Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Goleuo Cyfnod Tywyll: Beth oedd cyn y Diwygiad Protestannaidd?

27 Tachwedd 2017 | gan Rhun Emlyn

Diffeithwch ysbrydol? Oes amherthnasol? Cyfnod o dywyllwch cyn toriad gwawr Protestaniaeth? Ai dyma oedd y canrifoedd cyn Martin Luther? Fel Cristnogion efengylaidd rydym ni’n ystyried canrifoedd cyntaf Cristnogaeth a’r 500 mlynedd diwethaf fel penodau yn hanes yr Eglwys ond yn ei chael yn hawdd anwybyddu’r Oesoedd Canol hynny rhwng ‘Oes y Seintiau’ a’r Diwygiad Protestannaidd. Prin iawn y gallwn enwi arwyr ffydd o’r cyfnod hwn. Mae fel petai hanes yr Eglwys wedi dod i ben rai canrifoedd ynghynt ac ailgychwyn gyda Martin Luther.

Rydym newydd ddathlu pumcanmlwyddiant y Diwygiad Protestannaidd; diwygiad ysgytwol a ddaeth â phobl i ailgydio yng ngwirioneddau sylfaenol y ffydd mewn cyfnod pan oeddynt wedi eu cymylu mewn traddodiad a defod eglwysig. Ond pan ddaw newid crefyddol mawr gellir gorbwysleisio tywyllwch y cyfnod cynt. Dyma ddisgrifiad William Williams o sefyllfa ysbrydol Cymru cyn pregethu Howel Harris:

Pan oedd Cymru gynt yn gorwedd
Mewn rhyw dywyll, farwol hun,
Heb na Phresbyter na ‘Ffeiriad,
Nac un Esgob ar ddihun.

Roedd gwendidau yn yr Eglwys yng Nghymru cyn Methodistiaeth – ond dyma Gymru Griffith Jones Llanddowror, y Ficer Prichard a’r Piwritaniaid! Yn yr un modd, roedd problemau mawr gyda rhai o’r syniadau oedd yn drwm eu dylanwad ar grefydd cyn y Diwygiad Protestannaidd. Roedd y rhain yn cynnwys:
• gweddïo ar Mair a’r seintiau;
• y gred bod seremonïau’r Eglwys a gwneud penyd yn bwysig er mwyn iachawdwriaeth;
• dibyniaeth ar ffynonellau awdurdod eraill yn hytrach na’r Beibl yn unig;
• diffyg ysbrydolrwydd rhai clerigwyr;
• cyswllt problematig rhwng yr Eglwys a phŵer.

Rhestr hir a difrifol! Mae’r gwendidau yma mor amlwg nes eu bod yn lliwio ein darlun o’r cyfnod. A oedd y diafol wedi gorchfygu Eglwys Crist ar y ddaear am fil o flynyddoedd? A oedd yr Ysbryd Glân wedi rhoi heibio ddeffro eneidiau? Mae Crist yn addo bod gyda’i bobl ‘yn wastad hyd ddiwedd amser’ (Math. 28:20) ac na fydd y diafol yn gorchfygu’r Eglwys (Math. 16:18). Roedd Duw ar waith yn achub credinwyr yn yr Oesoedd Canol, fel mewn unrhyw gyfnod arall, ac mae gan Dduw ei ‘weddill ffyddlon’ ymhob cenhedlaeth, fel yr oedd yn wir hyd yn oed yng nghyfnod anodd Elias (1 Bren. 19:18).

