Mae emyn Thomas Charles o’r Bala, ‘Dyfais fawr tragwyddol gariad’, ymhlith y gorau yn y Gymraeg. Yn un o’r penillion, wele’r dyhead hwn:
O! am gorff, a hwnnw’n rymus,
I oddef pwys gogoniant Duw,
Ac i’w foli byth heb dewi,
A chydag Ef dragwyddol fyw.
Pa fath gorff fydd gan gredinwyr yn yr atgyfodiad? Dyna’r cwestiwn yn 1 Corinthiaid 15:35.
Hadau
Mewn ateb i’r cwestiwn fe’n dygir i ddechrau i fyd yr hadau. ‘A’r hyn yr wyt yn ei hau, nid y corff a fydd ydyw, ond gronyn noeth, o wenith efallai, neu o ryw rawn arall. Ond Duw, yn ôl ei ewyllys ei hun, sydd yn rhoi corff iddo, i bob un o’r hadau ei gorff ei hun’ (ad. 37-8). Os heuir hadau letys, fe geir clwstwr o ddail gwyrdd sy’n calonni’n braf; os plennir had blodyn yr haul, wele droedfeddi o goesyn tal â phlât melyn ar ei dop. Yr awgrym cryf yw y bydd corff yr atgyfodiad yn syfrdanol wahanol i’n cyrff presennol, fel y mae cnwd yr hedyn yn edrych yn dra annhebyg i’r hedyn ei hun, er bod y ddau o’r un hanfod, o’r un rhywogaeth.
Cnawd
Yna, sonia Paul am y gwahanol fathau o ‘gnawd’ (ad. 39). Nid yr un yw pob cnawd: mae gwahaniaeth rhwng cnawd dynion, cnawd anifeiliaid, cnawd adar a chnawd pysgod. Yr awgrym amlwg eto yw y bydd y math o gyrff fydd gennym yn yr atgyfodiad yn fath, neu’n gnawd, tra gwahanol i’r cyrff sydd gennym yn awr, ac wedi eu haddasu’n berffaith ar gyfer eu hamgylchfyd newydd. Mae Paul yn mynd yn ei flaen i sôn am gyrff nefol a chyrff daearol, ffurfiau yn y gofod a ffurfiau ar y blaned hon, gan bwysleisio eto y gwahaniaeth sy’n perthyn iddynt (ad. 40).
Gogoniant anllygredig
Wedi cyfeirio fel hyn at hadau, ac at amrywiol fathau o gnawd a ffurfiau nefol, mae’r apostol yn cysylltu’r cyfan â’i bwnc: ‘Felly hefyd y bydd gyda golwg ar atgyfodiad y meirw’ (ad. 42). Yna mae’n dychwelyd at eglureb yr hadau. Er na ellir dweud yn union sut gorff fydd y corff atgyfodedig, eto fe ellir datgan rhai pethau amdano: ‘Heuir mewn llygredigaeth, cyfodir mewn anllygredigaeth’ (ad. 42). Mae ein cyrff daearol, sy’n dadfeilio a marw, yn wahanol i’r cyrff a gawn pan ddown yn fyw drachefn, oherwydd ni fydd llygru ar y cyrff hynny. Yna, mae ein cyrff daearol yn araf ddirywio a heneiddio, yn colli eu hoen a’u harddwch, ac yn gallu bod yn dipyn o embaras weithiau. Ond bydd y corff fry yn hardd ac yn ddisglair ac ysblennydd: ‘Heuir mewn gwaradwydd, cyfodir mewn gogoniant’ (ad. 43). Yn awr, cyrff eiddil sydd gennym, yn blino’n hawdd, ond yn yr atgyfodiad bydd ein cyrff newydd yn llawn nerth (ad. 43). Ar hyn o bryd, cyrff ‘anianol’ sydd gennym, ond pan ddigwydd y dadebru mawr byddant yn ‘ysbrydol’, goruwch anian, yn oruwchnaturiol (ad. 43-4).
Y dyn o’r nef
Yn ddiwethaf oll, mae Paul yn tynnu ein sylw at yr Ysgrythur, ac yn sôn am Adda a Christ (ad. 45-9). Megis y mae ein cyrff presennol sydd o’r llwch yn debyg i’r ‘dyn o’r llwch’, Adda, bydd ein cyrff yn y gogoniant ar ddelw’r ‘dyn o’r nef’, yn debyg i gorff gogoneddus Crist. Yr un gwirionedd a geir yn ei epistol at y Philipiaid: ‘Bydd ef yn gweddnewid ein corff iselwael ni, ac yn ei wneud yn unffurf â’i gorff gogoneddus ef’ (Phil. 3:21).
Y pwynt mawr yw y bydd ein cyrff yn wahanol iawn yn y byd arall. Mae Paul yn crynhoi ei ymresymu drwy egluro: ‘Hyn yr wyf yn ei olygu, gyfeillion: ni all cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw, ac ni all llygredigaeth etifeddu anllygredigaeth’ (ad. 50). Nid adfer yr hen gorff o gig a gwaed a’i adnewyddu a wneir yn yr atgyfodiad, ond rhoi corff newydd, casyn newydd fflam i’n personoliaeth. Fe danlinellir y pwynt hwn pan ddywedir beth ddigwydd i’r rhai fydd ar dir y byw yn yr ailddyfodiad (ad. 51-2). Fe newidir eu cyrff hwythau, a hynny ‘mewn eiliad, ar drawiad amrant, ar ganiad yr utgorn diwethaf’. Nid oes lle i’r hen gorff am eiliad yn y tragwyddolfyd, na dim tebyg iddo. Fe fydd y saint – y meirw a’r rhai byw – yn eu cael eu hunain mewn stad o fodolaeth y tu hwnt i’w dychymyg yn llwyr, mewn ffurfiau newydd sbon.
Mae C. S. Lewis, yn ei lyfr Miracles, yn cymharu’r cyrff a gaiff eu rhoi i ni â meirch adeiniog, disglair, yn aros amdanom yn ddiamynedd, ac yn chwythu ffroen a phystylad yn stablau’r Brenin. Un dydd, meddai, cawn farchogaeth y meirch hyn.
A dyna garlamu fydd wedyn!