Lowri Emlyn sy’n holi pobl am eu hoff garol!
Wrth fyfyrio ar natur a gweithredoedd Duw, mae’r Salmydd yn ymateb trwy ddatgan, ‘canaf i’r ARGLWYDD tra byddaf byw, rhof foliant i Dduw tra byddaf’ (Salm 104:33). Duw sydd wedi rhoi lleisiau i ni a Duw sydd wedi rhoi’r testun i ni ei ganu! Wrth fynd ati i feddwl a holi pa linellau o emynau, carolau a chaneuon sy’n werthfawr i bobl, roedd yn drawiadol gweld yr ymatebion. Mae neges y Nadolig, neges sydd fel petai yn cael ei thagu gan sglein a sioe yr ŵyl, yn neges sy’n dal i ryfeddu a chyffroi pobl Dduw, pobl sydd wedi dod i sylweddoli mai cynllun y Duw Tri-yn-Un oedd bod y Mab Tragwyddol yn dod i ganol byd pechadurus – nid yn ddarlun symbolaidd o gariad ac aberth delfrydol yn unig, ond yn weithred go iawn i fodloni’r Gyfraith a bod yn aberth i’n hachub. Nid rhyw stori neis, neis rydyn ni’n ei dathlu, ond realiti hanesyddol: do, daeth Duw yn ddyn!
‘Wele drefniad dwyfol gariad o flaen ein llygaid heb un llen’, ysgrifennodd John Edwards am yr ymgnawdoliad. Trwy gydol yr Hen Destament roedd Duw wedi bod yn datgan a dangos i’w bobl gymaint oedd ei gariad tuag atynt. Ym Methlehem cawn y gair olaf, fel petai: dyma sut a dyma gymaint mae Duw yn ein caru. Daeth Iesu i mewn i’r byd yn fabi bach diymadferth. Mewn gwirionedd yr hil ddynol sy’n ddiymadferth a’r baban Iesu oedd yr un cadarn a ddaeth i’n hachub!
Wyn Davies, Eglwysbach
Rwy’n hoff iawn o gardiau Nadolig sydd efo llun bugail a defaid arnynt, efallai am fy mod wedi fy magu ar fferm! Mae emyn Dafydd Charles yn dod i’m meddwl pan yn gweld y lluniau hyn. Mae cymaint o wirioneddau am yr Ymgnawdoliad yn y penillion.
Y Bugail mwyn o’r nef a ddaeth i lawr
I geisio’i braidd trwy’r erchyll anial mawr;
Ei fywyd roes yn aberth yn ein lle,
A’u crwydriad hwy ddialwyd arno Fe.
Bugeiliaid gafodd y gwahoddiad cyntaf i ddod i weld y Bugail da yn ei breseb ym Methlehem. Sgwn i a fu iddynt ddilyn hynt a helynt ei fywyd? Un peth sy’n sicr: ddaru nhw byth anghofio’r cyfarfyddiad hwnnw ar y Nadolig cyntaf. Fy ngweddi ydy y bydd llawer eto, y Nadolig hwn, yn cael profiad tebyg a dod i ryfeddu a moli Duw fel y gwnaeth y bugeiliaid.
Ifan Mason Davies, Goginan
‘Rhyfedd, rhyfedd gan angylion’ – mae llinell gyntaf emyn Ann Griffiths bob amser yn sbardun imi i geisio addoli. Teimlaf fod y gair rhyfedd a rhyfeddu yn rhan annatod o wir addoliad. Ar ben hynny mae’r cyferbyniad yma rhwng yr Iesu gyda’i holl awdurdod yn y nefoedd ac yn cael ei eni i orwedd mewn preseb, yn wefreiddiol.