Herio’r Drefn

Dim ond i ni edrych, gallwn weld nifer o fudiadau yn yr Oesoedd Canol oedd yn arddel syniadau tebyg i syniadau’r Protestaniaid; syniadau y buasem ni’n llawer mwy cyfforddus â hwy. Dyma fudiadau a heriodd drefn grefyddol eu dydd, ac o ganlyniad cawsant eu herlid a’u halltudio o’r Eglwys. Yr hyn oedd ganddynt yn gyffredin oedd pwyslais ar awdurdod y Beibl, yr awydd i gyfieithu’r Beibl i ieithoedd oedd yn ddealladwy gan y bobl gyffredin a gwrthod elfennau anfeiblaidd yr Eglwys Gatholig, fel cyfraniad seremonïau’r Eglwys at iachawdwriaeth.
Roeddent yn cynnwys:
• y Waldensiaid yn Ffrainc, yr Eidal, Sbaen a’r Almaen, sef disgyblion Valdes o Lyon a gafodd dröedigaeth yn y 1170au;
• John Wyclif a’r Lolardiaid yn Lloegr o’r 1370au;
• yr Hussiaid yng Ngweriniaeth Tsiec, sef disgyblion Jan Huss, a ddienyddiwyd am ei gredoau ym 1415.

Cafodd syniadau Wyclif rywfaint o ddylanwad ar Gymru ac fe wyddom am un Cymro a gytunai ag ef.
Swydd Henffordd oedd cartref Gwallter Brut ond fe’i hystyriai ei hun yn Gymro. Wedi cyfnod yn pregethu o amgylch ardal y ffin rhwng Cymru a Lloegr ymddangosodd gerbron esgob Henffordd ym 1393, ac yno rhoddodd ddatganiad clir o’i ddaliadau. Mae’n amlwg mai’r hyn a ddywed y Beibl oedd yn bwysig iddo a’i fod yn herio arferion crefyddol ei oes yng ngoleuni hyn. Dadleuai mai trwy ffydd yn unig y câi pechaduriaid eu hachub, mai marwolaeth Crist oedd unig sail iachawdwriaeth, a hyn yn unig trwy ras Duw. Crist oedd yng nghanol popeth a gredai. Dienyddiwyd Gwallter Brut tua 1402 – ond am ei gefnogaeth i Wrthryfel Glyndŵr, nid am ei ddaliadau crefyddol.
Mae’n glir fod tynfa o fewn nifer yn yr Oesoedd Canol yn erbyn rhai o’r syniadau dylanwadol yng nghrefydd eu dydd a’u bod yn ceisio dychwelyd at gred Feiblaidd.

‘Nid oes iawn gyfaill ond Un’

Rhaid cyfaddef mai ymylol iawn oedd y mudiadau hyn a geisiai herio’r drefn. Beth am y Catholigion ffyddlon, didwyll oedd yn rhan o’r sefydliad eglwysig? Roedd rhai syniadau crefyddol poblogaidd yn amheus iawn, ond roedd amrywiaeth barn am y rhain o fewn y traddodiad Catholig hyd yn oed. Roeddent yn credu rhai pethau y buasem ni yn y traddodiad efengylaidd yn eu gweld yn anghywir, ond diolch i Dduw nad yw ein hiachawdwriaeth yn dibynnu ar ein dealltwriaeth ddiwinyddol!
Nodweddwyd nifer o ffigyrau blaenllaw Cristnogaeth yr Oesoedd Canol gan eu cariad at Dduw, eu rhyfeddod at berson a gwaith Crist, eu profiad personol o Dduw a’u baich dros achub eneidiau. Roedd gan Bernard o Clairvaux (1090-1153) ffydd a chariad amlwg at Grist. Galwodd Hildegard o Bingen (1098-1179) ar ei chenhedlaeth i edifarhau a chael iachawdwriaeth yng Nghrist.
Cychwynnwyd mudiadau, fel urddau’r Ffransisgiaid a’r Dominiciaid, oedd â’u bryd ar genhadu a sicrhau bod y boblogaeth yn deall y ffydd ac yn magu ffydd bersonol. Crist oedd popeth i ‘gyfrinwyr’ diwedd yr Oesoedd Canol, fel Thomas à Kempis (1380-1471), a bwysleisiai fod modd i bob crediniwr ddod yn uniongyrchol at Dduw. Dim rhyfedd ein bod ni’n dal i ganu emynau o’r cyfnod yn ein capeli a’n heglwysi heddiw, megis ‘Pêr fydd dy gofio, Iesu da’ (a briodolir i Bernard o Clairvaux) a’r emyn Gwyddelig ‘Bydd yn welediad’ sydd wedi dod yn gynyddol boblogaidd yn ddiweddar.

