Wrth i Eglwys Efengylaidd Aberystwyth ddathlu’r hanner cant, bydd cyfle hefyd i gofio’r arloeswyr ac un o’r rhain yw gweinidog cyntaf yr eglwys, Gordon Macdonald, a fu farw yn gynharach eleni. Treuliodd Gordon gyda chefnogaeth ddiysgog a gweddigar Rina ei wraig ei fywyd yn hyrwyddo’r dystiolaeth yng Nghymru, yn weinidog gyda’r Wesleiaid i ddechrau ac wedyn am ddeng mlynedd ar hugain yn Aberystwyth, bu hefyd yn gynorthwydd i J Elwyn Davies gyda gwaith y Mudiad Efengylaidd yn y Gogledd am gyfnod yn y 1960au. Dyn o argyhoeddiadau cryf, diflino a diarbed ei wasanaeth, a oedd hefyd yn meddu ar dynerwch mawr fel y gwelwyd yn ei ymdrechion dros flynyddoedd lawer i galonogi’r saint mewn nifer o seiadau bach. Roedd elfen ysgolheigaidd i’w gyfraniad hefyd trwy ei aelodaeth o’r pwyllgor a fu’n diwygio’r Beibl Cymraeg Newydd. Er bod nifer yn ei adnabod a’i barchu am ei weinidogaeth gyhoeddus, cafodd eraill ei weld ar yr aelwyd, ac yma cyhoeddir y deyrnged a draddododd ei fab, Emyr, yn angladd Gordon ddydd Iau 23 Mawrth yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth. Ymddangosodd y deyrnged yn wreiddiol yng nghylchgrawn Eglwys Efengylaidd Aberystwyth, Cwlwm.
Ganwyd a magwyd Dad yn ardal Cilgwri ar ochr arall y Mersi o Lerpwl. Roedd ei rieni wedi symud yno o bentrefi Gwaenysgor a Llanasa ger Prestatyn i weithio. Yn ystod y rhyfel dychwelodd i Waenysgor fel faciwî i aros gydag aelodau o’i deulu. Gadawodd yr ysgol yn 14 a dilyn ei dad, a oedd yn friciwr, i’r byd adeiladu, a hyfforddi i fod yn syrfëwr meintiau yn Lerpwl.
Pan oedd yn ddeunaw cafodd flwyddyn a newidiodd ei fywyd. Daeth Dad i ffydd bersonol yn yr Arglwydd Iesu Grist, yr hwn y byddai yn ei garu a’i ddilyn am weddill ei oes. Hefyd, cyfarfu ag athrawes hardd o Gaernarfon, Rina Jones, oedd yn dysgu 50 o blant pedair blwydd oed mewn ysgol gynradd mewn ardal dlawd o Benbedw. Daeth y ddau i garu ei gilydd yn ddwfn dros weddill eu bywyd, ac i ofalu am bobl Dduw a’u caru ar draws ein gwlad. Yr un flwyddyn, dechreuodd Dad deimlo Duw yn ei alw i fod yn weinidog yng Nghymru. Bu cyfnod o ddysgu Cymraeg wedyn ac astudio yng Ngholeg y Wesleaid yn Handsworth, Birmingham.
Dechreuodd Mam a Dad eu bywyd priodasol yn Aberdaron ar Benrhyn Llŷn yn 1958 lle gofalai Dad am ei eglwys gyntaf, ac yna am bum mlynedd yn Ystumtuen yn y bryniau uwchlaw Aberystwyth, heb drydan na dŵr yn y tŷ am y ddwy flynedd gyntaf. Roedd bywyd yno yn waith caled gyda dau o blant ifanc, yn gorfod cario dŵr o ffynnon a choginio ar gylch nwy Calor. Yn dilyn dwy flynedd yng Nghomins-coch yn sir Drefaldwyn, teimlai Dad yr alwad i gychwyn, ynghyd â phedwar teulu arall, Eglwys Efengylaidd Gymraeg Aberystwyth yn 1967, 50 mlynedd yn ôl i’r Hydref yma.
Roedd nifer o weinidogion o wahanol enwadau yn rhan o’r Mudiad Efengylaidd ac yn ffrindiau agos i Dad dros flynyddoedd. Byddai’n dod yn ôl o gynhadledd gweinidogion wedi ei galonogi mewn llawer ffordd. Ein cof ni fel plant ar y pryd oedd Dad yn ceisio ail-ddweud jôcs roedd wedi eu clywed ac yn methu oherwydd ei fod yn chwerthin gormod a dagrau’n llifo lawr ei ruddiau. Roedd gan y gweinidogion ofal ymarferol dros ei gilydd. Doedd gan Elwyn Davies fawr o ddiddordeb mewn pethau mecanyddol, ac wrth iddo adael, byddai Dad yn mynd o gwmpas y car i wneud yn siŵr fod y teiars ac ati yn iawn.
