Addasiad o ddarlith a draddodwyd mewn cynhadledd ar Berthnasedd Pantycelyn.
Mae llawer o sôn wedi bod eleni am William Williams Pantycelyn, wrth nodi 300 mlynedd ers ei eni. Ond ar drothwy 2018, gyda’r dathliadau yn dirwyn i ben, ydy hi’n amser anghofio amdano, a symud ymlaen i’r dathliad nesaf? Wel, ga i awgrymu bod gwers bwysig iawn y byddai’n dda i ni ei chofio yng ngwaith mawr Pantycelyn, Theomemphus.
Cerdd hir yw Bywyd a Marwolaeth Theomemphus o’i Enedigaeth i’w Fedd, sy’n disgrifio bywyd dyn o’r enw Theomemphus – cynrychioliad o’r Cristion. Mae Williams yn cydnabod tebygrwydd i weithiau eraill (e.e. Taith y Pererin John Bunyan) ond mae Theomemphus ar wahân rywsut am ei fod yn ceisio rhoi portread cyflawn o’r bywyd Cristnogol fel y’i gwelir yn y Beibl.
Un o’r nodweddion amlwg yn y gwaith yw’r lleisiau cystadleuol sy’n ceisio mynd â sylw Theomemphus. Wrth ddisgrifio ei fywyd ei hun, dywed Theomemphus:
Mi gredais, mi wrthgiliais, mi gerais Duw i gyd,
Mi gysgais, mi ymdroddais yng nghariad oer y byd;
Rhad ras sydd yn fy nghadw, ‘d oes ar fy enaid cun
Ddim gwaith a dâl ei enwi ond ‘weithiodd Duw ei hun.
Yr hyn rydyn ni’n ei weld trwy gydol profiadau Theomemphus ar ôl iddo ddod i ffydd yn Iesu Grist yw ei fod e lan a lawr. Pam? I raddau helaeth, oherwydd bod yr amryw leisiau hyn yn cystadlu am ei sylw. Ar y naill law mae’r lleisiau da sy’n ei alw i nesáu at Dduw. Ar yr llall, mae’r lleisiau drwg sy’n ceisio ei arwain yn bellach i ffwrdd oddi wrth yr Arglwydd.
Ydy hynny’n swnio’n gyfarwydd i chi? Mae Williams eisiau pwysleisio na fydd profiad y Cristion yn un rhwydd, didrafferth. Na – bydd llithro, temtasiynau, ymosodiadau a phrofedigaethau yn dod i’n rhan. Felly rhaid bod yn ofalus ar ba leisiau rydyn ni’n gwrando.
Y Lleisiau Da
Mae’r lleisiau da i gyd wedi eu gwreiddio yn ngair Duw. Y lleisiau amlycaf yw’r pregethwyr; yn esbonio’r Beibl yn glir a chywir, er efallai â phwysleisiau gwahanol. Mae pregethu tanllyd Boanerges, mab y daran, yn codi dychryn ar Theomemphus a’i wneud yn ymwybodol o’i angen am waredigaeth. Yna clywir llais pregethwr arall, Efangelius, sy’n cyflwyno’r newyddion da:
Newyddion o lawenydd orchmynnwyd roi ar led,
Can gwynfyd ar ôl gwynfyd fydd fyth i’r sawl a’u cred;
Newyddion rhad i ddynion, i Dduw newyddion drud,
Myfyrdod hen y Duwdod cyn gosod seilfaen byd.”
Wedi iddo ddod i gredu, daw Theomemphus dan ddylanwad doctor Aletheius, ‘athro y gwirionedd’, sy’n ei helpu i ystyried yr hyn mae’n ei gredu a’i gymhwyso.
Mae llais Duw ei hun, serch hynny, yn annisgwyl o dawel. Cawn gipolwg ar adegau ar Dduw yn ymddiddan ag ef ei hun ond dydy llais yr Arglwydd ddim yn siarad yn uniongyrchol â Theomemphus mewn gwirionedd. Trwy’r Beibl y clywir llais Duw:
‘Yr Arglwydd dy Dduw a geri,’ ‘be allu mawr y nef,
‘Ni fu, ni ddaw, ‘d oes heddiw neb well i ti nag ef;
‘D yw dengmil o gariadau, pe baent i gyd yn un,
Ond graean ym mhen mynydd mewn clorian wrth ei glun.’
Er bod cyfraniadau’r cymeriadau hyn yn sylweddol, mae’n dal i fod yn drawiadol cyn lleied o leisiau da sydd. Daw hynny’n amlycach fyth wrth i ni droi ein sylw at y lleisiau drwg.
Y Lleisiau Drwg
Gau athrawon
Yn wrthgyferbyniad llwyr â’r rheini sy’n pregethu’r gair yn ffyddlon, mae gennych chi gymeriadau fel Seducus y twyllwr; Orthocephalus, sy’n siŵr ei fod e’n iawn am bopeth ac yn dadlau â phawb; Schematicus – dyn yr hobby horse; Academicus, sy’n pwysleisio addysg uwch popeth arall; ac Arbitrius Liber, neu Ewyllys Rydd. Er eu bod, yn arwynebol, yn ymddangos yn lleisiau da, maen nhw’n tynnu Theomemphus oddi ar lwybr y gwirionedd. Er enghraifft Arbritrius Liber, sy’n dysgu fod modd i berson drwy ymdrech a hunanddisgyblaeth ddarganfod ei ffordd at Dduw.
