Cyfaill a Chydweithiwr
Bu Edmund yn weinidog, yn athro ysgol, yn yrrwr lori laeth, yn bregethwr, yn arweinydd seiat a mwy. Ond roedd ei gyfraniad mwyaf, efallai, yn un nad oedd llawer yn ei weld, sef y blynyddoedd o lafurio cyson i Fudiad Efengylaidd Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yno y defnyddiwyd y doniau ieithyddol, yr wybodaeth a chariad at iaith a neges yr efengyl, i’r eithaf. Pan ddechreues i weithio yn y swyddfa ym Mryntirion roedd Edmund yn hanner pendroni a ddylai gael ei gyfrifiadur ei hun. Hyd hynny roedd wedi bod yn defnyddio pen a phensil a phapur. Ond wedi ystyried – yn ddwys – cario mlaen wnaeth e i weithio yn y dull traddodiadol.
Roedd ganddo lygad a chanfyddiad arbennig i nodi camgymeriadau mewn teipysgrif, neu gywiro Cymraeg trwsgl. Roedd e wrth ei fodd yn cael teipysgrif o lyfr i’w golygu ac yna llunio mynegai cyflawn i’r llyfr – gwaith y byddai llawer ohonon ni yn methu â’i wneud, a gwaith y byddai llawer yn syrffedu arno. Ond roedd Edmund wrth ei fodd yng nghanol pentyrrau anniben o lyfrau wrth ei ddesg yn y cornel. Ni fyddai llawer o gyhoeddiadau’r Mudiad wedi gweld golau ddydd o gwbl oni bai am ei lafur a’i allu. Fe oedd golygydd cyffredinol y gyfres ar lyfrau’r Beibl, Bara’r Bywyd, gan gyfrannu tua chwe chyfrol ei hun.
Yn ogystal pan oedd galw am gyfieithu o’r Saesneg fe elwid ar Edmund, a dangosodd ei ddawn arbennig wrth gyfieithu rhai o lyfrau Narnia C. S. Lewis. Cafodd y rhain ganmoliaeth gan feirniaid llenyddol a ieithyddol. Ac mae ei gyfieithiadau ym myd yr emyn yn glasuron yn ogystal.
Fel y gwyddai ei ffrindiau a’i gydweithwyr roedd ei dafod yn ei foch yn aml. Dywedodd wrthyf unwaith mai un o’i hoff bethau oedd gweld brychau iaith yng ngwaith ysgrifenedig rhywun arall. Dau beth doedd e ddim yn eu hoffi, meddai, oedd gweld gwallau yn ei waith ef ei hun a chodi yn gynnar yn bore!
Doedd Edmund ddim yn ddyn pwyllgor ond roedd yn fwy na pharod i gyfrannu i gynnwys a chywirdeb iaith y Cylchgrawn. Soniais o’r blaen am ei gyfraniad i’r gyfres hir, ‘Arhoswch funud’ yn y Cylchgrawn. Unwaith eto dywedodd yn bryfoclyd wrtha i mai dim ond un gwyn oedd wedi dod i fewn am y gyfres erioed, a hynny oedd na ddylid ei galw yn ‘Arhoswch funud’ gan fod hynny yn rhy fyr. Dylai fod yn ‘Arhoswch awr neu ddwy’.
Doedd neb mwy balch na minnau – er i mi adael gwaith y Mudiad ers sawl blwyddyn – i weld casgliad o’r erthyglau hynny dros y blynyddoedd yn y Cylchgrawn yn cael eu cyhoeddi mewn llyfr, Blodau Hardd Williams ac ysgrifau eraill yn 2014. Cyfrol yw hon sy’n cwmpasu cymaint o agweddau ar y bywyd Cristnogol. Ceir dehongliad gwreiddiol yn aml o hen wirionedd ac mae gwybodaeth gyffredinol Edmwnd yn ogystal â’i wybodaeth Feiblaidd yn syndod. Cawn sioc ambell waith wrth iddo esbonio gwirionedd oesol mewn ffordd newydd. Yn y gyfrol mae cyfres sy’n trafod problemau pechod. Wrth sôn am ffyddlondeb Duw yn maddau ein pechod, dywed Edmund yn feiddgar, ‘Yn wir, pe na byddai’n maddau, gellid dweud y byddai ei golled ef yn fwy na’n colled ni, er mor ddirfawr fuasai honno. Collem ni ein gobaith: fe gollai ef ei gymeriad. Dyna pam y dywedir yn Eseia (43:25), ‘Myfi, myfi yw yr hwn a ddilea dy gamweddau er fy mwyn fy hun’, sef er mwyn ei enw a’i gymeriad fel un y gellir llwyr ymddiried ynddo’ (t. 178). Mae’n gorffen y darn hwnnw i ddyfynnu pennill ei hoff Williams, ‘Mae ei ffyddlondeb fel y môr’ gan orffen gyda ‘A’i drugareddau hyfryd sy’n / Dragywydd yn parhau’.