Gair byr am y llun yma ohono, a oedd hefyd ar glawr taflen y gwasanaeth, sy’n ffefryn gennym ni fel teulu, gan ei fod yn crynhoi personoliaeth a gwaith oes Dad. Pan oeddwn i’n fyfyriwr a Ruth yn y chweched dosbarth, roedd y ddau ohonom wedi sylwi ar ddafad yn y cae o flaen ein tŷ yn cysgodi dan y clawdd ac yn rhoi genedigaeth i ddau oen bach. Ugain munud yn ddiweddarach sylwodd Ruth mai dim ond un oen oedd yno a meddyliodd y ddau ohonom tybed a oedd yr oen arall wedi rolio trwy’r clawdd. Aeth Dad i mewn i’r cae nesaf, dod o hyd i’r oen a’i gario yn ôl, ac ar ôl tynnu’r llun hwn, ei osod yn ôl gyda’r fam. Roedd yn hyfryd gweld y fam yn araf arogli’r oen cyn penderfynu ei dderbyn yn ôl.
Ar gyfnodau, brwydrai Dad yn erbyn llesgedd difrifol, na wnaeth meddygon fyth ei esbonio’n foddhaol. Dau o atgofion plentyn am ein gwyliau fel teulu oedd dechreuadau araf Dad i’r diwrnod, gyda Ruth ifanc yn trydar ‘Come on ’te’, a Mam yn llwyddo’n wych i gadw pawb yn hapus! Rydym hefyd yn cofio’r daith adref, a fyddai’n cychwyn gyda Mam a Dad yn trafod a oedd yna gredinwyr unig yn byw yn agos. Byddai’r daith yn un igam-ogam wrth i ni ymweld â dau neu dri chartref ar y ffordd. Roedd nifer o gredinwyr ynysig ym mhraidd gwasgaredig Dad, nad ydynt gyda ni bellach, ond a oedd yn wirioneddol ddiolchgar am ei ymweliadau achlysurol.
Hoffwn grynhoi’r gair hwn o ddiolch am fywyd Dad gyda chwestiwn a ofynnodd ffrind i mi dros ddeng mlynedd yn ôl: ‘Beth roeddwn i’n ei werthfawrogi fwyaf am gael tad a oedd yn weinidog?’ Roedd hwn yn un o’r cwestiynau hynny sy’n peri i ddyn oedi am eiliad i feddwl cyn ei ateb. Yna dywedais fod yna ddau beth a safai allan i mi:
- Gweld newyddion da yr Arglwydd Iesu yn cael ei fyw allan o ddydd i ddydd o flaen eich llygaid yn ystod fy mlynyddoedd ffurfiannol. Mai bywyd Iesu, ei farwolaeth yn ein lle a’i atgyfodiad yw’r unig obaith i bob un – yng Nghanolbarth Cymru ac ar draws y byd. Bod hwn yn fater o fywyd a marwolaeth – a ffocws bywyd i’w fyw er ei fwyn, a gydag ef, mewn diolchgarwch.
- Gweld ym mywydau fy rhieni o ddydd i ddydd fod pobl i’w caru ac i ofalu amdanynt yn ddwfn. Mae pobl Dduw yn werthfawr – ac i’w gweld fel mae Iesu yn eu gweld a’u caru – hyd yn oed ar yr adegau pan fyddant yn gwneud bywyd ychydig yn anodd.
Roedd Mam a Dad yn unedig yn y blaenoriaethau hyn mewn bywyd – ac fe hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch yn gyhoeddus i Mam amdanynt. O’r nifer o hanesion am Dad ry’n ni wedi eu clywed gan wahanol bobl dros yr wythnos neu ddwy diwethaf, credaf fod yna nifer yma ac mewn llawer lle sydd yr un mor ddiolchgar am y ffordd roedd Mam a Dad yn byw blaenoriaethau Duw yn eu bywydau beunyddiol.
Mae’r un priodoleddau wedi bod yn amlwg dros y deunaw mis diwethaf, pan oedd praidd Dad, y rhan fwyaf o’r amser, yn un wraig werthfawr iawn yn y cartref acw yng Nghomins-coch. Yr un gofal tyner a chariadus, yn cymryd yn siriol at goginio, rhywbeth nad oedd wedi ei wneud erioed o’r blaen.
Ar ddiwedd mis Tachwedd, es i gyda Dad pan oedd yn pregethu, dwi’n meddwl y tro olaf yng nghapeli cefn gwlad Ceredigion, ym Mhennant a Llan-non. Yr un oedd ei bwyslais, bod angen i ni i gyd ddod i gydnabod ein gwendid gerbron Duw ac ymddiried ein bywyd i’w Fab Iesu Grist a ddaeth i’n byd i farw yn ein lle.