Un o’r diwygiadau lleol mwyaf grymus o’r llu o ddiwygiadau lleol a ddigwyddodd rhwng 1735 ac 1859 a rhwng 1859 a 1904 oedd ‘Diwygiad Beddgelert.’ Dechreuodd mewn oedfa yng nghegin Hafod Llan, Nantgwynant ar 17 Awst 1817 a hynny o ganlyniad i weddïau taer nifer o gredinwyr lleol a hiraethai am y bendithion nefol a oedd wedi’u profi yng Nghapel y Nant, Llŷn, yn ystod misoedd y gaeaf blaenorol.
Yn ei Drych yr Amseroedd a gyhoeddwyd yn ystod cyfnod olaf diwygiad Beddgelert, fe ddywedodd Robert Jones Rhos-lan am y fendith a welwyd ym Meddgelert:
‘Nid oes neb yn cofio gweled yn un man arddeliad mwy grymus ar foddion gras nag a fu yn yr ardal hon, a llawer iawn o fannau eraill. Yr oedd yr argyhoeddiad yn fwy nerthol yn deffroi’r gydwybod, yn dwysbigo’r galon, a’r tywalltiadau o orfoledd yr iachawdwriaeth yn fwy grymus nag y gwelwyd ef mewn rhai diwygiadau o’r blaen’. 1
Roedd yr oedfa honno yn Hafod Llan yn un ryfeddol. Ymddengys nad oedd y gynulleidfa, na’r pregethwr wedi profi diwygiad yn eu bywyd. Gŵr ffyddlon i’r efengyl a Christion didwyll a chywir oedd Richard Williams Brynengan, Eifionydd – y gŵr a wahoddwyd yno i bregethu’r noson honno – ond nid oedd yn cael ei gyfrif ymhlith y rheng flaenaf o bregethwyr y cyfnod. Gwelodd yr Arglwydd yn dda i ddefnyddio’r gŵr cyffredin hwn i ledaenu ei deyrnas ac fe draddododd Richard Williams ei bregeth y noson honno gydag arddeliad anghyffredin iawn.
Yr hyn a nodweddai’r oedfa oedd ymwybyddiaeth y credinwyr o bresenoldeb real yr Ysbryd Glân a pherthnasedd y Gair a bregethwyd i’w anghenion personol hwy yn ogystal â chyflwr ysbrydol enbydus y gymdogaeth. Methwyd â chanu’r emyn yn dilyn y bregeth a gadawodd y gynulleidfa y tŷ a mynd tua thre mewn distawrwydd llethol. Ymhen amser, nododd Richard Williams nad oedd ef yn cofio traddodi’r bregeth, ond yn hytrach fe gofiai destun y bregeth fel pe bai Duw ei hun yn siarad ag ef yn bersonol drwy ei bregeth ei hun. Yn sicr, dyna’r noson y dechreuodd y diwygiad yn ardal Beddgelert
Wrth gymharu effeithiau diwygiad Beddgelert â diwygiadau eraill awgryma Edward Thomas mai hwn yw’r diwygiad a gafodd y mwyaf o ddylanwad ar ogledd Cymru. Mae’n osodiad herfeiddiol iawn wrth ystyried dylanwad diwygiad mawr y ddeunawfed ganrif.
Beth oedd yn arbennig ynghylch y diwygiad hwn? Roedd ei ddylanwad, yn ôl R. Tudur Jones, yn sylweddol iawn yn nhermau efengylu, sefydlu eglwysi newydd a niferoedd y dynion ifanc a ddaeth i’r bywyd, ac wedyn eu galw i’r weinidogaeth Gristnogol.2 Roedd pregethwyr ac arweinwyr eglwysig a ddaeth ymhlith rhai mwyaf grymus y bedwaredd ganrif ar bymtheg, megis John Jones Tal-sarn a Cadwaladr Owen, ymhlith dychweledigion diwygiad Beddgelert. Daeth John Jones i’r bywyd wrth i’r diwygiad ymledu i Ddolwyddelen. Mae R Tudur Jones hefyd yn pwysleisio effeithiau diwylliannol, moesol a chymdeithasol y diwygiad gan awgrymu ei fod wedi ysgogi deffroad llenyddol a diwylliannol gan arwain at sefydlu nifer o gymdeithasau Cymraeg ac eisteddfodau o gwmpas 1822.
Sut y dylem gofio diwygiad?
Mewn pregeth a draddodwyd gan Dr Martyn Lloyd-Jones yn Chwefror 1959 i nodi canmlwyddiant diwygiad grymus 1859, fe atgoffwyd cynulleidfa Westminster Chapel o ddyletswydd y Cristion i beidio ag esgeuluso hanes y gorffennol, yn enwedig hanes yr hyn a wnaeth yr Arglwydd er eu lles – a lles y genedl maen nhw’n perthyn iddi – ar hyd yr oesoedd. Dangosodd sut y bu i Dduw orchymyn cenedl Israel i godi cerrig – wedi iddynt groesi’r Iorddonen a’r Môr Coch er enghraifft – a fyddai’n atgoffa eu disgynyddion o’r ffordd yr oedd yr Arglwydd wedi’u cynorthwyo yn ystod eu hanes.