Wedi prynu copi gofynnais iddo ei lofnodi. Roedd e’n synnu fy mod yn gofyn y fath beth. A’r cyfan wnaeth ei roi lawr oedd ‘Oddi wrth Edmwnd’. Oherwydd, er ei alluoedd, person diymhongar iawn oedd e. Yn aml roedd e’n anfodlon ar yr hyn oedd wedi ei gyflawni er bod hynny yn well na allai unrhyw un arall ei wneud. Doedd dim brolio yn rhan o’i gyfansoddiad.
Ac yng ngwaith y Mudiad roedd e’n troi ei law at bopeth – yn wir ble bynnag oedd yr angen, yno roedd Edmwnd. Ddwywaith y flwyddyn am flynyddoedd byddai Edmwnd yn gwisgo jeans. Y dydd pan fyddai yn huro fan fawr ac yn dod â llyfrau a’r offer i faes yr Eisteddfod Genedlaethol, a’r dydd Sadwrn canlynol pan fyddai yn dod i dynnu’r cyfan i lawr a’u dychwelyd i Fryntirion. Ond y pryd hynny – er y jeans, byddai yn dal i wisgo tei! Ni welais i e heb honno erioed!
Ys dywedodd Gwynn Williams, pan oedd yn cyflwyno rhodd i Edmund wrth iddo orffen ei waith cyflogedig i’r Mudiad yn 1996, ‘Fel un o staff y Mudiad rwy wedi gweld Edmund Owen yn gwneud popeth – ond rhedeg!’ Ac wrth feddwl am Edmund yn y cyswllt hwnnw alla i ddim llai na meddwl am adnod 5 yn Philipiaid 4 yng nghyfieithiad William Morgan, ‘Bydded eich arafwch yn hysbys i bob dyn.’ Mewn cyfieithiadau a fersiynau diweddarach cyfieithir y gair ‘arafwch’ fel ‘hynawsedd’ neu ‘garedigrwydd’. Felly, os nad oedd yn enwog am redeg, nid araf oedd Edmwnd ond hynaws a charedig. Gallaf dystio yn bersonol i hynny. Gallai ei gydweithwyr dystio i hynny, a gallai Mair Jones yn sicr (Mair Mudiad – sy heb fod yn dda iawn ei hwyl) dystio i hynny dros flynyddoedd o gydweithio agos. Edmund a’i bensil a’i bapur, Mair wrthi yn gosod mewn print, ac Edmwnd yn golygu a chywiro hynny. A’r cyfan mewn ysbryd hynaws.
Cawsom, fel cwmni yn y Seiat yng nghartref Howie ac Eira Jones yn Llanedi, y fraint o gael Edmund yn ein harwain am nifer o flynyddoedd. Wrth ddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed rhannodd â ni ei fod wedi gofyn i’r Arglwydd, os yn ei ewyllys, roi 10 mlynedd arall iddo i’w wasanaethu. Cafodd ei ddymuniad. Diolchwn i’r Arglwydd am y tosturi hwnnw.
Hoffai Edmund gyfeirio yn joclyd o bryd i’w gilydd nad oedd ganddo gymar. Ond rhannodd gyda mi fwy nag unwaith yn y blynyddoedd hynny wrth
deithio i Fryntirion ei hoffter a’i edmygedd o eneth yn y Gogledd – Beti Wyn Roberts. Ceisiais ei gynghori i gymryd camau pendant y pryd hynny, ond yn hyn – fel ymhopeth arall – doedd Edmwnd ddim am ruthro!
Wrth arwain ein Seiat olaf cyn mynd i’r Gogledd i sicrhau’r uniad â Beti Wyn dewisodd yn destun Diarhebion 5: 5 – 6 ‘Ymddiried yn llwyr yn yr
Arglwydd, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun. Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau’n union.’
Fel enghraifft o’r egwyddor honno ar waith trodd at hanes Ruth a Boas yn cydnabod Duw ac yntau yn hyfforddi eu llwybrau. Ar ben hynny, meddai Edmund, (ac rwy’n sicr roedd yna wên fach ar ei wefusau) ‘Symudodd Duw bob rhwystr ac mae Ruth a Boas yn priodi’. A dyna a ddigwyddodd i Beti ac Edmund. Rhoddwyd i Edmund ei ddeng mlynedd ychwanegol, a rhoddwyd iddo hefyd gymar y bu’n dyheu amdani.
Diolch Beti am eich gofal a chysured yr Arglwydd chi yn eich hiraeth. Mae Edmund bellach yn blasu’r trugareddau sy’n dragywydd yn parhau. A chysur mawr, mawr yw hynny.