,
Tyred eto oddi fry.
Gwisgo wnest ein natur dlawd,
I ni gael dy alw’n Frawd,
Gwared hen drueiniaid llawr
Yn dy gôl, Waredwr mawr.
Symud yr amheuon trwm,
Gwna yn rhydd ysbrydoedd llwm,
Addawedig oesoedd hir,
Amen bydd i’r henair gwir.
Crwydro’n ddall heb neb o’n tu
Wnawn bob awr mewn dryswch du,
Tyred felly, gwrando’n cwyn,
Arwain ni, ein Bugail mwyn.
Tyred, estyn atom law,
Gyrra ein pryderon draw,
Ac yng ngwawr dy ddisglair wedd,
Llonna ni, Dywysog hedd.
Ni chaiff euog rai ryddhad,
Ni chaiff cleifion ‘run iachâd,
Ni fydd cysur byth i’r gwael
Heb dy falm, ein Meddyg hael.
Nertha ein hychydig ffydd,
Datod ein hualau prudd,
Gyda Thi, pob gelyn hyf
A orchfygwn, Frenin cryf.
Hebot ni wna preseb les,
Gwag yw’r dathlu, cilia’r gwres,
Llawnder nef, gwir Fab y Dyn,
Tyred atom, Ti dy Hun.
Geraint Lloyd