Rhowch ymaith bob rhyw bechod, o weithred ac o fryd,
Pob malais a chenfigen a gormod garu’r byd;
Ein dyled ni yw ceisio, wrth geisio fe geir gras,-
Nid yw e’ waith mor anodd i goncro pechod cas.
Lleisiau mewnol
Mae nifer o’r ymosodiadau yn erbyn Theomemphus yn codi ohono fe ei hunan. Mae’n clywed llais Hunan-dyb sy’n ei annog i feddwl yn uchel ohono’i hun. Cyn pen dim mae hyn yn arwain at lais Rhyfyg neu falchder. Ac wrth wrando ar ei falchder mae’n mynd i ymddiried mewn Hyder Gnawdol:
Fe ddysgodd Hyder Gnawdol i Theomemphus fyw
Yn segur ac yn foethus, yn wag o ofon Duw;
Fe’i dysgodd ef i garu’r hyn gynt oddi wrtho ffodd,
A meithrin pob rhyw nwydau ag ydoedd wrth ei fodd.
Gelynion Ysbrydol
Mae yna lu o elynion ysbrydol hefyd yn ceisio dinistr Theomemphus. Mae’r Byd yn dod i’w demtio:
Fe gwympodd ar Theomemphus yn ei ardderchog fri,-
‘Cais diroedd, cais feddiannau, ‘wna hyn ddim drwg i ti;
Cais aur, cais arian gloyw, cais gyfoeth llawn, nid yw
Groes i egwyddor crefydd na chroes i feddwl Duw.’
Wedyn dyma’r Cnawd yn brwydro yn ei erbyn, a Jesebel, sy’n cynrychioli bywyd cnawdol. Mae hyd yn oed Cyngor Uffern yn ymgasglu i gynllwynio yn ei erbyn.
Profedigaethau Anodd
Pe na bai hyn i gyd yn ddigon, mae Theomemphus yn wynebu erledigaeth trwy gymeriad o’r enw Iratus, neu ddicter, sydd heb reswm amlwg yn ceisio drygioni iddo, gan ei demtio i ddial a chasáu yn ôl.
Ar ben hyn mae Theomemphus yn cwympo mewn cariad gyda’r person anghywir, gan gymysgu ei nwydau ag arweiniad Duw. Yn ddiweddarach mae’n penderfynu priodi Philomede, ond mae’n amlwg fod y berthynas yn un anodd:
Hi blinodd ef â’i geiriau yn drwm o ddydd i ddydd,
Hi gloddiodd tan ei seilfaen, hi gurodd ar ei ffydd;
Hi geisiodd briwio ei hyder, hi geisiodd lethu ei hedd,
Hi wasgodd ef i angau, hi gyrrodd ef i’r bedd.
Ac ar ben hynny i gyd, mae ei blant yn achosi gofid iddo yn ddyddiol.
Mae’r gerdd yn gorffen gyda Theomemphus yn wynebu’r gelyn mawr olaf, sef Angau ei hun.
‘R wy’n ‘nabod dy holl natur, a’th rym, myfi yw’r gŵr
A dynn dy flys i fwydydd, a dry dy waed yn ddŵr,
Wahana dy esgyrn cryfion, er cymaint yw eu grym,
A ddifa dy ysbrydoedd, a wna dy nerth yn ddim.
Gwrandewch yn ofalus!
Efallai eich bod chi’n dechrau gweld pam mae Theomemphus yn dal i fod yn berthnasol i ni heddiw. Yr un lleisiau da a’r un lleisiau drwg sy’n dod i glyw Cristnogion ym mhob oes. Ar y naill law, ceir pregethu ffyddlon o air Duw, yn cyhoeddi angen dyn, a’r ateb i’w angen. Mae’r Arglwydd yn dal i siarad drwy ei air, a’r gair hwnnw yn dod yn fyw trwy waith yr Ysbryd Glân. Ac eto, ar y llaw arall, mae’r un hen leisiau drwg yn dal i lenwi ein clyw er eu bod efallai’n dod mewn ffurfiau, ac o gyfeiriadau gwahanol.
Mae yna gau athrawon yn dysgu’r hyn sy’n groes i air Duw. Mae yna leisiau mewnol sy’n ein hannog ni i gredu pob math o gelwyddau. Mae’r gelynion ysbrydol am wneud niwed i’n heneidiau ni. Ac mae profedigaethau anodd sy’n ein temtio i amau’r Arglwydd a phellhau oddi wrtho.
Wrth i ni wynebu 2018, pa gyngor fyddai Theomemphus yn ei roi?
Byddwch yn ofalus ar ba leisiau rydych chi’n gwrando!