O! am gael ffydd i edrych
Gyda’r angylion fry
I drefn yr iachawdwriaeth,
Dirgelwch ynddi sydd;
Dwy natur mewn un Person
Yn anwahanol mwy,
Mewn purdeb heb gymysgu
Yn eu perffeithrwydd hwy.
Rydyn ni wedi canu’r geiriau droeon, ond ydyn ni’n eu deall?
Er mwyn deall geiriau’r emyn, rhaid mynd yn ôl dros fil a hanner o flynyddoedd i dref Chalcedon yn nwyrain yr Ymerodraeth Rufeinig (Twrci erbyn hyn), lle daeth pum cant o esgobion ynghyd yn y flwyddyn 451. Fodd bynnag, er mwyn deall Chalcedon, rhaid mynd yn ôl ymhellach at y Person y mae Chalcedon yn cyfeirio ato ac a ddaeth i’n byd dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Er mwyn gwneud hynny rhaid troi at dudalennau’r Testament Newydd. Yma dysgwn ddau beth am Iesu Grist, sef ei fod yn Fab Duw (Luc 1:31-5; Math. 1:22, 23; Rhuf. 1:3, 4; Marc 1:1) a’i fod hefyd yn ddyn, yn gnawd (Ioan 1:14; 1 Tim. 3:16). A’r cwestiwn oesol yw: beth yn union oedd y berthynas rhwng y ddau wirionedd hwn? Adeg y Testament Newydd roedd amheuon a oedd Iesu Grist yn ddyn go iawn (I Ioan 4:2, 3). Yn hwyrach, byddai rhai’n honni bod Iesu Grist yn llai o Dduw na’r Tad. Atebwyd yr honiadau newydd hyn yng Nghyngor Nicaea yn 325, ar ôl ystyried tystiolaeth y Beibl, lle cyhoeddwyd Duwdod llawn Iesu Grist. Ond parhau a wnaeth y dadlau. Roedd dau safbwynt gwrthwynebus wedi datblygu erbyn y bumed ganrif.
Eglwys Alexandria: Iesu Grist yn un Person – pwysleisio’r Duwdod ar draul y dyndod
Roedd y pwyslais cryf ar dduwdod Iesu Grist yn niwinyddiaeth Athanasiws (c. 296-373) ac yn eglwys Alexandria wedi gwneud i rai esgeuluso dyndod Iesu. I’r rhain, pan ddaeth Mab Duw yn ddyn cafodd ei natur ddynol ei dwyfoli ar ryw ystyr. Gwadodd Apolinariws, un o ddisgyblion Athanasiws, fod gan Iesu enaid dynol: cymerodd Mab Duw gorff dynol a’i fywhau a’i drawsnewid trwy ei allu dwyfol. Yn hwyrach, awgrymodd Ewtyches i natur ddynol Iesu Grist gael ei thrawsnewid trwy’r ymgnawdoliad nes iddi droi’n natur hollol unigryw a oedd yn gyfuniad o’r dwyfol a’r dynol.
Os teimlwn ni nad yw Iesu Grist yn cydymdeimlo â ni ac nad yw’n agos atom, efallai fod ôl y safbwynt hwn arnom heb yn wybod i ni. Fodd bynnag, nid hwn yw’r darlun a gawn yn yr Efengylau, lle gwelir Iesu’n newynu, yn blino, yn sychedu, yn wylo, yn tyfu ac yn cael ei demtio (Luc 4:2; Ioan 4:6, 7; Ioan 11:35; Luc 2:40, 52; Math 4:1).
Eglwys Antiochia: Iesu Grist ddwy natur – pwysleisio’r dyndod ar draul y Duwdod
Mewn adwaith i orbwyslais Alexandria ar dduwdod Crist, ceisiodd eglwys Antiochia roi pwyslais cyfatebol ar ddyndod llawn Iesu Grist, safbwynt a ddaeth yn gysylltiedig ag enw Nestoriws (c. 386-450). Un ffordd o wneud hyn oedd dweud taw cyfuniad o berson dwyfol a pherson dynol a ddaeth ynghyd adeg yr ymgnawdoliad yw Iesu Grist.
Problem y dehongliad hwn yw ei fod yn gwneud cam â dwyfoldeb Iesu Grist trwy awgrymu mai un rhan i Iesu Grist yw ei Dduwdod y gellid ei gymharu â’i ddyndod.