Yng Nghymru’r cyfnod cyfansoddwyd nifer o gerddi crefyddol a nodweddwyd gan fyfyrdod ar fawredd Duw, edifeirwch am bechod a dibyniaeth lwyr ar ras a thrugaredd Duw er iachawdwriaeth. Ni allwn ddweud ymhob achos ai cyfansoddi oherwydd confensiwn neu fynegi addoliad go iawn oedd y bardd, ond mae’n amlwg fod moliant, mewn rhai achosion o leiaf, yn deillio o brofiad real o Dduw, fel yn achos Llywarch ap Llywelyn (tua 1180-1220) sy’n cyfarch ‘Iesu annwyl … daethost i mewn i’m bywyd’. Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol roedd sawl bardd a ddefnyddiai ei gerddi er mwyn cenhadu i’w gyd-Gymry. Yr amlycaf ohonynt oedd Siôn Cent (tua 1400-30) a brofodd dröedigaeth a’i ysgogodd i apelio yn angerddol ar y Cymry i edifarhau a chredu:
Rhaid i bawb, cyn rhodio bedd
Coelio’i Dduw, rhag gwael ddiwedd.
Llawenhâi Siôn yn naioni a thugaredd Duw; iddo ef ‘Nid oes iawn gyfaill ond Un’.

Diwygio, nid Ailsefydlu!

‘Eglwys eang’ oedd byd crefyddol yr Oesoedd Canol. Roedd yn cynnwys academyddion a wadai hanfodion y ffydd, clerigwyr oedd yn fwy o wleidyddion na bugeiliaid ac unigolion oedd yn Gatholig mewn enw yn unig. Roedd hefyd yn cynnwys pregethwyr ac awduron oedd â’u bryd ar geisio’r gwir ac unigolion oedd â chariad gwirioneddol at Grist a ffydd achubol ynddo. Sefyllfa nid annhebyg i unrhyw oes, felly! Roedd Martin Luther yn rhan o’r traddodiad hwn; ymosodiad ar y gwaethaf o’r ddiwinyddiaeth academaidd oedd yn ffasiynol erbyn diwedd yr Oesoedd Canol ydoedd yn y bôn, gan ganmol unigolion eraill o’r cyfnod megis Bernard a’r cyfrinwyr. Fel yr awgryma’r enw ‘Diwygiad Protestannaidd’, diwygio’r Eglwys oedd ei fwriad nid ei hailsefydlu. Y tro nesaf y byddwch yn ystyried rhai o arwyr y ffydd beth am i chi, fel Luther, gynnwys rhai o’n brodyr a’n chwiorydd o’r Oesoedd Canol?

Wrth i’r Nadolig agosáu, beth gwell na gorffen trwy ddyfynnu cerdd gan y brawd Ffransisgaidd Madog ap Gwallter, yn ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg, wrth iddo fynegi rhyfeddod at berson Crist a’r ymgnawdoliad mewn ffordd ddigon tebyg i’r carolau plygain diweddarach:

Mab a’n rhodded, Mab mad* aned dan ei freintiau, *ffodus
Mab gogoned, Mab i’n gwared, y Mab gorau,
Mab fam forwyn, grefydd addfwyn, aeddfed eiriau,
Heb gnawdol dad, hwn yw’r Mab rhad*, rhoddiad rhadau**. *grasol **bendithion
Doeth ystyriwn a rhyfeddwn rhyfeddodau!
Dim rhyfeddach ni bydd bellach, ni bwyll enau:
Duw a’n dyfu*, dyn yn crëu creaduriau, *a ddaeth atom
Yn Dduw, yn ddyn, a’r Duw yn ddyn yn un ddoniau.
Cawr mawr bychan, Cryf cadarn gwan, gwynion ruddiau,
Cyfoethog tlawd, a’n Tad a’n Brawd, awdur brodiau*: *barnedigaethau
Iesu yw hwn a dderbyniwn yn ben rhiau*, *brenhinoedd
Isel uchel, Emanuel, mêl meddyliau.