Mawrha yr Arglwydd, f’enaid cân
A llawenha’n wastadol;
Fy Nuw, fy iachawdwriaeth rad;
Fy Ngheidwad yn dragwyddol.
Edrych a wnaeth ar ddinod wedd
Fy ngwaeledd, heb un dirmyg;
Holl genedlaethau’r byd yn grwn
A’m geilw’n wynfydedig.
Cans sanct, galluog yw Duw’r ne’,
Efe a wnaeth im fawredd;
A’r rhai a’i hofnant o lwyr-fryd
Yn hyfryd cânt drugaredd.
Darostwng wnaeth y beilchion rai,
O’u heisteddfâu, fe’u tynnodd;
Yr isel radd, â’i allu mawr,
O lwch y llawr fe’u cododd.
Y tlawd newynog, Ef o’i fodd
A’u llanwodd â bendithion;
A’r rhai goludog, hwy ni chânt,
Ac ymaith ânt yn weigion.
Cofio’i addewid wna yr Iôn,
Tra ffyddlon yw yr Arglwydd;
Trugarog yw Efe, a’n porth,
Ein cymorth yn dragywydd.