Datblygiad ar y safbwynt hwn, mewn gwirionedd, yw’r syniadau modern am Iesu Grist, sy’n dysgu mai elfen o gymeriad Iesu Grist, rhyw ysbrydolrwydd arbennig er enghraifft, yw ei ‘ddwyfoldeb’. Hyd yn oed os gwrthodwn ni’r ddiwinyddiaeth hon, gallwn fynd i feddwl bod ein trafferthion yn ormod i Iesu Grist, ac na all ein gwaredu oddi wrth ein holl bechodau, na’n cadw hyd y diwedd, na’n cynnal o dan wasgfeuon bywyd. Os felly, ydyn ni’n llawer gwell?
Roedd credo Nicaea eisoes wedi datgan bod Iesu yn wir Dduw ac o’r herwydd yn berson tragwyddol heb na dechrau na diwedd. Roedd yn bod cyn ei eni. Daeth yn gnawd ond ni ddaeth i fod adeg ei genhedlu (Ioan 1:1, 14). Fel y dangosir yn aml yn y carolau plygain, roedd y baban yng nghol Mair yn wir Dduw:
Edrychwn o’n hamgylch, pwy
greodd y rhain
– Haul, lloer, sêr, a daear, sy’n
gwenu mor gain?
Chwyrnellant trwy’r gwagle yng
nghrog wrth ei Air,
Ac yntau yn pwyso ar
fynwes fwyn Mair.
Un person ac nid dau a geir yn y Beibl. Nid yw Iesu yn dweud ‘ni’ wrth sôn amdano ei hun: ‘Cyn bod Abraham yr wyf fi’, ‘Myfi yw bara’r bywyd’. Iesu yw’r Gair tragwyddol sy’n dod yn gnawd.
Sylweddoliad Chalcedon: Iesu Grist yn un Person a dwy natur – gwir Dduw a gwir ddyn
Bu cryn ymrafael rhwng y ddwy ochr, a hyd yn oed golli gwaed, yn rhannol am fod y naill blaid a’r llall yn gallu dyfynnu adnodau o’r Beibl. Yng Nghyngor Chalcedon, dangoswyd bod y ddwy ochr yn gywir… yn rhannol: roedd y Beibl yn datguddio’r ddau wirionedd. Nid cyfuniad o ddau beth oedd Iesu Grist, ond Person dwyfol a gymerodd natur ddynol. Felly roedd ganddo natur ddwyfol a natur ddynol gyda phriodoleddau dwyfol (e.e. hollwybodaeth, hollbresenoldeb, tragwyddoldeb) a dynol (corff, teimladau, anghenion, meidroldeb). Ar yr un pryd, roedd yn Dduw ac yn ddyn mewn un Person. Cyhoeddir hyn ym mhrif ddatganiad Cyngor Chalcedon:
… dysgwn i ddynion gyffesu yn un Mab, ein Harglwydd Iesu Grist, yn gyflawn ei Dduwdod a hefyd yn gyflawn ei ddyndod; gwir Dduw a gwir ddyn, o enaid rhesymol a chorff; o’r un sylwedd â’r Tad o ran ei Dduwdod, ac o’r un sylwedd â ninnau o ran ei ddyndod; ym mhob peth yn debyg i ni heb bechod; wedi ei genhedlu gan y Tad cyn yr oesoedd yn ôl ei Dduwdod, ac yn y dyddiau diwethaf hyn, er ein mwyn ni ac er mwyn ein hiachawdwriaeth, wedi ei eni o’r Forwyn Fair … yn ôl ei ddyndod; yn un a gwir Grist, Mab, Arglwydd, uniganedig, mewn dwy natur, heb gymysgu [safbwynt Antiochia], yn ddigyfnewid, yn anwahanol [safbwynt Alexandria] … heb ei hollti na’i rannu’n ddau berson, ond yn un Mab, ac yn uniganedig, Duw y Gair, yr Arglwydd Iesu Grist …
I fwynhau holl gysur y Nadolig, mae angen cofleidio popeth y mae Duw wedi ei roi i ni. Nid hanner Iesu, nid rhan o’r Beibl; mae eisiau’r cyfan. Rhaid wrth un sy’n fwy na ni, yn Dduw ac yn ddyn ‘heb gymysgu’ sy’n gallu dod atom yn ein gwendid. Ond rhaid yn ogystal wrth un sydd hefyd wedi dod yn un â ni, yn Dduw ac yn ddyn yn ‘anwahanol’, a hynny yng ngeiriau Chalcedon ar sail y Beibl, ‘er ein mwyn ni ac er mwyn ein hiachawdwriaeth’. Mae wedi dod atom lle rydym, ond trwy ei eni, ei fywyd ei farwolaeth a’i atgyfodiad, cawn ninnau ein dwyn at Dduw.