Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Emyn Gwrthgiliwr

27 Tachwedd 2017 | gan Alwyn Pritchard

Tybed a ydych yn adnabod rhywun a oedd unwaith yn gynnes yn y ffydd, ond sydd bellach wedi cefnu ar ei broffes? A ydych yn y cyflwr hwnnw eich hun? Gadewch i mi roi gair o brofiad a fydd, gobeithio, yn cynnig cysur a gobaith. Rydw i wedi gweld yn fy mywyd fy hun wirionedd geiriau’r Arglwydd Iesu Grist: ‘ni chyfrgollant byth ac ni ddwg neb hwynt allan o’m llaw i.‘

Profais dröedigaeth yn ifanc iawn, deuthum i’r bywyd tra oeddwn yn y coleg; ond gwrthgiliais am flynyddoedd lawer nes i mi ddod ar draws dyn o’r enw Edryd Gwyndaf (tynnu am ddeugain mlynedd yn ôl) sydd wedi bod yn gyfaill oes i mi ers y dydd hwnnw. Ni wrthgiliais i fan lle’r oeddwn yn gwadu’r ffydd, ond daeth llwyddiant bydol i’m rhan a balchder yn ei sgil, mae’n siŵr. Roeddwn yn bencampwr Cymru yn un o’r campau Olympaidd am flynyddoedd yn y saithdegau. Gorfu i mi ‘ymddeol’ yn ifanc oherwydd anaf i’r cefn (trefn Rhagluniaeth) a deuthum adref i Lŷn o Loegr bell. Nid yn unig dychwelyd i’m gwlad a’m bro fy hun, ond dychwelyd yn ysbrydol hefyd drwy’r cyfrwng a baratôdd Duw i mi cyn seiliad y byd.

Dechreuais drafod yr efengyl yng nghwmni Edryd, a darganfûm yn syth ei fod yn grediniwr. Gofynnodd a fuaswn yn hoffi gweddïo ac atebais innau y buaswn. Gan fy mod i’n swil o weddïo yn uchel y noson honno, Edryd a weddïodd a minnau yn gwrando.

A dweud y gwir, yr oeddwn yn llawn dagrau ac mewn ffasiwn orfoledd fod y Duw mawr yn fy arwain yn ôl i’r gorlan fel na fedrwn ddweud dim ond gofyn i Edryd ‘gweddïa eto, paid â stopio!’ Nid oeddwn eisiau gweld taw ar y gweddïo. Cyfeiriai Dr Martyn Lloyd-Jones at yr Ysbryd Glân fel yr ‘hound dog of heaven’. Mae’n ddweud rhyfedd, ond os ydym wedi gweld bytheiaid ar waith, nid ydynt yn ildio. Felly’r Ysbryd Glân, mae’n siŵr o’n harwain ni yn ôl i’r gorlan glyd rhyw bryd, os profasom bwerau’r byd a ddaw a chael unwaith ein golchi yn y gwaed.
Daw gweddill fy nhystiolaeth ar ffurf emyn – Dyma fo:

Mynnais wlad

Mynnais wlad yn bell o olwg
Tiroedd ffrwythlon tŷ fy Nhad;
Yno roedd, fy ffrindiau’n ffyddlon,
nes im brofi’n llwyr eu brad.
Pechod aflan, do fe’m gyrrodd
‘Nes a nes at gibau’r moch,
Ond dy Ysbryd a’m gwaredodd
O dynfa gref y byd mawr croch

Adref, adref, rhedais innau,
Gyda dagrau lawr fy ngrudd;
Pa fath benyd, pa fath gerydd,
Mofyn bara – minnau’n brudd?
Och, mi gefais y fath groeso,
Dod i’m cwfwr oedd fy Nhad,
Fe’m cofleidiodd a’m cusanodd
Gyda’i gariad, llawn boddhad.

Ger dy fron, yr wyf edifar
Nid wy’n haeddu dim, fy Nhad,
Cymer fi fel un gwas cyflog
Fel fy mod ar dir dy stad.
Canodd nefoedd, canodd daear,
Canodd engyl teg eu gwedd,
Pan ddychwelwyd fi i’r gorlan
Drefnodd Iesu’r aberth hedd.

Dygaist im y wisg wen orau
Pan ddois adref i fy ngwlad;
Cefais fodrwy, ‘rwyf etifedd
Holl drysorau tŷ fy Nhad.
Gwnest fi’n hardd gerbron dy orsedd
Mae’r esgidiau am fy nhraed,
Gwleddais ar y llo pasgedig
Ac fe’m golchwyd yn y gwaed.

Adnodd diwethaf