Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.
Geiriau Bywyd – Myfyrdodau ar ddetholiadau o eiriau ac ymadroddion y Beibl.
gan Iwan Rhys Jones.
110tud.
Clawr Meddal.
RRP £7.99
ISBN 978-1-85049-253-5
Gwyn ei fyd;
Gras;
Edifeirwch;
Dydd yr Arglwydd
– geiriau ac ymadroddion cyfarwydd o’r Beibl yw’r rhain i gyd, ond ydyn ni’n gwerthfawrogi eu hystyr?
Mae’r gyfrol fach hon yn cynnig esboniadau clir a syml o ystyron ac arwyddocâd dros hanner cant o eiriau ac ymadroddion o’r Beibl. Gyda darlleniad priodol i gysylltu â phob gair neu ymadrodd, dau emyn, a gweddi bwrpasol, gellir defnyddio’r gyfrol ar gyfer defosiwn personol neu hyd yn oed i gynnal oedfa neu wasanaeth syml.
Mae Iwan Rhys Jones yn hanu o Gaerdydd ond yn byw bellach ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle mae’n ddarlithydd
Hebraeg yng Ngholeg Diwinyddol Union. Ymhlith ei gyhoeddiadau diweddar mae esboniad ar lyfrau Joel ac
Obadeia (Joel & Obadiah: Disaster and Deliverance). Mae’n briod â Julie ac mae ganddynt ddau o blant ac un ŵyr.