Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Blwyddyn Newydd Eeyore i chi!?

27 Tachwedd 2017 | gan Trystan Hallam

Stabl Eeyore

Ga i rannu cyfrinach â chi? Dwy i ddim yn hoffi Blwyddyn Newydd. Ar Nos Galan mae yna drawsnewidiad yn digwydd i mi. Trawsnewidiad – yng ngeiriau Katherine fy ngwraig – i fod fel Eeyore yr asyn. ‘Chi’n cofio’r asyn o storïau Winnie the Pooh A. A. Milne sy’n edrych ar yr ochr negyddol bob tro? Dyw’r gwydr ddim yn hanner gwag i Eeyore. Na, does ganddo fe ddim gwydr yn y lle cyntaf! Ar Nos Galan, byddaf innau’n meddwl fel Eeyore. Fel arfer am weddill y flwyddyn dwi’n gallu ei gadw yn y stabl ond adeg blwyddyn newydd mae’r drws wedi chwalu ac Eeyore a’i wep anobeithiol yn pori yn fy meddwl.
Brefiad Eeyore yw ‘beth os…?’, ac mae’r Eeyore y tu mewn i mi’n brefu: Beth os… bydd hyn a hyn yn digwydd? …bydd fy iechyd i’n torri? …bydd iechyd un o’m hanwyliad yn methu? …bydda i’n colli fy ngwaith? Mae yna ofidiau personol a rhai ysbrydol ehangach: Pa mor olau fydd y dystiolaeth yn ystod y flwyddyn? Fydd gwrthwynebiad yn erbyn y Ffydd yn codi ei ben yn fwy ac yn fwy? Ydyn ni’n mynd i lithro fel gwlad i fwy o dywyllwch ysbrydol?
Ond mae ’na ffordd o gael Eeyore a’i ddiflastod nôl i’w stabl a bolltio’r drws ynghau: cofio Duw a’i wirionedd yn ei Air.

Cofio cymorth parhaol Duw

Yn y Beibl gwelwn bobl yr Arglwydd yn wynebu treialon dro ar ôl tro. Ystyriwch Samuel a phobl Israel yn yr Hen Destament; er holl ddoniau Samuel fel arweinydd, ac er ei deyrngarwch i’r Arglwydd, bu sawl cyfnod anodd yn eu hanes. Bu’r Philistiaid yn ddraenen gyson yn eu hystlys. Collwyd Arch y cyfamod – symbol o bresenoldeb Duw ymhlith ei bobl – i’r Philistiaid (1 Samuel 4) a galwodd gwraig Phinees ei phlentyn yn Ichabod, sef ‘Gogoniant yr Arglwydd wedi ymadael’. Erbyn 1 Samuel 6 dychwelwyd Arch y Cyfamod at yr Israeliaid gan ei fod yn tarfu ar Dagon, duw’r Philistiaid (pennod 5). Wedi i’r Arch ddychwelyd mae’r Philistiaid yn bygwth eto – ond y tro hwn mae’r Arglwydd yn ymyrryd ar ran yr Israeliaid – a’r Philistiaid yn colli’r frwydr.
Beth yw ymateb Samuel? Codi cofeb o gerrig a’i alw’n ‘Ebeneser’ – hyd yn hyn bu’r Arglwydd yn gymorth i ni. Pam? Yn gyntaf mae’n moli’r Arglwydd gyda diolchgarwch am iddo helpu’i bobl. Duw, nid y Philistiaid a Dagon, oedd wedi cael y gair olaf. Pan fydd sefyllfaoedd anodd ac anobeithiol yn ein hwynebu gallwn ninnau hefyd ddiolch mai Duw, nid y sefyllfa na Dagon ein dydd, sy’n rheoli. Mae Duw ar ei orsedd. Profodd Samuel hyn, ac felly mae’n moli Duw. Mae mawl a diolch i Dduw yn gryfach na brefu diflas Eeyore!
Yn ail, roedd Samuel am gofio daioni’r Arglwydd tuag ato. ’Sgwn i sawl gwaith wedi hynny cafodd Samuel achos i gofio’r pentwr cerrig? Gofynnodd Israel am frenin a chael Saul – achosodd gymaint o ben tost i Samuel. Rhaid sleifio’n gyfrinachol i ddewis Dafydd yn frenin newydd. Sut allai Samuel fynd yn ei flaen? Cofio Ebeneser: hyd yma bu’r Arglwydd yn gymorth i ni. Os oedd yr Arglwydd wedi helpu a chadw ei bobl yn y gorffennol onid oedd hi’n rhesymol credu y byddai yn cadw Samuel a’i bobl unwaith eto? Cofio bendithion ddoe er mwyn wynebu brwydrau heddiw.
Ar ddechrau Blwyddyn Newydd, pan fydd Eeyore yn brefu ‘beth os….?’ gwthiwch e nôl mewn i’w stabl, a chaewch y drws yn glep arno. Meddyliwch am bob Ebeneser a godwyd yn ystod y flwyddyn a fu. Bu ergydion a sefyllfaoedd anodd mae’n siŵr – ac eto oni fu’r Arglwydd yn gymorth yn y profiadau hyn? Os bu’r Arglwydd yn gymorth i ni dros y flwyddyn ddiwethaf, mae lle i gredu y bydd yr Arglwydd yr un eto i’r dyfodol.

