ymateb i Iddew gan Dyfed Edwards
Roeddwn yn edrych ymlaen at ddarllen Iddew gan Dyfed Edwards am sawl rheswm. Mae’r teitl yn y lle cyntaf yn fachog ac yn ennyn diddordeb. Mae’r clawr yn un syfrdanol – Yr Iddew mewn coch a du trawiadol. Braf dweud na chefais fy siomi. Mae’r arddull yn un unigryw, yn symud yn gyflym gan ailadrodd cymalau, geiriau ac ymadroddion a disgrifio natur cymeriadau mewn modd cynnil. Fel darn o lenyddiaeth mae’n taro deuddeg. Mae’n nofel arloesol a phwerus iawn ac rwy’n annog darllenwyr brwd i’w darllen. Nid syndod iddi gyrraedd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2017.
oes dim dwywaith am rinweddau llenyddol y nofel, felly, ond mae rhywbeth amlwg ar goll o’i phortread o’r ‘Iddew’.
Yr Iddew dan sylw yw Yeshua bar-Yôsep Natz’rat. Iesu, mab Joseff o Nasareth, ond mae hwn yn berson gwahanol iawn i’r un a welwn ar dudalennau’r Testament Newydd ac y dathlwn ei ddyfodiad adeg y Nadolig. Oes unrhyw werth ysbrydol i’r gwaith hwn, felly? Oes, er gwaetha’r cyfyngiadau hyn.
Iesu yr Iddew
Iddew yw teitl y nofel ac awyrgylch, naws, cefndir cwbl Iddewig sydd i’r nofel. Mae’r nofel yn llawn enwau Iddewig, defodau Iddewig a chymeriadau Iddewig – yn union fel yr Efengylau.
Mae’n bwysig i ni Gristnogion peidio â chymryd Iesu a’i neges allan o’i gyd-destun gwreiddiol a’i osod yn ein cyd-destun cyfoes ni yn syth. Y broblem o wneud hyn yw ein bod yn colli byrdwn, ergyd a neges wreiddiol Iesu Grist. O anwybyddu cefndir hanesyddol Judas Maccabeus, er enghraifft, nid ydym yn gallu gwerthfawrogi gorymdaith Iesu Grist i mewn i Jerwsalem ar gefn asyn yn llawn. O beidio â deall perthynas Iddewon â Samariaid mae’r ffaith i Iesu sgwrsio a’r wraig o Samaria ger Ffynnon Jacob yn ddim byd mwy na hanes diddorol yn hytrach na hanes sy’n dangos fod Iesu yn croesawu pawb, yn torri ffiniau ac mai ef yw’r Meseia i’r holl fyd, yn Iddewon ac yn Samariaid. O beidio â deall y neges wreiddiol a rhoi cot gyfoes, orllewinol ar Iesu, gallwch gamddehongli’r efengyl gan ddarllen y Beibl drwy sbectol gyfoes. Iddew, oedd Iesu Grist yn pregethu Teyrnas Dduw – nid dyn gwyn â Chaneuon Ffydd dan ei gesail neu iPhone yn ei boced.
Yn bersonol, mae esboniaidau a llyfrau N.T Wright (neu Tom Wright) yn gymorth mawr er mwyn deall a gwerthfawrogi cyd-destun hanesyddol Iddewig y Testament Newydd yn benodol. Mae ei gyfres For Everyone (SPCK) yn esboniadau diddorol a hawdd i’w deall. Llyfr gwerthfawr arall yw Jesus Through Middle Eastern Eyes (SPCK) gan Kenneth E. Bailey.
Wrth ystyried Iesu’r Iddew a’i gefndir Iddewig mae rhywun hefyd yn meddwl am sefyllfa wleidyddol fregus ein dydd o’r twf mewn troseddau casineb ers refferendwm Brexit a pholisïau syfrdanol llywodraeth Donald Trump. Mae gwrth-semitiaeth, hiliaeth a senoffobia ar gynnydd a gwleidyddiaeth asgell dde yn ffynnu ac yn cael ei chefnogi gan lawer sy’n arddel Cristnogaeth. Da o beth i ni ddwyn i gof mai Iddew oedd ein Gwaredwr ni, yn caru ac yn maddau, yn dymchwel muriau, nid eu hadeiladu.
Iesu y dyn
Dyn yw Yeshua bar-Yôsep Natz’rat yn nofel Dyfed Edwards sy’n ceisio gwneud synnwyr o’i alwad mewn bywyd. Mae Dyfed Edwards yn disgrifio meddyliau, teimladau ac emosiynau cymysglyd ac angerddol Yeshua bar-Yôsep Natz’rat yn wych. Er na ddylem dderbyn yn anfeirniadol y portread dychmygol hwn gan nofelydd, mae’n werth cofio mai dyn go iawn oedd Iesu. Daw geiriau hyfryd Ann Griffiths i’r meddwl:
Mae’n ddyn i gydymdeimlo
Â’th holl wendidau i gyd.
Ac onid yw awdur y llythyr at yr Hebreaid yn dweud ’Ac mae’n Archoffeiriad sy’n deall yn iawn mor wan ydyn ni. Mae wedi cael ei demtio yn union yr un fath â ni, ond heb bechu o gwbl’ (4:15)? Mae’n gysur i Gristnogion nad Duw amhersonol yw ein Duw ni, ond Duw a ddaeth yn ddyn, sy’n deall ein pryderon, sy’n cydymdeimlo â ni oherwydd ei brofiadau ei hun.
Ond dywed yr adnod uchod o Hebreaid un peth arbennig am Iesu Grist, sef iddo gael ei demtio ’ond heb bechu o gwbl.’ Yn nofel Dyfed Edwards, dyn pechadurus yw Yeshua bar-Yôsep Natz’rat, ac yn hynny o beth, ni allwn ddod i wir ymwybyddiaeth o Iesu Grist drwy ddarllen nofelau megis Iddew.
Rhyfeddod yr efengyl yw i’r Duw sanctaidd, dibechod ddod yn gnawd ar ffurf Iesu Grist. Gobaith, canolbwynt a rhyfeddod y Nadolig yw i’r Gair ddod yn gnawd.
Mae’n ddyn i gydymdeimlo
Â’th holl wendidau i gyd,
Mae’n Dduw i gario’r orsedd
Ar ddiafol, cnawd, a byd.