Er ei magu yn y Bala a Phwllheli, mae Elin Bryn Williams bellach wedi ymgartrefu ym Mangor. Wedi cyfnod yn astudio gradd yn y Gymraeg ac yna gwneud gwaith ‘Relay’ (blwyddyn wedi’i neilltuo i wasanaethu’r Undeb Cristnogol) fe dderbyniodd swydd fel Gweithiwr Staff UCCF. Mae hi’n brysur iawn gan ei bod yn cefnogi UC Bangor, UC Cymraeg Bangor, Aberystwyth a Chaerdydd.
Sut arweiniodd Duw ti i fod yn Weithiwr Staff?
Fy mwriad ar ôl graddio oedd gwneud ymarfer dysgu uwchradd er mwyn bod yn athrawes Gymraeg, ond arweiniodd yr Arglwydd fi i ystyried rhoi blwyddyn i wasanaethu myfyrwyr. Roeddwn yn cael fy nhynnu ddwy ffordd: roedd fy nghalon gyda’r myfyrwyr a’r gwaith o rannu’r efengyl, ond ar y llaw arall roedd codi arian i ariannu’r flwyddyn yn peri pryder imi. Y cam ‘call’ oedd parhau ar hyd llwybr oedd yn sicrhau swydd, ond cam mewn ffydd fyddai gwneud gwaith Relay. Wedi gweddïo, pendroni a gofyn cyngor y canlyniad oedd gwneud gwaith Relay. Tawelodd Duw fy ngofalon ariannol cyn hyd yn oed imi ddechrau’r gwaith drwy ddarparu popeth roeddwn i ei angen.
Roeddwn i’n bwriadu gwneud cwrs ymarfer dysgu wedi hynny, ond fe ddryswyd fy nghynllun yr eilwaith wrth i amgylchiadau tîm UCCF Cymru newid. Unwaith eto roedd yr ochr ariannol yn peri pryder imi, doedd gen i ddim syniad o ble fyddai’r arian yn dod! Rhoddodd Duw heddwch imi y byddai’n darparu os mai dyma’i ewyllys. Bu Duw’n ffyddlon eto yn ei ddarpariaeth a defnyddiodd ei blant yma yng Nghymru i gefnogi’r gwaith yn hael.
Beth yw dy faich penodol dros fyfyrwyr?
Fy maich dros y myfyrwyr sy’n credu ydy eu bod nhw’n achub ary cyfle yn y Brifysgol i ddod i adnabod Duw yn well, a’u bod nhw, o adnabod Duw, eisiau mynd ati wedyn i gyflwyno Iesu i’w ffrindiau a’u cydfyfyrwyr. Fy ngobaith yw y bydd y myfyrwyr yn medru rhannu am Iesu’n hollol naturiol.
Fy maich dros y rhai nad ydynt yn credu yw eu bod yn dod i adnabod Iesu Grist, yn dod i’w adnabod O go iawn, nid fel ‘dyn da’, ‘athro da’, ‘ffigwr hanesyddol’ ond yn Waredwr personol iddynt.
Oes unrhyw beth y gall eglwysi ei ddysgu gan y myfyrwyr?
Yn yr UC mae pwyslais mawr ar efengylu ac mae’n chwa o awyr iach cael bod yn eu cwmni a gweld eu hangerdd dros y colledig. Gan eu bod yn ifanc ac yn aml yn ddibrofiad mae mwy o barodrwydd i drio ‘unrhyw beth’ er mwyn cyrraedd pobl. Efallai yn ein heglwysi ein bod yn chwarae’n saff yn aml, ddim yn barod i fynd amdani mor gyflym.
Sut gallwn ni ofalu am y myfyrwyr yn ein plith a’u hannog?
Atgoffwch nhw fod rhaid cychwyn yn y Gair ac mewn gweddi a gweddïwch hefo nhw dros y gwaith o gyrraedd eu cyd-fyfyrwyr. Dewch i’w hadnabod nhw a’u meithrin yn eu cyfnod hefo chi.
Os ydych yn sylwi nad oes dim yn digwydd i gyrraedd myfyrwyr, anogwch y myfyrwyr yn eich eglwys i gyfarfod â’i gilydd a chynnwys myfyrwyr o eglwysi eraill.
Wyt ti’n gweld Duw ar waith?
Ydw’n bendant! Mae Duw wastad ar waith, ac mae’n bwysig stopio a sylwi beth mae o’n ei wneud. Yn ystod y tymor diwethaf mae wedi bod yn fraint gweld Duw yn herio ei blant drwy ei Air a’u newid. Rwyf wedi ei weld yn cymell pobl hollol annisgwyl i ddod i glywed ei efengyl a gofyn eu cwestiynau.
Beth yw’r sialens fwyaf sy’n wynebu myfyrwyr heddiw?
Rydym fwyfwy yn ddiweddar yn byw mewn byd lle mae teimladau’r unigolyn yn arglwyddiaethu. Mae hyn yn beryglus oherwydd bod teimladau’n gallu bod yn fympwyol iawn. O ystyried hyn mae’n anodd rhesymu gyda chyfoedion a dangos iddynt fod Un sydd y tu hwnt i’w teimladau nhw ac sydd weithiau yn dweud bod eu teimladau’n anghywir. Y sialens i’r myfyrwyr yw dangos cariad wrth iddynt ymwneud â’u cyfoedion; cariad go iawn, cariad sy’n aros yn driw i Air Duw ac yn ei gyfathrebu’n wylaidd a charedig. Mae’n bosib iawn y bydd hyn y costio i sawl un.
Beth mae Duw wedi bod yn dy ddysgu yn ddiweddar?
Un o’r pethau blaenaf y mae Duw wedi bod yn ei ddysgu i mi’n ddiweddar ydy gwyleidd-dra: wrth ymwneud â phobl mae rhaid llyncu ein tafod yn aml a tydi hynny erioed wedi bod yn hawdd i mi! Yn ystod y tymor diwethaf mae Duw wedi bod yn dysgu sut y gall y tafod achosi niwed, ond drwy ei ffrwyno mae amser i weddïo a meddwl sut y gallwn ddelio â sefyllfa’n well, delio mewn ffordd sy’n adlewyrchu cariad Duw. Mae’r Arglwydd hefyd wedi dangos i mi sut mae amynedd yn ddarn pwysig iawn o gariad hefyd. Ond yn fwy na dim mae Duw wedi fy nysgu unwaith eto bod dim terfyn ar ei gariad, ac nad ydw i na neb tu hwnt i’w gariad – rhywbeth amlwg, mi wn, ond rhywbeth sydd angen i ni ei ddysgu a’i ailddysgu’n aml.
Oes gen ti adnod neu ddyfyniad i’n hannog neu’n herio?
Wrth i ni baratoi tuag at y Nadolig yma ym Mangor, fe wnaethom ni dreulio amser yn edrych ar ymateb y bugeiliaid i Iesu. Roedd yn amser gwerthfawr hefo’r myfyrwyr ac fe ddefnyddiodd Duw ei Air i’n cynhesu ni wrth i ni fynd ati i arwain myfyrwyr Bangor at y preseb. Wrth fyfyrio ar Luc 2:15-20, gwelwn fod y bugeiliaid yn:
- Ufudd – aethant i Fethlem.
- Gwahodd – mynegi’r hyn oedd wedi ei lefaru am Iesu.
- Addoli – dychwelyd dan ogoneddu a moli Duw.
O ddarllen yr hanes cawsom ein hannog a’n llonni o weld ymateb y bugeiliaid, ond hefyd ein herio i ystyried beth yw ein hymateb ni?