Mwy o sicrwydd na Samuel

Mae gyda ni, yn 2018, fwy o sicrwydd nag oedd gan Samuel bod Duw yn gymorth i ni. Nid pentwr o gerrig yw ein cofeb o ddaioni Duw tuag atom, ond person byw – yr Arglwydd Iesu Grist. Sut ydw i’n gwybod y bydd Duw’n ffyddlon i mi, yn gymorth i mi yn ystod 2018? Yr ateb: yr Arglwydd Iesu Grist.
Ydych chi’n cofio’r hanes rhyfedd yn Genesis 15 wrth i Dduw wneud cyfamod â Abram i’w sicrhau y byddai’n cymryd ei deulu’n bobl arbennig iddo fe ei hun? Pan fyddai dau yn dod i gytuneb a oedd yn clymu dwy garfan gyda’i gilydd roedd rhaid aberthu neu hollti anifail. Wrth hollti’r anifail byddai’r ddau oedd yn ymrwymo â’i gilydd yn datgan: os na wnawn ni gadw telerau’r cyfamod bydd yn iawn i ni gael ein hollti fel hyn. Wrth sicrhau’r cyfamod yma gydag Abram, mae Duw ei hun yn ymddangos fel tân yn cerdded rhwng yr anifeiliaid. Beth yw’r ergyd? Duw ei hun sy’n dweud: Abram os na fydda i’n cadw fy addewid bydded i’r hyn a ddigwyddodd i’r anifeiliaid ddigwydd i mi; os nad ydw i’n cadw fy addewid i ti dydw i ddim yn haeddu bod yn Dduw. Wrth gamu i 2018, yr hoelion sy’n bolltio drws stabl ein diflastod ynghau yw Duw ei hun. Mae wedi addo cadw ei bobl yn ddiogel. Mae wedi addo hyn yn ôl ei Enw ei hun.
A’r Arglwydd Iesu Grist? Er mwyn cadw ei addewid i ni gael dod yn bobl arbennig i Dduw – fe dorrwyd Mab Duw ar y groes. Ni oedd wedi torri cyfamod Duw, ni yn ein pechod oedd heb fodloni a chadw gofynion Duw. Ac eto Duw sy’n rhoi ei Fab i’w dorri am ein pechodau ni. Cadwodd Duw ei addewid i Abram ac mae’r Cristion yn eiddo arbennig i Dduw, nid am fod rhyw anifail wedi’i ddarnio, ond am fod Mab Duw wedi’i dorri ar y groes. Symudwyd y garreg fedd y trydydd dydd i brofi fod y toriad yna ar Galfaria’n ddigonol i gadw pobl Dduw. Person byw ac nid cerrig cofeb yw ein Ebeneser ni.

Ta ta Eeyore!

Dyw’r Beibl ddim yn addo y bydd 2018 yn flwyddyn hawdd, ddi-drafferth, ddi-gwmwl. Dyna mae’r byd o’n cwmpas yn ei ddweud: anghofiwch am y trafferthion, daw haul ar fryn. Optimistiaeth ddi-sylwedd yw hynny. Mae Eeyore a’i ddiflastod yn gallu ochrgamu optimistiaeth felly. Ond does dim rhaid i 2018 fod yn flwyddyn newydd Eeyore! Cofio Duw a’i wirionedd i ni yn y Gair – y gwirionedd yn yr Arglwydd Iesu Grist – sy’n cau’r drws yn glep yn wyneb Eeyore a’i frefu diflas. All Duw ddim gwadu ei gymeriad. Mae wedi addo i’r Cristion y bydd y credadun yn eiddo arbennig iddo am dragwyddoldeb. Gallwn edrych ar ddaioni Duw yn y gorffennol – Ef yw ein Ebeneser ni. Gallwn edrych ar y Crist a dorrwyd, ac a atgyfodwyd drosom – Ef yw ein Ebeneser ni. Pan fydd Eeyore yn ceisio cicio drws y stabl – a’i fref ddiflas ‘beth os…?’, atebwch gyda chwestiwn arall:
‘Os yw Duw trosom, pwy sydd yn ein herbyn? Nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll.’ (Rhufeiniaid 8:31-2)