Catherine Taylor, Aberystwyth
‘Ar gyfer heddiw’r bore…’ – achos ar gyfer heddiw mae’r Iesu. Mae’r stori’n newydd bob bore er yr un. Mae’r garol yn wahoddiad i unrhyw un sydd heb ei adnabod; i’r rhai sy’n ei alw’n Arglwydd mae’n ein hatgoffa ei fod ar gyfer pob dydd!
Rhodri Glyn, Llansannan
Un o fy ffefrynnau ydi pennill o garol ‘Peraidd Ganodd Sêr y Bore’ gan Morgan Rhys: ‘Dyma Geidwad i’r colledig, Meddyg i’r gwywedig rai; dyma un sy’n caru maddau i bechaduriaid mawr eu bai’. Mae o’n ddisgrifiad gwych o sut mae cariad Duw wedi arwain at weithredu go iawn trwy’r Ymgnawdoliad a’r Groes.
Steffan Jones, Pontardawe
Diosgodd Crist ei goron o’i wir fodd, er mwyn coroni Seion o’i wir fodd.’ (Dafydd Hughes ‘Eos Iâl’) Gan gymryd y ddelwedd o ddiosg a gwisgo’r goron mae Eos Iâl yn cyferbynnu darostyngiad Iesu â statws gogoneddus y Cristion. Mae’r farddoniaeth yn effeithiol, y ddiwinyddiaeth yn drawiadol ac mae wastad yn rhoi hwb i’m henaid
Gwilym Tudur, Rhydychen
Mae ‘Rhyfedd, rhyfedd gan angylion’ Ann Griffiths yn mynegi rhyfeddod pur ymgnawdoliad Iesu Grist. Yn y pennill cyntaf, mae Ann Griffiths wedi ei syfrdanu gan y gwirionedd fod Duw ei hun wedi dod yn ddyn yn Iesu Grist; mae’r un sy’n ‘rhoddwr bod’ a ‘rheolwr popeth sydd’ yn awr ‘yn y preseb mewn cadachau’. Mae’r emyn hefyd yn myfyrio ar y gwaith neilltuol roedd Iesu wedi dod i’w wneud trwy’r ymgnawdoliad, o ‘dalu dyled pechaduriaid ac anrhydeddu deddf ei Dad’ – roedd wedi dod i farw ar groesbren fel ein bod ninnau yn gallu cael heddwch â Duw’r Tad.
Elena Benjamin, Halesowen
‘Mair a wyddet ti?’, cyfieithiad o’r gân Saesneg ‘Mary did you know? ’,
yw fy ffefryn eleni, efallai wir am fy mod yn feichiog ac yn disgwyl y baban oddeutu amser dathlu’r Nadolig. Fy hoff adnod yw ‘Eithr Mair a gadwodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon’ Luc 2:19. Mae wir yn fendithiol i mi fyfyrio ar sut all crëwr y bydysawd ymostwng i fod yn faban er fy mwyn i.
Edryd Gwyndaf, Llanilar
Mae tri phennill cynta’ ‘Ar gyfer heddiw’r bore…’ (Eos Iâl) yn gosod gerbron hir hanes, pwrpas a natur dyfodiad Crist y Gwaredwr, ond daw’r cynnwrf i mi yn nau air cyntaf y pennill ola’: ‘Am hyn…’. Nawr mae’r pwyslais yn symud. Yn debyg i’r dorf sy’n gwylio Elfyn Evans ar ddiwedd rali ac yn ewyllysio, nid iddo olchi ei gar, a’i bolisho, ond iddo anelu at groesi’r llinell noddfa – yn erbyn y cloc. Mae angen ymateb; mae angen dod fel yr ydym yn ddi-oed at Iesu Grist
Rhodri Brady, Aberystwyth
Dwi’n caru’r efelychiad Cymraeg o ‘Away in a Manger’, mae’r ddiwinyddiaeth yn arbennig a dydy’r fersiwn Saesneg ddim hanner cystal! “I orwedd mewn preseb rhoed Crëwr y byd”. Crëwr y byd… mewn preseb! Waw!