Nid oes gennym yng Nghymru golofnau cerrig, hyd y gwyddom, sy’n ein hatgoffa o drugaredd a chariad Duw yn ei ymwneud â ni fel gwlad ar hyd y canrifoedd. Serch hynny, y mae gennym gapeli ac adeiladau ynghyd â thystiolaeth ddogfennol sy’n ein hatgoffa’n feunyddiol o drugaredd a chariad Duw yn ei ymwneud â ni fel pobl.
Anogodd Dr Martyn ei gynulleidfa i ddarllen am hanes diwygiadau gan geisio dysgu gwersi ymarferol ganddynt. Gwelai ef y llu o weithgareddau eglwysig i ddathlu cerrig milltir yn hanes yr eglwys, a’r dystiolaeth sydd ar gael mewn print – mewn llyfrau, llythyrau, dyddiaduron a chofiannau – yn dystiolaeth ddigamsyniol o fendith Duw ar ei bobl. Nid oes angen codi colofnau cerrig, meddai ef, i’n hatgoffa o weithredoedd mawr Duw.
Fel yn achos Diwygiad 1859 felly, gan nad ydym yn bobl sy’n tueddu i godi cerrig i’n hatgoffa o fendithion Duw, a oes peryg felly fod y dystiolaeth honno wedi’i cholli?
Olion y Diwygiad
Mae casgliadau eang ac amrywiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, er enghraifft, yn ffynhonnell gwybodaeth anhepgorol i’r sawl sy’n chwilio am dystiolaeth o waith Duw yn ein plith ar hyd y canrifoedd. Wrth i genedl y Cymry anghofio llawer peth – ac wrth i Gristnogion Cymru fethu â dwyn i gof fawr bethau a wnaeth Duw yma ar dir Cymru ar hyd y canrifoedd ers dyfodiad Cristnogaeth i’n gwlad – ni ellid pwysleisio digon bwysigrwydd y trysorau dogfennol sy’n haeddu cael eu darllen a’u hastudio er mwyn medru dirnad yn well effeithiau bendithion Duw ar Gymru.
Mae rhaglenni digido’r Llyfrgell Genedlaethol, megis ‘Cylchgronau Cymru Ar-lein’ a ‘Papurau newydd Cymru Ar-lein,’ yn golygu bod yr wybodaeth yn awr yn hawdd ei chyrraedd. Mae’r ddwy ffynhonnell yma yn stôr o wybodaeth amhrisiadwy am ddiwygiadau’r gorffennol, gan gynnwys cofnodion prin am ddiwygiad Beddgelert. Mae yna lu o adroddiadau papurau newydd lleol a chenedlaethol sy’n rhoi manylion llawn a diddorol am oedfaon a chyfarfodydd diwygiad 1904 – a’r cyfan i’w gweld ar y we heb orfod teithio i Aberystwyth i’w gweld.
Canu nefolaidd
Dychwelwn at Robert Jones Rhos-lan a’r ‘tywalltiadau o orfoledd’ a gyfeirir atynt yn Drych yr Amseroedd. Heb os, un o nodweddion y diwygiad hwn oedd sut y bu i’r bobl gymryd eu pechod o ddifrif a sylweddoli eu cyflwr enbydus gerbron Duw. Daeth Duw i blith pobl, ac esgorodd ei bresenoldeb ar wyleidd-dra ysbrydol dwys, argyhoeddiad dwfn o bechod ac ymhyfrydu ym Mherson y Crist croeshoeliedig.
Nid oes rhyfedd felly fod sawl tyst i’r diwygiad, gan gynnwys Robert Jones, wedi disgrifio arwyddion allanol y tröedigaethau fel ‘tywylltiadau o orfoledd.’ Yn aml roedd y pregethwr yn methu â gorffen ei bregeth oherwydd griddfannau galar y di-gred, a gorfoledd a llawenydd y sawl a ddaeth i’r bywyd, Ac yna ar noswyl y Nadolig 1817, mewn oedfa yng nghapel bach Nantmor ger Beddgelert, y clywyd am y tro cyntaf y ‘canu nefolaidd’ neu’r ‘canu yn yr awyr’. Bu’r canu yn nodwedd y diwygiad am gyfnod hir a bu’n destun rhyfeddod i filoedd. Heb os, dyna un o ryfeddodau diwygiad Beddgelert, a dyma ddisgrifiad John Hughes ohono:
Sŵn mil a myrddiwn, myrddiwn melys yn canu – nid alaw y medrid ei hadnabod, ond – cytgord o’r math mwyaf ardderchog, nad sydd wedi ei glywed erioed o’r blaen. Bu’r canu yn achos gwreiddio dynion i’r llawr lle’r oeddent yn sefyll, gan eu gorlethu’n llwyr. 3
- 1 Robert Jones, Drych yr Amseroedd, (1820), t. 125
2 R. Tudur Jones, Grym y Gair a Fflam y Ffydd: Ysgrifau ar Hanes Crefydd yng Nghymru, gol. D. Densil Morgan (Prifysgol Cymru, Bangor, 1998), t. 297
3 Methodistiaeth Cymru, cyfrol 1, tt. 270-1